IBERS yn Cynnal Cynhadledd Monogram 2025 Lwyddiannus yn Aberystwyth

Monogram 2025

Monogram 2025

Cynhadledd Monogram yn dychwelyd i Aberystwyth ar ôl 12 mlynedd

Roedd Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth yn falch o gael cynnal cynhadledd Monogram 2025 eleni, gan groesawu dros 150 o gynadleddwyr o bob cwr o'r Deyrnas Unedig a thu hwnt. Bu’r digwyddiad yn hynod llwyddiannus gan ddod ag ymchwilwyr blaenllaw, gwyddonwyr ar ddechrau eu gyrfa, a phartneriaid o fyd diwydiant at ei gilydd am dri diwrnod o gyflwyniadau diddorol, trafodaethau i ysgogi’r meddwl, a rhwydweithio cydweithredol yn canolbwyntio ar ymchwil ar rawnfwydydd a gwyddor glaswellt.

Agorodd y gynhadledd â menter newydd a gynlluniwyd i gynorthwyo Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa. Roedd y gweithdy pwrpasol hwn yn cynnig man croesawgar i fyfyrwyr PhD ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol ystyried llwybrau gyrfaol y tu hwnt i'w hastudiaethau doethurol, ac i rannu strategaethau ar gyfer manteisio i'r eithaf ar gynadleddau. Canmolwyd y sesiwn yn eang gan y cyfranogwyr, a oedd yn gwerthfawrogi'r amgylchedd agored a chefnogol.

Roedd prif raglen y gynhadledd yn cynnig amrywiaeth eang o bynciau, gan adlewyrchu dyfnder ac ehangder ymchwil yn ymwneud â phlanhigion a chnydau. Ar Ddiwrnod 1 cafwyd pedair sesiwn fywiog yn trafod arallgyfeirio cnydau, gwytnwch, a thrafodaeth ysgogol ar 'O’r Fferm i’r Fforc: Ansawdd a Maeth.' Roedd cyflwyniadau byr a sesiwn boster ddifyr yn cynnig cyfleoedd pellach ar gyfer cyfnewid gwybodaeth a chydweithio.

Parhaodd y ffocws cryf ar wyddoniaeth ar Ddiwrnod 2, gyda sesiynau ar Ffisioleg a Defnyddio Adnoddau, Genomeg Cnydau a Biowybodeg, a Datblygu o Dan ac Uwchben y Tir ar gyfer Twf ac Addasu. Un o'r prif uchafbwyntiau i lawer o’r cynadleddwyr oedd y daith o amgylch adnoddau ardderchog IBERS, gan gynnwys y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol, y Ganolfan Bioburo, a'r Biofanc Hadau - i weld ein seilwaith ymchwil arloesol ac i glywed mwy am ein rhaglenni ymchwil presennol. Canmolodd y cynadleddwyr y daith, gyda llawer yn dweud y byddent wedi croesawu hyd yn oed mwy o amser i weld yr adnoddau ardderchog hyn.

Drwy gydol y digwyddiad, roedd awyrgylch croesawgar Aberystwyth a heulwen godidog y gwanwyn yn creu'r amodau perffaith ar gyfer rhwydweithio a chymdeithasu. Cafodd y cynadleddwyr giniawau blasus a Swper Mawreddog a ddarparwyd gan y tîm ardderchog ym Medrus, a chafwyd cyfle arbennig i flasu wisgi Cymreig Penderyn diolch i Chris o Eurofins. Un ychwanegiad creadigol unigryw eleni oedd presenoldeb bardd y gynhadledd, Clare Donnison, a grisialodd hanfod y gynhadledd trwy gyfrwng barddoniaeth - nodwedd wreiddiol a chofiadwy a werthfawrogwyd yn fawr gan y cynadleddwyr.

Roedd cynnal Monogram 2025 yn IBERS yn briodol iawn, nid yn unig oherwydd yr enw da sydd gan y sefydliad ym maes y gwyddorau amaethyddol a chnydau, ond hefyd oherwydd bod y digwyddiad yn cyd-fynd yn berffaith â chenhadaeth strategol Prifysgol Aberystwyth i gefnogi arloesedd, cyfnewid gwybodaeth, ac ymchwil dylanwadol sy’n berthnasol yn fyd-eang. Dangosodd y gynhadledd y rhan hanfodol y mae IBERS yn ei chwarae yn nhirwedd ymchwil amaethyddol y Deyrnas Unedig, gan roi llwyfan i Aberystwyth fel canolfan ar gyfer cydweithio a rhagoriaeth wyddonol.

Hoffai IBERS a Phwyllgor Llywio Monogram estyn eu diolch diffuant i noddwyr y digwyddiad am eu cefnogaeth hael a helpodd i wneud y digwyddiad yn bosibl.  Drwy eu cyfraniadau, llwyddwyd i sicrhau bod Monogram 2025 yn ddigwyddiad croesawgar, ag adnoddau da, ac yn hygyrch i ymchwilwyr ar bob cam o'u gyrfaoedd, yn ogystal รข bod yn werthfawr yn wyddonol.

Wrth i'r gynhadledd ddirwyn i ben, gadawodd y cynadleddwyr â syniadau newydd, cysylltiadau newydd, a disgwyliadau uchel ar gyfer Monogram 2026, a fydd yn cael ei gynnal gan NIAB yng Nghaergrawnt.