Canolfan Cyfnewid Gwybodaeth IBERS yn Cefnogi Cydweithio â Ffermwyr er mwyn Diogelu Cyflenwadau Dŵr

18 Chwefror 2025

 Mae'r Ganolfan Cyfnewid Gwybodaeth yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth, wedi ymrwymo i feithrin dulliau gweithredu arloesol ac atebion ymarferol yng nghymuned amaethyddol Cymru. Mae proses gydweithio ddiweddar a hwyluswyd drwy'r Rhaglen Cyswllt Ffermio yn enghraifft o'r ymrwymiad hwn, gan ddangos sut y gall cyfnewid gwybodaeth a dysgu rhwng cymheiriaid sbarduno newid cadarnhaol ar ffermydd Cymru.


Defnyddio Technoleg i Ddiogelu Cyflenwadau Dŵr Fferm


Mae Dai Evershed, ymchwilydd IBERS a ddychwelodd i fferm ei deulu yng Ngheredigion yn 2022, wedi bod yn defnyddio technoleg LoRaWAN gyda chymorth arbenigwyr IBERS a Cyswllt Ffermio, er mwyn monitro lefelau dŵr, canfod gollyngiadau, a sicrhau defnydd effeithlon o'r cyflenwad dŵr ffynnon cyfyngedig ar ei fferm. Mae'r dull arloesol hwn yn gwella diogelwch dŵr, yn lleihau gwastraff ac yn darparu gwybodaeth amser real am reoli dŵr.


Gan gydnabod potensial y dechnoleg hon, gofynnodd y ffermwr defaid o Bowys, Aled Haynes, i Dai fod yn fentor iddo er mwyn cyflwyno atebion tebyg ar ei fferm ei hun. Trwy Cyswllt Ffermio, roedd Aled wedi gallu dysgu o brofiadau Dai a mabwysiadu dull costeffeithiol, wedi'i sbarduno gan ddata er mwyn monitro a diogelu adnoddau dŵr ei fferm. Mae'r berthynas fentora hon wedi rhoi'r hyder a'r wybodaeth ymarferol i Aled fuddsoddi mewn technoleg sy'n lleihau'r risg o brinder dŵr, yn gwella cadernid y fferm, ac yn sicrhau cynaliadwyedd er gwaethaf anwadalrwydd cynyddol yr hinsawdd.


Yn ddiweddar, rhoddodd Dai gyflwyniad am y cydweithio hwn mewn gweithdy yng Nghanolfan Cyfnewid Gwybodaeth IBERS, a drefnwyd i feithrin perthynas rhwng ymchwilwyr a'r gymuned ffermio. Roedd ei wybodaeth am fanteision ymarferol technoleg LoRaWAN a rôl mentora rhwng cymheiriaid yn cynnig gwersi pwysig i ffermwyr eraill sy'n ystyried cyflwyno atebion tebyg.


Cysondeb â Nodau Strategol IBERS


Mae'r bartneriaeth hon yn cyd-fynd yn uniongyrchol â nodau strategol IBERS, sy'n canolbwyntio ar y canlynol:

  • Rheoli tir a dŵr yn gynaliadwy – Trwy annog pobl i fabwysiadu systemau monitro craff, mae IBERS yn cefnogi ffermwyr Cymru i reoli adnoddau naturiol yn fwy effeithlon.
  • Cyfnewid gwybodaeth ac ymchwil gymhwysol – Hwyluso dysgu rhwng cymheiriaid trwy Cyswllt Ffermio a llwybrau cyfnewid gwybodaeth eraill sy'n sicrhau bod datblygiadau arloesol yn cyrraedd y gymuned ffermio mewn ffordd hygyrch, ymarferol.
  • Cadernid ym maes amaethyddiaeth – Trwy integreiddio technoleg i wella diogelwch dŵr, gall ffermwyr liniaru risgiau sy'n gysylltiedig â'r hinsawdd a gwella eu cynhyrchiant hirdymor.

Yn IBERS, mae'n dda gennym gefnogi mentrau fel y Rhaglen Cyswllt Ffermio, sy'n dod â ffermwyr, ymchwilwyr ac arbenigwyr y diwydiant at ei gilydd i sbarduno datblygiadau arloesol a chynaliadwyedd ym maes amaethyddiaeth Cymru. Mae llwyddiant cydweithrediad Dai ac Aled yn dangos pŵer cyfnewid gwybodaeth wrth helpu ffermwyr i fynd i'r afael â heriau'r byd go iawn a gweithio tuag at greu sector ffermio mwy cadarn a chynhyrchiol.