Ymchwil i ddefnydd tir a newid hinsawdd a allai arbed £1.6 biliwn i economi Prydain
Dr Pip Nicholas-Davies
23 Hydref 2024
Mae gwyddonwyr yn Aberystwyth yn helpu’r sector amaethyddol i gyrraedd ei dargedau sero net drwy wneud y defnydd gorau o laswelltir y Deyrnas Gyfunol.
Drwy ymchwilio i gyflwyno dulliau manwl o bori, porthiant, tir pori, a chnydau coed a biomas sydd wedi’u targedu, gallai’r academyddion arbed dros £1.6 biliwn y flwyddyn i economi’r Deyrnas Gyfunol, ynghyd â helpu i liniaru newid hinsawdd.
Mae glaswelltir yn gorchuddio mwy na 70% o dir amaethyddol y Deyrnas Gyfunol ac amcangyfrifir y byddai dal carbon a’i storio, o dan briddoedd glaswelltir yn bennaf, yn gallu cyfrif am hanner y cyfraniad a wneir gan amaeth tuag at gyrraedd sero net.
Wedi’i ariannu gan UKRI, mae prosiect Glaswelltir tair blynedd ‘Defnydd Tir ar gyfer Natur a Phobl Sero Net’ (LUNZ) yn cynnwys academyddion o Brifysgol Aberystwyth ac yn cael ei gydlynu gan Brifysgol Gorllewin Lloegr.
Dywedodd Dr Pip Nicholas-Davies, Uwch Ddarlithydd yn Adran Gwyddorau Bywyd Prifysgol Aberystwyth:
“Mae glaswelltiroedd yn hanfodol fel ased naturiol ar gyfer cyrraedd targedau cenedlaethol a rhyngwladol ym meysydd yr hinsawdd, natur a bioamrywiaeth, yn ogystal â bod yn ffynhonnell o fwyd maethlon. Mae’n gyffrous i’r tîm yma fod yn rhan o’r ymchwil blaengar hwn i themâu cydgysylltiedig iechyd pridd, systemau amaethyddol a newid defnydd tir.
“Fel cymdeithas, mae angen i ni ailfeddwl, ar frys, yr ymagweddau tuag at ddefnyddio tir a llunio polisi sy'n hybu dulliau rheoli glaswelltir ar raddfa fawr, hirdymor ac integredig. Bydd y prosiect yn ystyried sut y gellir trawsnewid glaswelltiroedd y Deyrnas Gyfunol tuag at gyrraedd sero net ac, ar yr un pryd, gwella iechyd y pridd a bioamrywiaeth. Gallai hefyd sicrhau manteision economaidd mawr gan arbed symiau sylweddol i’r economi bob blwyddyn, er enghraifft drwy leihau’r angen am fewnbynnau fel gwrtaith nitrogen.”
Mae’r prosiect Glaswelltir LUNZ yn un o bum rhaglen ymchwil a ariennir i fynd i’r afael â her allyriadau sero net yn y Deyrnas Gyfunol erbyn 2050. Bydd y pum prosiect yn gweithio ochr yn ochr â’r Ganolfan LUNZ i rannu eu canfyddiadau â llunwyr polisïau ac eraill.
Dywedodd cyd-arweinydd Canolfan LUNZ, yr Athro Lee-Ann Sutherland o Sefydliad James Hutton:
“Dyma brosiectau arloesol ac uchelgeisiol sy’n ymdrin â llawer o’r bylchau mawr yn yr ymchwil, ac â’r heriau sy’n ymwneud â’r ffordd yr ydym yn trawsnewid defnydd tir y Deyrnas Gyfunol ar gyfer ein nodau hinsawdd ac er budd y gymdeithas yn gyffredinol.
“Mae dyluniadau’r prosiectau hyn yn adlewyrchu llawer o nodweddion y Ganolfan: maent yn drawsddisgyblaethol, yn ymdrin â heriau cymdeithasol, economaidd a gwyddonol ar yr un pryd, ac maent yn canolbwyntio’n gryf ar ddylunio a dychmygu posibiliadau a fydd yn esbonio’r newid i Sero Net.”
Mae’r Ganolfan LUNZ yn gonsortiwm o 34 o sefydliadau a’i nod yw darparu’r dystiolaeth sydd ei hangen ar lywodraeth y Deyrnas Gyfunol a’r llywodraethau datganoledig ar gyfer polisïau i ysgogi’r trawsnewid sydd ei angen ar sut y defnyddiwn y tir er mwyn cyrraedd sero net a thargedau amgylcheddol a chymdeithasol eraill erbyn 2050.
Ariennir y prosiect ar y cyd gan UKRI, Defra, DESNZ, ac mae wedi’i gyd-gynllunio â Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban.