MONOGRAM 2025

 

Lleoliad: Ystafell Medrus, Penbryn, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth, Aberystwyth, SY23 3BY Cymru, y Deyrnas Unedig.

Dyddiad dechrau: 7fed Ebrill 2025

Dyddiad gorffen: 10fed Ebrill 2025

Lawrlwythwch yr Monogram 2025 Agenda

 

 

Cofrestrwch yma

Dyddiad cau Taliad Cofrestru 15 Chwefror 2025

https://shop.aber.ac.uk/conferences-and-events/cynadleddau-conferences/addysgol-educational

Cyflwyno Crynodeb

Cyflwyno crynodeb, Dyddiad Cau Taliadau Cofrestru 10fed o Fawrth 2025 dilynwch y ddolen hon:

https://forms.office.com/e/diuDAa6DEU

Mae'n bleser gennym eich croesawu i Brifysgol Aberystwyth, Cymru, y Deyrnas Unedig ar gyfer MONOGRAM 2025.

Mae cynhadledd flynyddol Monogram https://monogram.ac.uk yn dod ag ymchwilwyr sydd â diddordeb gweithredol mewn ymchwil grawn mân a gweiriau (gan gynnwys gweiriau ynni C4) ynghyd. Mae'r gynhadledd yn cynnwys gweithdy Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa cyn y gynhadledd, sgyrsiau cyfarfod llawn a phrif siaradwr, darlith Gwobr Rank, darlith ragoriaeth ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa Gwobr Rank, Gwobrau Rhagoriaeth Dechrau Gyrfa Monogram a sgyrsiau dethol o’r crynodebau a gyflwynir, sesiynau poster a sgyrsiau fflach poster. Mae'r gynhadledd hon yn agored i bob ymchwilydd yn y byd academaidd ac mewn diwydiant sydd â diddordeb mewn grawn a gweiriau. 

Sesiynau'r Gynhadledd

Sesiynau'r Gynhadledd

  • Amrywiaethu cnydau ar gyfer bwyd, porthiant a bio-ynni
  • Rheoli straen Anfiotig a Biotig ar gyfer gwytnwch
  • O'r Fferm i'r Fforc: Ansawdd a Maeth
  • Ffisioleg a Defnyddio Adnoddau
  • Genomeg Cnydau a Biowybodeg
  • Datblygiad Islaw ac Uwchben y Tir ar gyfer tyfiant ac addasu
  • Ffenomeg a Deallusrwydd Artiffisial er mwyn gwella cnydau yn fanwl gywir

Sesiynau poster: Y maint a argymhellir ar gyfer poster yw Portread A1.

Prif Siaradwyr


Yr Athro Janneke Balk
John Innes Centre
Prif Sgwrs Rank Prize: Mineral biofortification of crops: from Arabidopsis to wheat field trials.
 
 

Dr. Simon Giffiths
John Innes Centre
Prif Sgwrs: Barley crop evolution through the lens of pangenomics.

Dr. Pallavi Singh
Prifysgol Essex
Prif Sgwrs: Hard Graft- Enhancing water use efficiency in crops.
 
 
 
Dr. Catherine Howarth
IBERS, Prifysgol Aberystwyth 
 
 
 
Yr Athro. Ji Zhou
NIAB
 
 
 
 
Dr Stéphanie Swarbreck
NIAB
 
 
 
 
 
Dr. Lorna McAausland
Prifysgol Nottingham
Prif deitl petrus: Turning up the heat; assessing photosynthetic acclimation to heat from wheat leaf to spike.
 
 
 
Dr Jim Fouracre
Prifysgol Bristol
ECR Rank Prize Lecture: Harnessing SPL transcription factors for real yield increases in false flax.
 
 

Dyddiadau Allweddol

Dyddiadau Allweddol 

  • Dyddiad cau Taliad Cofrestru 15 Chwefror 2025
  • Dyddiad Cau Cyflwyno Crynodebau 10fed o Fawrth 2025
  • Dyddiad Cau Ceisiadau Bwrsariaethau MECEA ac Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa 11eg Chwefror 2025
  • Hysbysiad am y Crynodebau 28ain Chwefror 2025 

Gweithdy i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa cyn y gynhadledd ar 7 Ebrill 2025 gan MONOGRAM

Gweithdy i Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa cyn y gynhadledd ar 7 Ebrill 2025 gan MONOGRAM

Mae Monogram 2025 yn cynnal gweithdy wyneb yn wyneb cyn y gynhadledd ar gyfer Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa ar y 7fed o Ebrill 2025 o 2pm yn Ystafell Medrus, Penbryn, Campws Penglais. Fel rhan o ymrwymiad i ddatblygu Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa yn y diwydiant grawn mân, bydd y gweithdy'n cynnwys sesiynau ar opsiynau gyrfa gyda siaradwyr o'r byd academaidd, sefydliadau a diwydiant, a bydd yn fodd i fanteisio i'r eithaf ar y gynhadledd. Bydd sesiwn rwydweithio bwrpasol hefyd ar gyfer Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa gyda chinio a chwis tafarn! Mae Monogram wedi sicrhau bod 25 o leoedd wedi'u hariannu'n llawn ar gael yn y gweithdy hwn i'r cyntaf i'r felin. 

*Mae angen cofrestru i fynychu'r gynhadledd er mwyn mynychu'r gweithdy ar y 7fed o Ebrill 2025.

Gwobrau Rhagoriaeth ar Ddechrau Gyrfa MonoGram

Gwahoddir enwebiadau ar gyfer yr 11eg Gwobr Rhagoriaeth ar Ddechrau Gyrfa MonoGram (MECEA) flynyddol. 

  • Myfyrwyr PhD
  • Gwyddonwyr ôl-ddoethurol ar ddechrau eu gyrfa (hyd at 5 mlynedd ar ôl graddio gyda PhD)

Nod y gwobrau hyn yw rhoi cydnabyddiaeth i wyddonwyr ac ymchwilwyr ifanc rhagorol ym maes ymchwil grawn mân a gwair yn y Deyrnas Unedig. Mae gwobrau MECEA yn ystyried cyfraniadau ymchwil mewn disgyblaethau sylfaenol a chymhwysol, yn ogystal â chyfraniadau rhagorol i weithgareddau allgymorth a hyrwyddo gwyddonol. Bydd yr enillwyr yn derbyn gwobr ariannol o £300 a byddant yn cael cyfle i gyflwyno eu gwaith ym MONOGRAM 2025. Gellir dod o hyd i’r meini prawf cymhwysedd a'r broses ymgeisio ar wefan MECEA. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15eg Chwefror 2025.

Bwrsariaethau Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa: Mae bwrsariaethau Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa ar gael i dalu ffioedd cofrestru 2 fyfyriwr PhD a 2 ymchwilydd ôl-ddoethurol (hyd at 5 mlynedd ar ôl graddio gyda PhD). Bydd pwyllgor Monogram yn dewis y ceisiadau gorau yn seiliedig ar deilyngdod a'u gallu i ddangos angen am y fwrsariaeth er mwyn mynychu'r gynhadledd a byddwn yn sicrhau cydbwysedd o ran rhyw ac amrywioldeb yn ystod y broses ddethol. Mae angen i'r cais gynnwys CV 2 dudalen ac 1 dudalen yn disgrifio eich gwaith, eich cyflawniad a sut y byddai'r fwrsariaeth hon o fudd i'ch datblygiad gyrfaol. Ar gyfer bwrsariaethau Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa anfonwch gais i monogram2025@aber.ac.uk  Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 15eg Chwefror 2025.

Gwobrau teithio gan Gymdeithas y Biolegwyr Cymhwysol (AAB) 

Gwobrau teithio gan Gymdeithas y Biolegwyr Cymhwysol (AAB) 

Grantiau Teithio Cymdeithas y Biolegwyr Cymhwysol ar gyfer Gweithwyr Proffesiynol ar Ddechrau eu Gyrfa

Mae'n bleser gan Gymdeithas y Biolegwyr Cymhwysol gynnig tri grant o £350 er mwyn cefnogi presenoldeb Gweithwyr Proffesiynol ar Ddechrau eu Gyrfa yng nghynhadledd Monogram 2025 (gweithwyr sydd o fewn 5 mlynedd i orffen addysg amser llawn, ac eithrio seibiannau gyrfa). Gwnewch gais am y grant hwn cyn 31ain Ionawr 2025  https://www.aab.org.uk/conferences/student-travel-grants/.

Ynglŷn ag Aberystwyth 

Ynglŷn ag Aberystwyth 

Mae Aberystwyth yn dref glan môr hanesyddol ar arfordir gorllewinol Cymru, yn swatio rhwng Mynyddoedd Cambria a Môr Iwerddon. Mae'r dref yn gartref i Brifysgol Aberystwyth, un o brifysgolion hynaf Cymru.

Prifysgol Aberystwyth Cafodd ei sefydlu yn 1872 fel Coleg cyntaf Prifysgol Cymru, ac mae'n enwog yn fyd-eang am ragoriaeth ei haddysg a'i hymchwil. Prif flaenoriaeth y Brifysgol yw sicrhau amgylchedd diogel a chefnogol i fyfyrwyr ac fe'i henwyd fel yr orau yng Nghymru o ran boddhad myfyrwyr am y nawfed flwyddyn yn olynol (Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr 2024). Mae Aberystwyth hefyd yn cael eu henwi gan Good University Guide 2024 The Times a Sunday Times ymhlith y tair prifysgol orau yn y Deyrnas Unedig o ran ansawdd yr addysg a phrofiad myfyrwyr.

https://www.accessable.co.uk/organisations/aberystwyth-university

Lleoliad y gynhadledd: Ystafell Medrus, Penbryn, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Teithio i Brifysgol Aberystwyth

Teithio i Brifysgol Aberystwyth

Ar y ffordd

Caer i Aberystwyth: Pellter: 98 milltir; Amser: tua 2 awr 30 munud

O Gaer dilynwch yr A483 (trwy Wrecsam) ac yna'r A5 i Groesoswallt, dilynwch yr A483 i'r Trallwng ac yna i'r Drenewydd. O'r Drenewydd dilynwch yr arwyddion ar gyfer yr A470 i Langurig, o'r fan honno dilynwch yr A44 i Aberystwyth.

I gyrraedd Campws Penglais - dilynwch yr A44 drwy Lanbadarn Fawr (1 filltir o Aberystwyth). Trowch i'r chwith wrth y goleuadau traffig ar ôl yr orsaf betrol, yna trowch i'r chwith yn syth wedyn i barhau ar hyd yr A44. Yn Nhafarn y Coopers Arms, ar ddiwedd yr A44, trowch i'r dde ar Ffordd Penglais A487 (gan ddilyn arwydd y Brifysgol) a gyrru i fyny'r allt am hanner milltir, gan fynd heibio i Ymddiriedolaeth GIG Bronglais a'r Llyfrgell Genedlaethol. Mae campws Penglais i'w weld yn glir ar yr de.

Birmingham i Aberystwyth: Pellter: 124 milltir; Amser: tua 2 awr 50 munud

Ar yr M6 i'r gogledd, dilynwch yr arwyddion i gyfeiriad Telford a'r M54 a'r A5 i'r Amwythig. O'r Amwythig dilynwch arwyddion yr A458 i'r Trallwng, yna'r A483 i'r Drenewydd.  O'r Drenewydd dilynwch yr arwyddion ar gyfer yr A470 i Langurig, o'r fan honno dilynwch yr A44 i Aberystwyth.

I gyrraedd Campws Penglais - Dilynwch yr A44 drwy Lanbadarn Fawr (1 filltir o Aberystwyth). Trowch i'r chwith wrth y goleuadau traffig ar ôl yr orsaf betrol, yna trowch i'r chwith yn syth i barhau ar hyd yr A44. Yn Nhafarn y Coopers Arms, ar ddiwedd yr A44, trowch i'r dde ar Ffordd Penglais A487 (gan ddilyn arwydd y Brifysgol) a gyrru i fyny'r allt am hanner milltir, gan fynd heibio Ymddiriedolaeth GIG Bronglais a'r Llyfrgell Genedlaethol. Mae campws Penglais i'w weld yn glir ar y dde.

Caerdydd i Aberystwyth: Pellter: 109 milltir; Amser: tua 2 awr 30 munud

Dilynwch yr M4 i'r gorllewin, ac ar ddiwedd yr M4, parhewch ar hyd yr A48, gan ddilyn yr arwyddion i Gaerfyrddin. Oddi yno dilynwch yr A486 i Lanbedr Pont Steffan, yna'r A482 i Aberaeron. Yn olaf, dilynwch yr A487 hyd yr arfordir i Aberystwyth.

I gyrraedd Campws Penglais - Dilynwch yr A487 drwy Benparcau (1 filltir o Aberystwyth). Trowch i'r dde wrth y gylchfan, gan ddilyn yr arwydd i gyfeiriad Llanbadarn Fawr, a gyrrwch i lawr gallt serth i gylchfan arall ger Safeway. Trowch i'r dde gan adael y gylchfan ar y ffordd olaf a theithio tuag at Lanbadarn Fawr gan groesi 2 reilffordd. Trowch ar y troad nesaf i'r chwith i'r A44 gan ddilyn arwydd Aberystwyth. Yn Nhafarn y Coopers Arms, ar ddiwedd yr A44, trowch i'r dde ar Ffordd Penglais A487 (gan ddilyn arwydd y Brifysgol) a gyrru i fyny'r allt am hanner milltir, gan fynd heibio Ymddiriedolaeth GIG Bronglais a'r Llyfrgell Genedlaethol. Mae campws Penglais i'w weld yn glir ar y dde.

Ar y Trên

O Orsaf Drenau Euston Llundain neu Orsaf Drenau Milton Keynes, bydd angen i chi ddal trên sy'n teithio i Orsaf Drên Birmingham International neu Birmingham New Street. Bydd angen i chi newid trên ym Mirmingham International neu Birmingham New Street i gyrraedd Aberystwyth. Cyfanswm yr amser teithio o Lundain gan gynnwys y newid yw tua 5 awr

Mae mwy o wybodaeth am deithio i Brifysgol Aberystwyth ar gael yn y ddolen isod.

https://www.aber.ac.uk/cy/discover-aberystwyth/travel/

Gwybodaeth am barcio a mapiau

Mae trwyddedau parcio dros dro ar gael i gynrychiolwyr MONOGRAM 2025! 
Os oes angen trwydded barcio arnoch chi ar gyfer y digwyddiad, anfonwch e-bost atom i gael mwy o fanylion ac i ofyn am un.

Trwyddedau Parcio: https://www.aber.ac.uk/cy/efr/parking/visitor/

Mapiau o'r Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/cy/discover-aberystwyth/maps/

Llety 

Llety 

Opsiynau llety ar y campws: Mae opsiynau llety rhad ar y campws

  • Penbryn: Mae ein llety un ystafell wely ar y llawr cyntaf, yr ail, y trydydd a'r pedwerydd llawr, a chyrhaeddir iddynt gyda grisiau, nid oes lifft. Mae cegin ac ystafell ymolchi a rennir (2 ystafell ymolchi ym mhob fflat, yn cael eu rhannu gan hyd at 20 ystafell wely.) Ni chaniateir anifeiliaid anwes. Isafswm arhosiad 2 noson am £ 30.00 y noson.
  • Byncws: Mae gan y Byncws 90 o ystafelloedd gwely unigol, sy'n cynnwys naill ai gwely dwbl neu wely sengl. Rhannir cyfleusterau cegin llawn offer ac ystafell ymolchi (2 doiled a 2 gawod) ac mae 8 ystafell wely ym mhob fflat.

I weld prisiau ac archebu ewch i:

https://www.aber.ac.uk/cy/visitors/bunkhouse/.

SYLWCH: Cyfeirnod ‘MONOGRAM 2025’ wrth archebu llety ar y campws.

Gwestai Tref Aberystwyth: Mae'r holl westai wedi eu lleoli yn nhref Aberystwyth, dim mwy na 30 munud ar droed o leoliad y gynhadledd.

Dyddiadau Allweddol 

Dyddiadau Allweddol 

  • Dyddiad cau Taliad Cofrestru 15 Chwefror 2025
  • Dyddiad Cau Cyflwyno Crynodebau 10fed o Fawrth 2025
  • Dyddiad Cau Ceisiadau Bwrsariaethau MECEA ac Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa 11eg Chwefror 2025
  • Hysbysiad am y Crynodebau 28ain Chwefror 2025 

 

Cysylltu â ni

 

Cofrestrwch yma

Dyddiad cau Taliad Cofrestru 15 Chwefror 2025

https://shop.aber.ac.uk/conferences-and-events/cynadleddau-conferences/addysgol-educational

Cyflwyno Crynodeb

Cyflwyno crynodeb, Dyddiad Cau Taliadau Cofrestru 10fed o Fawrth 2025 dilynwch y ddolen hon:

https://forms.office.com/e/diuDAa6DEU

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

LinkedIn: https://www.linkedin.com/groups/13114771/

X: @MonogramUK

BlueSky: @monogram-uk.bsky.social