Darlith Is-Lywydd NFU y DU yn nodi canrif o fridio planhigion yn Aberystwyth
Stuart Roberts, Is-Lywydd NFU y DU
06 Mawrth 2019
Bydd Is-Lywydd NFU UK, Stuart Roberts, yn traddodi darlith gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth ar nos Iau 14 Mawrth 2019.
Bydd y ddarlith 'The Future of Food' yn ystyried y cyfnod o ansicrwydd sy’n wynebu sector amaeth y DU yn sgil Brexit.
Noddir y ddarlith gan Ganolfan Stapledon, a dyma fydd y ddarlith agoriadol mewn cyfres o achlysuron i nodi canrif o arbenigedd mewn bridio planhigion yn Aberystwyth, ers sefydlu Gorsaf Fridio Planhigion Cymru yn 1919.
Dywedodd Mr Roberts, sydd yn raddedig o Brifysgol Aberystwyth: "Rwy'n edrych ymlaen at ail-ymweld â Phrifysgol Aberystwyth i gyflwyno'r ddarlith hon i nodi’r canmlwyddiant.
“Mae amaethwyr wedi sicrhau addewid gan Lywodraeth San Steffan o gyfnod pontio rhwng BREXIT â gweithredu polisi amaethyddol newydd a bydd rhaid i'r sector amaeth addasu i gyfundrefn newydd a wynebu cyfnod digynsail o ddiwedd mis Mawrth.
“Fodd bynnag, rwy'n gwybod, os gall unrhyw sector addasu i gyfnodau anodd a heriau newydd, y gymuned ffermio ydy honno. Rwy'n sicr y gwnawn ein gorau glas i ddiogelu safonau cynhyrchu bwyd uchel y DU, beth bynnag a ddaw.”
Mae Mr Roberts yn ffermio 400 hectar yn swyddi Hertford a Chaint mewn partneriaeth â'i wraig Emma a'i dad Howard.
Cyn dychwelyd i'r fferm deuluol, bu Stuart yn gweithio i’r gwasanaeth sifil gyda'r Asiantaeth Safonau Bwyd, Defra ac yn y sector cig coch.
Mae'r fferm yn cynnwys tua 300 hectar o gnydau grawn, a’r gweddill yn dir pori parhaol a choetir, sydd yn cynnwys buches Simmental/Henffordd fasnachol sy’n cynhyrchu gwartheg stôr 14 mis oed a buches fach bedigri o wartheg Henffordd.
Dywedodd yr Athro Alison Kingston-Smith, Deon Cysylltiol Cyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd: “Mae Canolfan Stapledon yn falch iawn o noddi darlith Is-Lywydd NFU y DU, Stuart Roberts, fel y gyntaf mewn cyfres o ddigwyddiadau yn nodi can mlynedd o fridio planhigion yn Aberystwyth.
“Daw’r Ganolfan, a sefydlwyd yn 2017, â thîm rhyng-ddisgyblaethol at ei gilydd o fewn Prifysgol Aberystwyth a fydd yn canolbwyntio ar effaith economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol amaethyddiaeth sy'n seiliedig ar dir pori; ei rôl mewn cymunedau gwledig a'r effeithiau ar drigolion trefol, gan ail-fywiogi ac ymestyn etifeddiaeth Syr George Stapledon.”
Estynnir gwahoddiad cynnes i aelodau’r cyhoedd yn ogystal â myfyrwyr a staff y Brifysgol i’r ddarlith a fydd yn cael ei chynnal am 6:30 yr hwyr yn ystafell A6, Adeilad Llandinam, Campws Penglais, gyda lluniaeth ysgafn yn IBERbach o 5:30 y prynhawn. I gadw sedd e-bostiwch gaj30@aber.ac.uk.