Gwyddonwyr yn harneisio technoleg i helpu cleifion strôc

Dylan Williams sydd yn gwella wedi strôc (sy’n gwisgo oriawr) ac aelodau o’r tîm sy’n gweithio ar yr ap er mwyn gwella safon bywyd dioddefwyr strôc.

Dylan Williams sydd yn gwella wedi strôc (sy’n gwisgo oriawr) ac aelodau o’r tîm sy’n gweithio ar yr ap er mwyn gwella safon bywyd dioddefwyr strôc.

29 Hydref 2019

Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi datblygu ap symudol i wella ansawdd bywyd cleifion strôc.

Byddan nhw’n defnyddio technoleg gwisgadwy i fonitro a dadansoddi symudiadau grŵp o gleifion strôc yn ystod amrywiol weithgareddau.

Mae’r astudiaeth newydd yn cael ei ariannu gan y Grŵp Gweithredu ar gyfer Strôc, sy’n rhan o Wasanaeth Iechyd Genedlaethol Cymru.

Dros gyfnod o 12 wythnos, y nod yw cyflymu’r broses o wella wedi strôc trwy raglen ddwys o ymarfer corff sydd wedi'i theilwra'n benodol ac sy’n defnyddio technoleg i gynorthwyo patrymau symud cymhleth.

Mae’r prosiect rhyngddisgyblaethol yn cael ei arwain gan Dr Federico Villagra, darlithydd mewn Ffisioleg Iechyd ac Ymarfer Corff yn Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol (IBERS), a Dr Otar Akanyeti, sy’n Gymrawd Ymchwil Sêr Cymru yn yr Adran Cyfrifiadureg.

Maen nhw’n gweithio ar y cyd â dau aelod blaenllaw o staff yr Uned Strôc yn Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth - Dr Phil Jones, sy’n Feddyg Ymgynghorol ac yn arweinydd clinigol ar gyfer strôc yng Nghymru, a Sarah Jones, sy’n Brif Nyrs Ymchwil.

Dywedodd Dr Phil Jones: “Trwy brosiectau ymchwil, mae gofal strôc acíwt wedi dod yn bell dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Mae'n bwysig cydnabod effaith gydol oes strôc ac ymchwilio i ddulliau a allai helpu i wella ansawdd bywyd i'r rhai sydd wedi dioddef strôc. Gallai’r prosiect cyffrous ac arloesol hwn arwain at wella gofal strôc ymhellach. Mae'r cydweithrediad cynyddol rhwng Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Aberystwyth mewn prosiectau o'r fath hefyd i'w groesawu'n fawr. "

Dywedodd Dr Akanyeti: “Mae eistedd, sefyll neu orwedd oll yn weithgareddau rydyn ni'n tueddu i'w cymryd yn ganiataol ond maen nhw i gyd yn gofyn bod cyfres o rannau o'r corff yn gweithio mewn cydamseriad perffaith. Mae strôc yn effeithio ar allu'r corf i symud a gall gael effaith negyddol ar ansawdd bywyd claf. Mae dyfeisiau gwisgadwy wedi eu cyfuno gyda deallusrwydd artiffisial yn caniatáu inni fesur yr effaith hon yn wrthrychol ac yn awtomatig.”

Dywedodd Dr Villagra: “Mae tua 7,400 o bobl yn dioddef strôc yng Nghymru bob blwyddyn, gyda chyfanswm at ei gilydd o ddeutu 66,000 o ddioddefwyr strôc. Amcangyfrifir y gellid osgoi hyd at 70% o'r holl strôc pe bai'r ffactorau risg yn cael eu trin a phobl yn mabwysiadu ffyrdd iachach o fyw. Mae ein hymchwil yn dwyn ynghyd dechnoleg ac ymarfer corff mewn rhaglen adsefydlu gyda'r nod o wella ansawdd bywyd cleifion strôc. Ein nod tymor hir yw sefydlu canolfan adsefydlu strôc yn y Brifysgol, gan weithio gyda chydweithwyr o wahanol ddisgyblaethau yn ogystal â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol lleol.”

Dywedodd David Langford, ffisiolegydd ymarfer corff ac ymchwilydd cyswllt y prosiect: “Bydd y rhaglen yn gwella gwybodaeth pobl am ddefnyddio ymarfer corff fel rhan o’r broses adfer ar ôl strôc ac mae’n gyfle gwych i wella eu hiechyd a’u ffitrwydd yn gyffredinol.”

Mae'r astudiaeth yn dechrau ym mis Hydref 2019 gyda chleifion yn cael eu cyfeirio trwy uned strôc Ysbyty Bronglais.

Am wybodaeth bellach, cysylltwch â Dr Federico Villagra fev1@aber.ac.uk neu Dr Otar Akanyeti ota1@aber.ac.uk.