Cyn-fyfyrwyr a staff yn dathlu 100 mlynedd o Fridio Planhigion yn Aberystwyth

Cyn aelodau staff yn dathlu 100 mlynedd o Fridio Planhigion yn Aberystwyth

Cyn aelodau staff yn dathlu 100 mlynedd o Fridio Planhigion yn Aberystwyth

03 Awst 2019

Mae 100 mlynedd o arbenigedd bridio planhigion arobryn yn Aberystwyth yn cael ei ddathlu gyda chyfres o ddigwyddiadau wedi’u trefnu gan Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth.

Sefydlwyd Gorsaf Bridio Planhigion Cymru yn Aberystwyth yn 1919 yn wreiddiol yn yr hen ffowndri Ffordd Alexandra, cyn symud i Adeilad Cledwyn ar Rhiw Penglais yn y 1930au hwyr, ac yna i’w leoliad presennol yng Ngogerddan yn 1954.

Bu Cymdeithas Cyn-fyfyrwyr Aberystwyth yn ymweld â champws Gogerddan fel rhan o’i aduniad blynyddol ar 21 a 22 Mehefin 2019.

Yn ystod taith o’r cyfleusterau cyflwynodd yr Athro Emeritws Desmond Hayes fainc i’r Brifysgol i nodi’r garreg filltir hanesyddol hon.

Wrth annerch ei gyd gyfoedion a staff, dywedodd yr Athro Hayes, a welodd ei yrfa ddisglair yn para dros bum degawd o’r 1940au i’r 1980au ym Mhrifysgol Aberystwyth; “Mae’r Orsaf wedi gwneud cyfraniad enfawr i wella glaswelltiroedd ledled y byd.”

Cyflwynwyd y fainc gan ei deulu gan “ddiolch i’r Brifysgol am yr ysgoloriaeth, y cyfeillgarwch a’r yrfa a roddodd gymaint o foddhad iddo dros y blynyddoedd.”

Yr Athro Emeritws Desmond Hayes gyda’r Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS

Ddydd Mawrth 2 Gorffennaf, daeth cyn aelodau staff Gogerddan ynghyd am ddiwrnod o ddathlu gyda chyflwyniadau gan ein harbenigwyr bridio planhigion presennol a theithiau o amgylch y safle.

Cafwyd ymweliad â’r Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion, labordai bio-buro BEACON a chipolwg ar y BioFanc Hadau newydd sbon yng nghampws newydd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth Gogerddan.

Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS: “Anrhydedd fawr yw croesawu yn ôl y bobl sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i lwyddiant IBERS. Mae gennym draddodiad hir a balch o ymchwil sydd yn cael ei gydnabod ar draws y byd, ac am barhau â hyn gan ymateb i heriau’r presennol er mwyn bwydo’r byd ac ymateb i effeithiau newid yn yr hinsawdd.”