Cronfa JDR a Gwyneth Thomas

03 Hydref 2017

Mae Cronfa JDR a Gwyneth Thomas yn cynnig cyfle am gymorth ychwanegol i fyfyrwyr ym meysydd economi neu wyddorau cefn gwlad.

Sefydlodd yr Athro Thomas a'i wraig Gwyneth y gronfa yn 2008 er cof am dad yr Athro Thomas, sef John Thomas, a astudiodd Amaethyddiaeth yn Aberystwyth. Mae gan y teulu gysylltiadau hefyd ag un o gyn-Gofrestryddion Prifysgol Aberystwyth, sef T. Maelgwyn Davies, ac un o'r cyn-Lywyddion, Syr John Williams GCVO.

Graddiodd yr Athro JDR Thomas o Brifysgol Caerdydd ac fe fu'n Athro Cemeg yno'n ddiweddarach, ond fe gadwodd gyswllt agos â Phrifysgol Aberystwyth drwy roi llawer o ddarlithoedd gwadd yma dros y blynyddoedd. Yn ystod ei yrfa academaidd, a barhaodd fwy na 50 o flynyddoedd, roedd yr Athro Thomas yn Llywydd ar Adran Ddadansoddol y Gymdeithas Gemeg Frenhinol ac mae wedi cyhoeddi corff helaeth o waith yn ei faes. Erbyn hyn mae'r Athro Thomas yn byw yn Wrecsam ac mae'n mwynhau cadw golwg ar y datblygiadau ym Mhrifysgol Aberystwyth ac ar ei Gronfa drwy'r Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau. Mae'r Athro Thomas yn dal i gyfrannu at ei Gronfa ac mae'r Brifysgol yn ddiolchgar iawn iddo am ei haelioni parhaol.

Yn ôl y Dr Dylan Gwynn Jones, Darllenydd a Darlithoedd Ecoleg yn IBERS, “mae'r gronfa hon yn gyfle unigryw a gwerthfawr i siaradwr Cymraeg sy'n astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth i fanteisio ar ddysgu am economeg neu wyddorau cefn gwlad.”

Gwahoddir ceisiadau am y gronfa gan unrhyw fyfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd â diddordeb ym meysydd economi neu wyddorau cefn gwlad. Gellir defnyddio'r cronfeydd i helpu i gynnal astudiaethau israddedigion, i gyfrannu at astudiaethau uwchraddedig neu i gynorthwyo â gwaith ymchwil gan fyfyrwyr.

I wneud cais am gymorth gan y gronfa, gofynnir i fyfyrwyr gyflwyno dau dudalen o CV ynghyd â llythyr (yn Gymraeg) yn rhoi braslun ar sut y byddai'r arian yn cael ei wario a sut y byddai'n llesol i'w haddysg. Bydd y ceisiadau yn cael eu pwyso a'u mesur ar sail rhagoriaeth academaidd neu addewid academaidd.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael £500 dros y flwyddyn academaidd. Rhaid i'r unigolyn fedru siarad Cymraeg yn rhugl a/neu fod wedi cael gradd C yn y Gymraeg ar safon TGAU neu'n uwch. Dylid anfon ceisiadau at Beth Hendy yn bsh3@aber.ac.uk erbyn 15 Rhagfyr 2017.