Myfyrwyr yn gwobrwyo cefnogaeth ragorol

13 Mai 2013

Mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn falch iawn o dderbyn Cymeradwyaeth Uchel ar gyfer gwobr Adran y Flwyddyn yn yr ail Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr erioed ar ddydd Mawrth 30 Ebrill ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Daeth llwyddiant personol hefyd  i Dr Iwan Owen, Darlithydd a Chydlynydd y cynlluniau gradd Amaethyddiaeth a enillodd y Wobr Effaith Cyflogadwyedd. Mae gwobr Iwan yn gydnabyddiaeth o’i ymdrechion i gefnogi myfyrwyr i sicrhau gwaith cyflogedig.

Cynigwyd yr enwebiadau ar gyfer y Gwobrau gan fyfyrwyr ar-lein ac mewn blychau pleidleisio confensiynol - nifer ohonynt mewn lleoliadau gwahanol ar draws y Brifysgol.
Derbyniwyd dros 250 o enwebiadau  gyda'r enillwyr a'r rhai a dderbyniodd glod gan banel o feirniaid.

Dywedodd trefnydd y digwyddiad Jess Leigh, Swyddog Addysg, Undeb y Myfyrwyr:"Roedd y digwyddiad yn llwyddiant mawr o ganlyniad i gefnogaeth staff a myfyrwyr. Oni bai am eu brwdfrydedd, ni fyddai wedi bod yn gymaint o lwyddiant. Roedd yn gyfle i fyfyrwyr ddiolch a gwobrwyo staff ymhob rhan o’r brifysgol am y gwaith y maent wedi'u wneud gyda nhw ac ar eu cyfer, ac i ddathlu gyda'i gilydd.

Ychwanegodd Dr Iwan Owen o IBERS, enillydd y Wobr Effaith Cyflogadwyedd: “Yr wyf wrth fy modd gyda'r wobr. Mae'r ffaith ei fod yn wobr a arweinir gan fyfyrwyr yn arbennig o bwysig i mi gan fod cydnabyddiaeth neu glod gan y myfyrwyr a ddysgwn yn arwydd clir bod ein hymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi.

“Rwy’n arbennig o falch i dderbyn gwobr sy’n gysylltiedig â chyflogaeth a chyflogadwyedd. Ni all, ac ni ddylai  astudiaeth academaidd gael ei ynysu oddi wrth y byd gwaith. Dylai cyrsiau gradd ymdrechu nid yn unig i sicrhau bod myfyrwyr yn cael eu herio’n academaidd, ond hefyd ddarparu cyfleoedd i ddatblygu’r sgiliau, y cysylltiadau a’r profiad o'r gweithle i sicrhau cyflogaeth a llwyddiant mewn gyrfa. "

Llongyfarchiadau i bawb a dderbyniodd wobr a'r rhai a enwebwyd, a diolch i'r cannoedd fu'n enwebu.