Waitrose yn Ariannu’r Gadair Gyntaf mewn Amaethyddiaeth Gynaliadwy
Dydd Llun 14 Rhagfyr 2009
Fel rhan o’i ymroddiad hirdymor i amaethyddiaeth Prydain, mae Waitrose yn helpu i sefydlu swydd academaidd ym maes sicrhau cyflenwadau bwyd, sef y cyntaf o’i bath yng ngwledydd Prydain.
Bydd swydd Cadair Amaethyddiaeth Gynaliadwy ym Mhrifysgol Aberystwyth ar flaen y maes wrth wneud gwaith ymchwil hanfodol i helpu i sicrhau cyflenwadau bwyd ym Mhrydain dros y degawdau nesaf.
Bydd y sawl a benodir i’r swydd allweddol hon a ariannir gan Waitrose yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), ac yn cyfrannu at uchelgais y Brifysgol i roi IBERS ar flaen y gad wrth ddefnyddio gwyddoniaeth i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd ac i sicrhau cyflenwadau bwyd yn y tymor hir.
Dyma a ddywedodd Heather Jenkins, Cyfarwyddwraig Strategaeth Amaethyddol Waitrose: “Mae sefydlu’r gadair hon yn adlewyrchu ein hymroddiad hirdymor i sicrhau ein cyflenwad bwyd yn y dyfodol ac i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Bydd y swydd newydd hon ar flaen y gad wrth ymchwilio i sut y gall amaethyddiaeth gwledydd Prydain gynnig atebion i’r materion hollbwysig hyn.”
Dywedodd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS, “Rydym yn ymroddedig i adfywio amaethyddiaeth yng ngwledydd Prydain ac i gefnogi cynaliadwyedd yr economi wledig drwy fagu cysylltiadau rhwng cymunedau ffermio, busnesau ac academyddion. Mae buddsoddiad Waitrose yn arwydd o’u hyder wrth anelu at y nod hwnnw. Rydym yn awyddus i benodi rhywun o safon ardderchog i’r Gadair, rhywun a fydd yn chwarae rhan allweddol wrth wireddu’r weledigaeth y mae Waitrose ac IBERS yn ei rhannu. Yn benodol, bydd y swydd yn canolbwyntio ar ffermio’r ucheldiroedd ac ystyried beth fydd ei angen yn y dyfodol pan fydd y ffordd y mae tir Prydain yn cael ei ddefnyddio yn fater hollbwysig.”
Mae diwydiant amaethyddol Prydain yn mynd drwy gyfnod o newid sylweddol gyda mwyfwy o bynciau llosg a heriau yn ei wynebu. Ar ben hynny, mae heintiau ar anifeiliaid a phlanhigion yn fygythiadau parhaol y bydd yn rhaid i ffermwyr a thyfwyr ymdrin â hwy yn y dyfodol, yn ogystal â materion ynghylch sicrhau cyflenwadau bwyd a’r pwysau sydd ar gynhyrchiant.
Dywedodd yr Athro Noel Lloyd, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rwy’n croesawu’r datblygiad hwn, sydd yn enghraifft ardderchog o gyfraniad allweddol prifysgolion i’r economi ac i ddatblygu polisi. Rydym wedi ymrwymo i safonau rhagorol ac i greu cysylltiadau cryfion â defnyddwyr gwaith ymchwil. Mae’r ystod eang o arbenigedd sydd gennym yn y gwyddorau tirol yn golygu ein bod yn gallu ymdrin â phynciau o bwys megis sicrhau cyflenwadau bwyd a heriau newid yn yr hinsawdd.”
Waitrose
Mae gan Waitrose 222 o archfarchnadoedd, sy’n cyfuno cyfleustra’r archfarchnad â’r arbenigedd a’r gwasanaeth a geir mewn siop arbenigol. Mae wedi ymrwymo i gynnig bwyd o safon sy’n dod o ffynonellau cyfrifol gyda safonau uchel o wasanaeth i’r cwsmer. Fel Partneriaeth o dan gydberchnogaeth, mae pawb sy’n gweithio i Waitrose yn berchen ar y busnes ac mae’r syniad hwn o bartneriaeth hefyd yn cynnwys ffermwyr a thyfwyr. Mae ei grwpiau cynhyrchu sy’n gweithio ym meysydd da byw, llaeth, pysgod fferm, ffrwythau a llysiau, wrth galon y gadwyn gyflenwi.
Ynghylch IBERS – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Mae IBERS yn ganolfan rhagoriaeth gydag enw da yn rhyngwladol am ei gwaith ym meysydd y gwyddorau biolegol, amgylcheddol a gwledig.
Mae’n sefydliad unigryw o fewn addysg uwch Prydain sy’n manteisio ar arbenigedd academaidd i wneud gwaith ymchwil arloesol i wella ymarferion amaethyddol ac i gyfrannu at lunio polisi. Mae’r amrywiaeth helaeth o waith a wneir yn cynnwys dysgu, ymchwil, mentrau masnachol a throsglwyddo gwybodaeth, sy’n golygu bod IBERS yn gallu chwarae rhan werthfawr yn yr ymgyrch fyd-eang i ymdrin â rhai o’r heriau pwysicaf sy’n wynebu’r byd.
Sefydlwyd IBERS ym mis Ebrill 2008 yn sgil uno’r Sefydliad Ymchwil Tir Glas a’r Amgylchedd (IGER), sef rhan o’r Cyngor Ymchwil ar y Gwyddorau Biolegol a Biotechnoleg (BBSRC), â Phrifysgol Aberystwyth. Mae IBERS yn dal i gael cyllid sylweddol gan y BBSRC ac yn elwa hefyd ar gymorth ariannol gan Lywodraeth y Cynulliad, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.
Mae IBERS yn cyflogi 350 o staff, ac mae ganddo £25 miliwn o drosiant blynyddol. Dyma’r adran fwyaf ym maes y gwyddorau tirol ym Mhrydain. Mae buddsoddiad mawr i helpu i wireddu’r weledigaeth hon, £55 miliwn, yn yr arfaeth.