Ymatebion Cynaliadwy i Sialensau Ffermio
Bydd y Sioe Frenhinol gyntaf ers uno IGER gyda Phrifysgol Aberystwyth yn gweld y corff newydd sef Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn hyrwyddo “Atebion Ymatebion Cynaliadwy i Sialensau Ffermio”.
Bydd y brif arddangosfa ar stondin IBERS yn y Sioe eleni, sy’n digwydd rhwng 21-14 Gorffennaf yn edrych ar “Bwyd a Thanwydd” ac yn dangos sut y gall ffermio da byw a thyfu cnydau ar gyfer biodanwydd gydfodoli ar ffermydd tir glas, nid yn un i ddarparu incwm ychwanegol i ffermwyr ond er lles yr amgylchedd hefyd.
Mae rhaglenni bridio porfeydd a million ar gyfer porthiant yn IBERS yn canolbwyntio ar yr angen i gynyddu effeithlonrwydd a chynaliadwyedd ffermio tir glas. Bydd yr arddangosiadau yn dangos sut y gall tir glas ddarparu bwydydd ar gyfer anifeiliaid sy’n cnoi cil a defnydd crai ar gyfer eplesiadau sy’n gallu cynhyrchu biodanwydd neu amnewidiadau bioadnewyddadwy ar gyfer y diwydiant petrocemegol.
Trwy gydweithredu gyda nifer o bartneriaid, mae IBERS yn edrych ar ddichonolrwydd defnyddio rhygwellt parhaol ar gyfer cynhyrchu ethanol fel tanwydd ar gyfer trafnidiaeth. Gallai hyn o bosib olygu ffynhonnell newydd o incwm i ffermwyr, heb orfod defnyddio cnydau a dyfir yn arferol fel bwyd i ddyn, megis gwenith ac india-corn.
Mae dewisiadau eraill yn cynnwys tyfu cynhyrchion biomas megis prysgwydd helyg cylchdro byr a miscanthus. Bydd gwyddonwyr wrth law i amlinelli gyfraniad biomas at leihau lledaeniadau carbon ac at gyfarfod anghenion ynni, gwres a thrydan yn ogystal ag anghenion deunydd crai diwydiant yn y dyfodol mewn modd cynaliadwy.
Fe welir yr arddangosiadau ar stondin IBERS mewn pabell ar gyfer ymchwil yn ardal Gofal y Cefn Gwlad ac yn y pafiliwn Addysg mewn pabell arall a fydd yn canolbwyntio ar raglenni gwyddonol cyfredol o fewn y Sefydliad. Mae’r rhain yn cynnwys gwaith ar welliannau genynnol mewn rhygwellt parhaol a meillion coch er mwyn lleihau colledion nitrogen i ddŵr o dir pori a seilos, ac ar gynyddu effeithlonrwydd treuliad yn y rumen a all arwain at leihad mewn lledaeniadau i’r amgylchedd o ammonia a’r nwyon tŷ gwydr nerthol methan ac ocsid nitraidd.
“Mae dom yn chwarae rhan allweddol ar y fferm oherwydd ei fod yn cynnwys maethion gwerthfawr i blanhigion megis nitrogen, potasiwm, sylffwr a ffosfforws. Mae'n gwneud synnwyr economaidd da i ofalu am ac i ddefnyddio'r maethion yma yn hytrach na'u colli'n wastraff a all lygru’r awyr neu gyrsiau dŵr”, yn ôl Swyddog Ymestyn Hŷn IBERS, Heather McCalman.
“Bydd IBERS yn darparu gwybodaeth ar ffrwyth ei ymchwil, gan gyfeirio nid yn unig at y cwestiwn o fwyd neu danwydd ond hefyd at wneud gwell defnydd o gynnyrch eilradd planhigion neu gynhyrchion naturiol ar gyfer y diwydiant bwyd yn ogystal â’r diwydiant amaeth” medd Rheolwr Ymestyn Amaethyddol IBERS Dr. Dave Davies.
Drwy fanteisio ar raglenni ymchwil cyfunol a wnaed cynt o dan adain Sefydliad Gwyddorau Gwledig y Brifysgol (IRS) ac IGER, ond sydd nawr yn dwyn ffrwyth trwy gydweithredu o fewn, mae gwyddonwyr ag ymchwilwyr wedi bod yn datblygu trwythau o blanhigion a pherlysiau ar gyfer eu defnyddio mewn brechlynnau silwair ac eraill a all gynyddu effeithlonrwydd cynhyrchion a gynlluniwyd ar gyfer gwella clwyfau mewn ceffylau.
“Ar hyn o bryd mae yna ymhell dros 100 o gynhyrchion ar y farchnad yn y DU sy’n honni eu body n medru hyrwyddo gwellhad buan o glwyfau mewn ceffylau, ond ychydig iawn o’r cynhyrchion hynny sydd wedi cael eu profi’n ddigonol,” yn ôl Dr. Mike Rose sy’n arwain yr ymchwil wrth sgrinio trwythau o blanhigion, ac sy’n cael eu darparu gan nifer o sefydliadau cydweithredol, er mwyn o dan amodau labordy, dod o hyd i gyfansoddion newydd sy’n dylanwadu ar y broses o wella.
Tasg yr Athro Jamie Newbold yw sgrinio trwythau o blanhigion a welwyd eisoes fod iddynt actifedd gwrthfeicrobaidd, am eu gallu i reoli twf pathogenau mewn silwair.
“Fe ddefnyddir y trwythau hyn wedyn i wella fformwleiddiad ychwanegion silwair sy’n bodoli eisoes er mwyn cynhyrchu cenhedlaeth newydd o gynhyrchion sy’n arwain at fwydydd anifeiliaid maethlon gyda pherygl bach iawn iawn o drosglwyddo pathogenau naill ai i ffermwyr yng Nghymru neu eu hanifeiliaid”, medd yr Athro Newbold.
“Dyma enghraifft ardderchog eto o ymchwil ar y cyd a wnaed cynt gan IRS ac IGER ond sydd nawr wedi ei ffurfioli gyda’r uno o dan faner IBERS. Mae cydweithio o’r fath o help i symud y corff newydd yn ei flaen gan sefydlu ymhellach ei gymwysterau fel canolfan o ragoriaeth ym meysydd addysg, ymchwil a mentergarwch sy’n cael ei gydnabod ledled y byd,” medd Dave Davies.
Bydd stondin IBERS hefyd yn dangos gwerth potensial i ffermwyr o Gerbydau Awyr Di-beilot (UAV) sy’n defnyddio camerâu goruwchsbectrol ar gyfer mapio amaethyddol ac amgylcheddol. Bydd model llawn maint o'r cerbyd awyr UAV i'w weld ar y stondin. Gellir defnyddio'r dechnoleg yma er mwyn monitro bioamrywiaeth mewn tir glas, i roi rhybudd cynnar o glefyd yn y cnwd, ac i amcangyfrif gofynion gwrteithio. Mae monitro sychdwr a rheoli llygredd yn bosibiliadau eraill yn y tymor hir.
“Mae ein ffocws pennaf ar gyflwyno mwy o ddewisiadau i ffermwyr Cymru mewn byd sy’n prysur newid gan ddangos iddyn nhw sut y gallant trwy wneud defnydd o ffrwyth ymchwil IBERS helpu i ddarparu atebion cynaliadwy i newidiadau ym myd amaeth,” yn ôl Dave Davies.
Gwybodaeth bellach:
Emma Shipman, Swyddog Cyhoeddusrwydd a Digwyddiadau, Swyddfa Fusnes IBERS, Prifysgol Aberystwyth 01970 823002 / eos@aber.ac.uk
Arthur Dafis, Y Wasg a Chysylltiadau Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth
01970 621763 / 07841 979 452 / aid@aber.ac.uk