Adnoddau Genetig a’r Banc Bio

 

Adnoddau Genetig a’r Banc Bio

Mae Banc Bio IBERS yn curadu un o’r casgliadau ex-situ mwyaf yn y byd o borthiant a glaswelltau amwynder, meillion, ceirch a chnwd bio-ynni Miscanthus. Mae’r cyfleuster Banc Bio Hadau yn un o’r radd flaenaf yn dilyn buddsoddiad o £7M gan Brifysgol Aberystwyth, y Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) a’r UE. Ar hyn o bryd mae ganddo dros 35,000 o dderbyniadau i’w storio am y tymor canolig (20-50 mlynedd) ac i’r hirdymor (100 mlynedd) ar gyfer ymchwil a bridio.

Ers 1918/1919, mae IBERS wedi teithio’n genedlaethol ac yn rhyngwladol i gasglu rhywogaethau gwyllt ar sawl cyfandir, gan gynnwys Ewrop, Asia, Awstralia, Affrica a Gogledd America. Prif amcanion casglu’r plasmau germ hyn yw cynyddu amrywiaeth yr adnoddau genetig sydd ar gael ar gyfer ymchwil a bridio, yn ogystal â chadwraeth bioamrywiaeth. Mae’r holl gasgliadau ers 1992 wedi cydymffurfio â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) a Phrotocol Nagoya ar Fynediad a Rhannu Buddion (ABS) ar gyfer defnydd a masnacheiddio. Mae gan IBERS hefyd un o’r ychydig gyfleusterau cwarantîn yn y DU sy’n gallu darparu ar gyfer planhigion wedi’u mewnforio sydd angen arsylwi arnynt a’u rheoli ar gyfer sicrhau iechyd planhigion.

Mae cronfa ddata mewnol wedi’i sefydlu i reoli data pasbort y casgliadau hyn. Mae Banc Bio IBERS yn rheoli cronfa ddata Rhestr Genedlaethol y DU o Adnoddau Genetig Planhigion (UKNPI), Cronfa Ddata Lolium a Trifolium ECPGR (Casgliad Ewropeaidd o Adnoddau Genetig Planhigion), a chyflwyniadau’r DU i gronfa ddata EURISCO sydd wedyn yn cael ei chynaeafu gan Genesis – PGR, sef y porth byd-eang ar gyfer adnoddau genetig ar gyfer y Sefydliad Bwyd ac Amaeth (FAO).

Mae’r Banc Bio hefyd yn cynnwys cyfleuster prosesu hadau ar lefel uchel ar gyfer cynhyrchu hadau masnachol. Gellir paratoi samplau hadau o ymchwil i raddfeydd cyn-fasnachol (10 tunnell) yn unol â safonau Cymdeithas Ryngwladol Profi Hadau (ISTA).