Systemau Amaethyddol
Cyflwyniad
Amaethyddiaeth Glaswelltir Gynaliadwy
Mae glaswelltiroedd yn gorchuddio tua 25% o arwyneb daearol y Ddaear (3.5 biliwn ha). Mae eu rôl yn amlswyddogaethol, yn darparu porfa sylfaenol i systemau da byw’n seiliedig ar borthiant, a hefyd ddarparu gwasanaethau ecosystem ychwanegol, yn cynnwys storio carbon wrth gefn, rheoli dŵr a chynefinoedd i fywyd gwyllt. Mae systemau da byw presennol yn defnyddio tua thraean o’r tiroedd amaethyddol sydd ar gael yn fyd-eang ac yn cyfrannu 40% o werth cynnyrch amaethyddol byd-eang (FAO, 2019). Yn fyd-eang, mae systemau cynhyrchu da byw yn darparu traean o’r protein a gaiff ei fwyta gan bobl, gyda galwadau cynyddol yn cael eu rhagweld am gynhyrchion anifeiliaid oherwydd twf yn y boblogaeth a chynnydd o ran cymeriant y pen. Mae cydbwyso’r cynnydd mewn cynhyrchu da byw yn erbyn galwadau cynyddol defnyddwyr er mwyn deall effaith cynhyrchion da byw ar yr amgylchedd yn golygu arloesi gwyddonol ar gyfradd na welwyd ei thebyg mewn hanes wrth i ni geisio cyflawni uchelgais y DU o fod yn ddi-garbon net erbyn 2050.
Lleihau nwyon tŷ gwydr mewn ffermio da byw
Mae cynhyrchu da byw ar sail eu porthiant yn darparu llawer o fudd i’r economi ac iechyd pobl, ac mae magu da byw mewn ardaloedd sy’n anaddas ar gyfer trin cnydau yn diogelu’r cyflenwad bwyd ymhellach ac yn osgoi gwrthdaro ynglŷn â defnyddio tir o safon uchel i gynhyrchu bwyd anifeiliaid. Fodd bynnag, mae ffermio anifeiliaid cnoi cil yn cyfrannu’n sylweddol at allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang, oherwydd ceir allyriadau methan uniongyrchol o eplesu enterig ac allyriadau ocsid nitrus anuniongyrchol o ganlyniad i aneffeithlonrwydd wrth ddefnyddio gwrtaith a nitrogen yn y bwyd. Daw tua 14.5% o allyriadau nwyon tŷ gwydr anthropogenig y byd o ffermio da byw, a thua 65% o hynny o gynhyrchiant gwartheg (cig a llaeth). Mae’r DU wedi ymrwymo i darged o sero-net ar gyfer allyriadau nwyon tŷ gwydr erbyn 2050, felly mae mesur, deall, a lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr o amaeth y DU yn elfen hanfodol o’n gwaith i helpu economi’r DU.
Yn ddiweddar, arweiniodd IBERS gonsortiwm o sefydliadau ym mhrosiect Llwyfan Nwyon Tŷ Gwydr Defra (AC0115), a wnaeth gynhyrchu data newydd am dda byw er mwyn gwella ymrwymiadau’r DU i gyflwyno rhestrau o allyriadau methan amaethyddol nwyon tŷ gwydr. Mae bridio da byw yn chwarae rôl bwysig yn y tymor hir wrth leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, er gellid gweld gwelliannau yn gynt ac yn haws trwy newid maeth anifeiliaid, trwy amrywio deiet anifeiliaid yn briodol.
Nod
Nod
Ein nod yw gwella cynaladwyedd amaethyddiaeth da byw’n seiliedig ar borfa i helpu i gyflawni systemau da byw di-garbon erbyn 2050. Drwy gynnwys systemau fferm gyfan yn ein gweledigaeth, mae gwyddonwyr da byw’n cydweithio’n agos gyda bridwyr planhigion, gwyddonwyr pridd, microbiolegwyr, ecolegwyr a gwyddonwyr cymdeithasol i gyflenwi systemau bwyd-amaeth cynhyrchiol a gwydn. Gan gysylltu â phartneriaid diwydiant niferus ar draws cadwyni cyflenwi amaethyddol, mae ein model effaith yn defnyddio dull ymchwil lle mae’r ffermwr yn cyfranogi, er mwyn i ni allu deall y rhwystrau at newid a’r wyddoniaeth sydd ei hangen ar y diwydiant, i gefnogi defnyddwyr i fabwysiadu arloesi.
Dull
Dull
Mae ein cylch gorchwyl ymchwil yn cynnwys:
- Systemau anifeiliaid cnoi cil yn seiliedig ar laswelltir sy’n ddi-garbon
- Porthiant protein uchel a dyfir gartref i anifeiliaid cnoi cil ac anifeiliaid unstumogaidd
- Lleihau allyriadau GHG anifeiliaid cnoi cil
- Gwasanaethau diogelu pridd ac ecosystem mewn systemau da byw
- Cyfnewid gwybodaeth a chyflwyno newid mewn amaethyddiaeth glaswelltir
- Defnydd effeithlon o faetholion drwy ryngweithio pridd-planhigion-anifeiliaid
- Amaethyddiaeth 4.0 a thechnolegau trachywir, yn cynnwys arloesi mewn technoleg silwair
- Datblygu cynhyrchion bwyd-amaeth newydd a gwella ansawdd cynnyrch da byw
Yn IBERS, mae gennym ni’r gallu unigryw i ddatblygu adnoddau planhigion newydd i ddiwallu gofynion byd-eang am systemau da byw sy’n gynaliadwy, yn gynhyrchiol ac yn gwrthsefyll effeithiau newid yn yr hinsawdd
Allbynnau a Galluoedd
Uchafbwyntiau:
Astudiaethau Achos Effaith i REF yn cynnwys ‘Reducing reliance on imported protein (soya) across a UK ruminant supply chain’
Galluoedd Ymchwil
- Llwyfan Ymchwil Anifeiliaid Cnoi Cil Bach CIEL
- CIEL: the Centre for Innovation Excellence in Livestock
- Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran
- Canolfan Bwydydd y Dyfodol ArloesiAber
Cipolwg
Cipolwg ar ein Prif Waith Ymchwil
Ein huchelgais yw ehangu ein dealltwriaeth sylfaenol o fioleg planhigion ac anifeiliaid cnoi cil, yn enwedig yn yr ardaloedd lle mae’r ddau’n gorgyffwrdd – wrth i anifeiliaid fwyta planhigion a’u treulio gyda chymorth microbau rwmen.
Mae’r gwaith ar faetheg da byw wedi elwa’n fawr ar y gweithgareddau bridio planhigion yn IBERS er mwyn cyflawni gwelliannau sylweddol wrth ddefnyddio gweiriau porthi sy’n cynnwys mwy o garbohydradau (siwgr) hydawdd mewn dŵr. Mae bwydo gweiriau sy’n cynnwys cyfran uchel o siwgr wedi gwella cynhyrchiant llaeth gwartheg ac wedi gwella’n sylweddol effeithiolrwydd defnyddio nitrogen mewn deiet trwy alluogi gwell defnydd o faetholion bwyd yn y rwmen.
Rydym yn cydweithio’n rhyngwladol â bridwyr planhigion yn ne America i ddatblygu porthiant trofannol sy’n gwella cynhyrchiant gwartheg biff tyfu, gan alluogi cynnydd mewn cyfraddau stoc o’u cymharu â thiroedd pori confensiynol, a chan ryddhau tir ar gyfer defnydd amgen fel ailgoedwigo.
Rydym yn gweithio gyda phartneriaid Ewropeaidd i ddatblygu modelau ffurfio dognau sy’n ein galluogi i fwydo gwartheg llaeth â llai o brotein, gan gynyddu effeithiolrwydd y defnydd o nitrogen yn y deiet a lleihau allyriadau nitrogen trwy’r carthion.
Prosiectau
Prosiectau / Grantiau Cyfredol
- Datblygu systemau cynhyrchu da byw cynaliadwy ar sail eu porthiant yng Ngholombia (CoForLife).Cronfa Newton trwy BBSRC, 2019-2021. Gyda Phrifysgol Glasgow a CIAT. https://colombiagrasslands.com/
- CowficieNcy - rhaglen Marie-Sklodowska-Curie yr UE i wella effeithiolrwydd defnyddio gwartheg N, gyda phartneriaid yn yr UE ac UDA. 2018-2022. http://www.cowficiency.org/
- PeaGen - prosiect LINK sy’n cael ei ariannu gan y BBSRC i fridio a defnyddio pys newydd ar gyfer cynhyrchu da byw yn gynaliadwy https://www.pgro.org/peagen-project/
- Effeithiau deiet ar allyriadau o systemau anifeiliaid cnoi cil (CELDERS). (CEDERS). ERA-NET ERA-GAS, ariennir yn y DU trwy Defra. Gyda phartneriaid Ewropeaidd ac ym Mhrifysgol Reading. https://www.eragas.eu/en/eragas/Research-projects/CEDERS-1.htm