Banc Hadau IBERS
![](/cy/ibers/amdanom-ibers/bethrydynnineiwneud/banchadauibers/Seedbank-Hero-Image.jpg)
Mae Banc Hadau IBERS, sydd wrth wraidd yr Athrofa, yn diogelu un o gasgliadau mwyaf y byd o hadau o laswellt, meillion, ceirch a miscanthus. Mae hadau planhigion o bob cwr o’r byd wedi cael eu casglu a’u storio yn yr Athrofa ers 1919. Ar hyn o bryd mae gan y Banc Hadau dros 43,000 o eitemau ac mae wedi’i gynllunio i storio deunydd planhigion yn ddiogel am 100 mlynedd neu fwy, gan ddiogelu adnoddau genetig i’w hastudio a’u defnyddio gan genedlaethau wyddonwyr a bridwyr planhigion ledled y byd yn y dyfodol.
Mae Banc Hadau IBERS yn un o ychydig yn unig o gyfleusterau cwarantîn yn y Deyrnas Unedig sy’n cael trin deunydd planhigion egsotig ac yn rheoli data pasbortau planhigion ar gyfer y casgliadau hyn. Mae’r cyfleuster hefyd yn rheoli Rhestr Eiddo’r Deyrnas Unedig ac yn cyfrannu at gronfeydd data adnoddau genetig rhyngwladol, megis catalog Ewropeaidd EURISCO a banc genynnau byd-eang Genesys, a sefydlwyd gan yr FAO i warchod amrywiaeth cnydau a chadw adnoddau genetig cnydau ar gael yn fyd-eang er budd dynolryw yn y dyfodol.
Diogelu bioamrywiaeth in-situ ac ex-situ
Yn draddodiadol, mae banciau genynnau wedi canolbwyntio ar ddulliau cadwraeth ex-situ sy’n bridio ac yn cynnal rhywogaethau y tu allan i’w hecosystemau naturiol. Mae hyn wedi bod yn ffordd hanfodol o ddiogelu rhywogaethau sydd mewn perygl a diogelu adnoddau genetig, ond mae’r adnoddau genetig hyn i bob pwrpas yn gallu cael eu rhewi mewn amser, ac nid yw poblogaethau mawr o rywogaethau’n gallu parhau i ffynnu ac addasu. Mae tîm IBERS wedi bod yn gweithio’n agos gyda chymunedau’r Deyrnas Unedig a Ewropeaidd ar ddatblygu dulliau cadwraeth in-situ sy’n gwarchod bioamrywiaeth yn ei gynefin naturiol, gan helpu i amddiffyn bioamrywiaeth a’i helpu i ffynnu lle mae’n perthyn a chryfhau ecosystemau yn naturiol.
Genomeg - Cefnogi ymchwil genetig planhigion a bridio cnydau
Mae ymchwil genomeg IBERS yn galluogi gwell dealltwriaeth o amrywiaeth genetig ein cnydau targed, a sut mae genynnau’n rheoleiddio twf planhigion ac yn pennu nodweddion penodol. Drwy ddefnyddio adnoddau genetig, gan gynnwys ym manc hadau IBERS, mae ein hymchwil arloesol yn gallu edrych ar nodweddion cyffredin a gwahaniaethau mewn genomau ar draws gwahanol amrywogaethau, sy’n ein helpu i gyfeirio gwaith i fridio amrywogaethau newydd o gnydau a all berfformio’n well o dan amodau heriol hinsoddau’r presennol a’r dyfodol.
➡ Darganfod mwy am y Adnoddau Genetig a’r Banc Bio