Ein rhan yn y Gymuned

Mae gan y Brifysgol berthynas agos â’r gymuned, yn lleol, yn rhanbarthol ac yn genedlaethol, ac mae wedi ymroi i ddatblygu gweithgareddau ei chenhadaeth gyhoeddus.

Mae’r Brifysgol yn chwarae rhan allweddol yn yr economi; mae’n gyflogwr pwysig ac yn gwneud cyfraniad hanfodol i’r rhanbarth, yn ariannol ac yn ddiwylliannol. Mae llawer o’i chymeriad unigryw yn deillio o gyfuniad o natur agored ac amrywiaeth ei staff a’i myfyrwyr, a’r amgylchedd diogel a’r ymdeimlad o gymuned a rennir gan y Brifysgol, y dref a’r bröydd cyfagos.

Canolfan y Celfyddydau

Mae Canolfan y Celfyddydau, sydd wrth galon ein campws ym Mhenglais, ymhlith y canolfannau celfyddydau mwyaf ym Mhrydain, ac mae’n denu mwy na 700,000 o ymwelwyr bob blwyddyn o’r dref a’r siroedd cyfagos. Mae’r ganolfan, sydd wedi ennill sawl gwobr, yn derbyn nawdd gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac wedi’i chydnabod yn ganolfan flaenllaw i’r celfyddydau. Mae ganddi raglen gelfyddydol eang - yn cynhyrchu ac yn cyflwyno - ym mhob ffurf gelfyddydol, gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, y cyfryngau newydd a chelfyddydau cymunedol. Mae adnoddau’r ganolfan yn cynnwys neuadd gyngherddau (y Neuadd Fawr), theatr (Theatr y Werin), stiwdio berfformio, mannau arddangos, sinema fach, siop lyfrau, bar a chaffi.

Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth

Mae Canolfan Chwaraeon Prifysgol Aberystwyth, sydd ar gampws Penglais, ar agor i’r myfyrwyr, y staff a’r gymuned ehangach. Bob blwyddyn, mae’n croesawu mwy na 250,000 o bobl sy’n dod i ddefnyddio ei hystod eang o adnoddau dan do ac awyr agored. Maent yn cynnwys campfa â’r holl gyfarpar diweddaraf, pwll nofio a sawna, wal ddringo, maes chwarae 3G pob-tywydd, cyrtiau sboncen a badminton, yn ogystal â llu o ddosbarthiadau ffitrwydd a lles. Mae gan y Brifysgol hefyd gaeau chwaraeon ym Mlaendolau a Chaeau’r Ficerdy yn Llanbadarn.

Canolfan Gerdd Aberystwyth

Mae Canolfan Gerdd y Brifysgol yn hybu rhaglen eang i berfformwyr a gwrandawyr fel ei gilydd. O’i chartref yn yr Hen Goleg, mae’r Ganolfan yn darparu adnoddau i fyfyrwyr a’r gymuned leol. Mae ganddi sawl piano, organ drydan â dau chwaraefwrdd, telyn, harpsicord ac organ siambr, yn ogystal ag offerynnau taro ac offerynnau eraill. Mae’r Llyfrgell Gerdd yn cadw casgliad helaeth o gerddoriaeth ddalen, sydd yn enwedig o gryf o ran cerddoriaeth siambr a cherddorfaol. Mae llyfrau cerddoriaeth i’w chael yn Llyfrgell Hugh Owen - ac wrth gwrs, mae adnoddau anferth y Llyfrgell Genedlaethol gerllaw hefyd. 

Llyfrgell Genedlaethol Aberystwyth

Saif Llyfrgell Genedlaethol Cymru wrth ymyl campws Penglais y Brifysgol, un o ddim ond pum llyfrgell hawlfraint ym Mhrydain, a chanddi’r hawl i dderbyn copi o bob llyfr a gyhoeddir ym Mhrydain. Mae myfyrwyr yn Aberystwyth yn cael manteisio ar adnoddau’r Llyfrgell Genedlaethol am ddim: 6 miliwn o lyfrau a chyfnodolion, 5 miliwn o ddelweddau digidol ac adnoddau electronig, 30,000 llawysgrif brin, 1.5 miliwn map, a 7 miliwn troedfedd o ffilm, 15km o archifau unigryw, a llawer mwy.

Gwasanaethau Cyhoeddus

Darperir gwasanaethau cyhoeddus yn Aberystwyth gan Gyngor Sir Ceredigion a Chyngor Tref Aberystwyth ac maent yn cynnwys addysg, llyfrgell gyhoeddus ac adnoddau hamdden.

Darperir gofal iechyd gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda GIG Cymru ac mae’n cynnwys Ysbyty Bronglais a nifer o feddygfeydd meddygon teulu. Mae gwasanaethau deintyddol ar gael yn breifat a hefyd gan y GIG.

Ysgolion

Addysg

Addysg Gynradd
Mae pum ysgol gynradd yn darparu ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 11 oed, gyda dewis o Gymraeg neu Saesneg fel prif iaith y dysgu.

Yn Aberystwyth ei hun mae:

  • Ysgol Gynradd Comins Coch
  • Ysgol Gynradd Plascrug
  • Ysgol Gynradd Llwyn yr Eos
  • Ysgol Gynradd Padarn Sant (Pabyddol)
  • Ysgol Gymraeg Aberystwyth

Addysg Uwchradd
Mae dwy ysgol yn darparu ar gyfer disgyblion rhwng 11 ac 18 oed, gan gynnwys chweched dosbarth (blynyddoedd 7 i 13).

Ysgol Penweddig

Ysgol Penglais

Ysgol gyfun cyfrwng Cymraeg yn bennaf.

Ffordd Llanbadarn, Aberystwyth, SY23 3QN
(01970) 639499
Gwefan - Map

Ysgol gyfun, cyfrwng Saesneg yn bennaf.

Waunfawr, Aberystwyth, SY23 3AW
(01970) 624811
Gwefan - Map

Addysg Bellach

Coleg Ceredigion 

Coleg addysg bellach lleol gyda champysau yn Aberystwyth ac Aberteifi.

Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, SY23 3BP
(01970) 639700

Gwefan - Map

Caiff y Gymraeg ei dysgu ym mhob ysgol ac yn unol â’r Cwricwlwm Addysg yng Nghymru, disgwylir i ddisgyblion astudio’r Gymraeg hyd at 16 mlwydd oed. Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi clir i annog dysgu a defnyddio’r Gymraeg, sy’n wir mewn ysgolion hefyd.

Mae’r Awdurdod Lleol yn darparu cymorth ychwanegol i deuluoedd a phlant sydd yn newydd i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r Canolfannau Iaith hyn ar draws y sir i gyd. Os ydych yn symud i Geredigion a bod eich plant wedi dechrau addysg ffurfiol mae yna ganolfannau iaith penodedig yn y sir a fydd yn cyflwyno’r Gymraeg i’ch plant. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Chyngor Ceredigion.

Am fwy o wybodaeth ar sut y defnyddir y Gymraeg mewn ysgolion, gweler https://symudceredigion.cymru/cy/addysg/ (Menter Iaith Ceredigion) a Gwefan Cyngor Ceredigion

Mae gan Lywodraeth Cymru lyfryn ‘Dy ganllaw i addysg Gymraeg’ sy’n rhoi gwybodaeth ddefnyddiol i rieni a darpar rieni ar Addysg cyfrwng Cymraeg a manteision dwyieithrwydd.

Mae Cyngor Ceredigion hefyd wedi cyhoeddi e-lyfryn ‘Croeso i Geredigion’ sy’n rhoi mwy o wybodaeth ar ddefnydd y Gymraeg, ei diwylliant a’i threftadaeth o fewn y sir gan gynnwys canllaw ar sut i ddefnyddio a chyflwyno’r Gymraeg o fewn y teulu.

Gofal Plant a’r Blynyddoedd Cynnar

Am wybodaeth ynglŷn â gofal plant yng Ngheredigion gweler gwefan Cyngor Ceredigion.

Mae Mudiad Meithrin yn sefydliad gwirfoddol sy’n cynnig profiadau dysgu a chwarae cyfrwng Cymraeg i blant o’i geni i oedran ysgol. Mae Cylchoedd Meithrin yn cynnig gofal plant ac addysg cyfrwng Cymraeg i blant 2-4 oed, gan gyflwyno’r iaith i blant o bob cefndir.

Mae gwefan y Mudiad Meithrin yn cynnwys adnoddau a gwybodaeth ynglŷn â dewis addysg cyfrwng Cymraeg, a manteision dwyieithrwydd.

Mae gwefan y Mudiad Meithrin hefyd yn cynnwys fideos a phodlediadau sy’n trafod profiadau teuluoedd lle mae eu plant wedi mynychu meithrinfa neu ysgol cyfrwng Cymraeg.

 

 

Gofal Iechyd

Gwasanaethau Ysbyty

  • Mae Ysbyty Bronglais ar Riw Penglais, yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau ysbyty.
    • Ffordd Caradog, Aberystwyth, SY23 1ER
    • Ffôn: (01970) 623131
    • Map

Meddygon Teulu

Mae tair meddygfa sy’n derbyn cleifion GIG yn Aberystwyth. Os ydych chi’n symud i’r ardal naill ai am y tymor hir neu fel myfyriwr prifysgol, fe’ch anogir i gofrestru â meddyg cyn gynted â phosibl ar ôl i chi gyrraedd.

  • Meddygfa’r Llan
    • Stryd Portland, Aberystwyth, SY23 2DX
    • Ffôn: (01970) 624855
    • Gwefan
    • Map
  • Meddygfa Padarn
    • 26 Rhodfa’r Gogledd, Aberystwyth, SY23 2NF
    • Ffôn: (01970) 624545
    • Gwefan
    • Map
  • Grŵp Meddygol Ystwyth
    • Parc-y-Llyn, Aberystwyth, SY23 3TL
    • Ffôn: (01970) 613500
    • Gwefan
    • Map

Deintyddion

Mae gan Aberystwyth bum deintyddfa gofrestredig.

  • Denticare
    • 61 Rhodfa’r Gogledd, Aberystwyth, SY23 2JN
    • Ffôn: (01970) 612266
    • Gwefan
    • Map
  • Deintyddfa Eastgate
    • 29 Y Porth Mawr, Aberystwyth, SY23 2AR
    • Ffôn: (01970) 621457
    • Map
  • Deintyddfa Friars
    • Coedlan y Parc, Aberystwyth, SY23 1PB
    • Ffôn: (01970) 623369
    • Gwefan
    • Map
  • Deintyddfa Stryd Portland
    • 23 Stryd Portland, Aberystwyth, SY23 2DX
    • Ffôn: (01970) 612581
    • Gwefan
    • Map
  • Deintyddfa Ystwyth
    • Parc-y-Llyn, Aberystwyth, SY23 3TL
    • Ffôn: (01970) 615855
    • Gwefan
    • Map

Yr Iaith Gymraeg

Croeso! Os ydych chi’n newydd i Geredigion hoffem eich croesawu i un o’r cymunedau dwyieithog mwyaf bywiog yng Nghymru. Cymraeg yw un o ieithoedd hynaf Ewrop ac yma yng Ngheredigion ceir cymuned ddwyieithog fywiog ac amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau cymunedol a diwylliannol bywiog i chi eu mwynhau. Fel cyflogwr, mae Prifysgol Aberystwyth yn cydymffurfio a Safonnau'r Iaith Gymraeg ac yn derbyn yr egwyddor o beidio a thrin y Gymraeg yn llai fafriol na'r Saesneg.