Gweithio a byw yn Aberystwyth

Cymuned arfordirol fywiog.
Does unman yn debyg i Aberystwyth: does dim un Brifysgol arall sy’n cynnig y cyfuniad unigryw o draddodiad academaidd hirsefydlog, lleoliad hardd eithriadol, a champws sy’n cyfuno’r adnoddau diweddaraf, Canolfan Gelfyddydau fywiog, a’r cyfle i ddefnyddio un o’r pum llyfrgell hawlfraint yng ngwledydd Prydain.
Ger bryniau’r Canolbarth ac ar lan y môr, mae Aberystwyth yn ganolfan sydd o bwys cenedlaethol a rhanbarthol, yn ddiwylliannol ac yn fasnachol.