Dewis eang o destunau
Rydym yn cynnig dewis eang o destunau ar sail arbenigedd ymchwil ein staff. Mae hyn yn golygu y byddwch chi'n dysgu am y syniadau mwyaf diweddar gan y bobl sy'n gwneud yr ymchwil wrth astudio gyda ni.
Rydym yn hyderus y gallwn ni fodloni diddordebau personol ein myfyrwyr. Pa bynnag faes o hanes sy'n apelio i chi, bydd digon o gyfleoedd i chi fynd ar ôl y pynciau sy'n tanio'ch dychymyg. Yn rhan o'n cwricwlwm, rydym yn mynd i'r afael â thestunau cyfarwydd y byddech chi'n disgwyl eu gweld yn rhan o gwricwlwm hanes yn y brifysgol, megis y Tuduriaid, yr Almaen yn yr ugeinfed ganrif, a Tsieina fodern. Y tu hwnt i'r pynciau hynny, rydym yn cynnig llawer o fodiwlau ysgogol eraill sy'n cwmpasu amrywiaeth fawr o destunau, a gallwch ddethol y rhai sy'n apelio i'ch diddordebau chi eich hunain.
Profiad ymarferol
Yma yn Aberystwyth, fe gewch chi gyfle i wneud gwaith ymarferol trwy ein modiwlau hanesyddiaeth, dadansoddi ffynonellau cynradd, a thrwy astudio ein modiwlau ymarferol. Mae hyn yn dod â hanes yn fyw sy'n golygu ei fod yn cael effaith go iawn.
Ein modiwlau ymarferol
Cydio mewn Hanes - Ffynonellau gwreiddiol yw’r cliwiau a ddefnyddir gan haneswyr er mwyn creu darlun o’r gorffennol. Bydd y modiwl hwn yn eich dysgu sut i ymwneud yn feirniadol â’r rhain ac yn eich paratoi i wneud eich gwaith ditectif hanesyddol eich hunain yn y dyfodol.
Llunio Hanes - Bydd y pwnc hwn yn cael ei drafod o safbwynt y datblygiadau damcaniaethol allweddol sydd wedi dylanwadu'r ysgrifennu ar hanes dros y ganrif ddiwethaf, a sut y defnyddiwyd y syniadau hyn gan haneswyr proffesiynol wrth eu gwaith.
Dissertation - Byddwch yn dysgu sut i gynllunio ac ymchwilio ar gyfer eich traethawd hir, o ddewis a diffinio'r testun i ddod o hyd i ffynonellau a llunio llyfryddiaeth. Bydd arolygydd yn cael ei ddynodi i chi, a byddwch yn derbyn goruchwyliaeth ar sail unigol.
Ein modiwlau sgiliau
Hanes Llafar a Chysylltiadau Hiliol America Fodern - Mae'r modiwl hwn yn caniatáu i chi archwilio hanes modern cysylltiadau hiliol rhwng Americaniaid du a gwyn, a hynny drwy gyfrwng hanes llafar. Cewch eich cyflwyno i'r ffyrdd o edrych ar hanes llafar o safbwynt damcaniaethol ac ymarferol fel ffordd unigryw o ddeall hanes yr Unol Daleithiau a chysylltiadau hiliol. Mae'r modiwl yn ymchwilio i gyfweliadau hanes llafar gydag amrywiaeth eang o bobl gan gynnwys pobl a oedd wedi cael eu caethiwo, cyn-filwyr du a gwyn, aelodau o grwpiau goruchafiaeth y bobl gwynion, actifyddion hawliau sifil, a dioddefwyr trais hiliol.
Archwilio'r Rhyngwladol: Cysyniadau Canolog a Sgiliau Craidd - Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad trylwyr ac eangfrydig i'r cysyniadau canolog a'r themâu yn yr astudiaeth o wleidyddiaeth ryngwladol. Mae'n rhoi trosolwg o gyfres o safbwyntiau damcaniaethol allweddol ac yn eich annog i'w dadansoddi a'u gwerthuso gan gyfeirio at gyfuniad o esiamplau hanesyddol a chyfoes.
Byddwch hefyd yn cael mynediad i rai o'r prif lyfrgelloedd a sefydliadau treftadaeth yn y wlad, megis Llyfrgell Genedlaethol Cymru - un o ddim ond pum llyfrgell hawlfrait yn y DU - a leolir islaw campws y brifysgol, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, ac Archifau Ceredigion. Mae'r sefydliadau hyn cynnig adnoddau gwych i fyfyrwyr hanes.
Dysgu mewn grwpiau bach
Rydym yn credu bod ein myfyrwyr yn haeddu cael eu trin fel oedolion. Drwy ddysgu mewn grwpiau bach ar rai o fodiwlau'r flwyddyn gyntaf a rhai o'r modiwlau dewisol, a hefyd yn y gweithdai, rydym yn sicrhau eich bod yn cael cymaint â phosib o gysylltiad â thiwtoriaid, ac mae natur agos-atoch y dysgu mewn grwpiau bach yn rhoi cyfleoedd i chi fynegi'ch barn a'ch syniadau mewn amgylchedd cefnogol. Mae'r modiwlau a ddysgir mewn grwpiau bach yn cynnwys y modiwlau 'Pynciau Arbennig' a 'Sgiliau'.