Mrs Elizabeth Wile

Community Lecturer in Healthcare Education
Manylion Cyswllt
- Ebost: elw91@aber.ac.uk
- Swyddfa: 2.04, IBERS Penglais
- Ffôn: +44 (0) 1970 621682
- Proffil Porth Ymchwil
- Rhagenwau personol: Hi / Ei
Proffil
Proffil
Mae Betty (Elizabeth) wedi ymuno â Phrifysgol Aberystwyth fel Darlithydd Cymunedol rhan-amser mewn Addysg Gofal Iechyd.
Mae gan Betty gofrestriad deuol gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth fel Nyrs Gofrestredig ac fel Nyrs Gymunedol Arbenigol ym maes Iechyd Cyhoeddus. Mae hefyd yn Nyrs Gofrestredig sy’n Rhagnodi.
Mae Betty wedi gweithio ym maes gofal iechyd dros y 40 mlynedd diwethaf, gan weithio mewn gwahanol leoliadau a thimau gan gynnwys ysbytai'r GIG, gwaith asiantaeth yn Llundain, cartref gofal preswyl preifat i oedolion hŷn a Gwasanaethau Ymwelwyr Iechyd. Mae wedi gweithio mewn ardaloedd Dechrau'n Deg fel Ymwelydd Iechyd, yng Nghyngor Sir Ceredigion a Gwasanaethau Cymdeithasol. Bu’n Frechwr Covid (Banc) a'i swydd ddiwethaf oedd gweithio fel Ymwelydd Iechyd Arbenigol/Gweithiwr Allweddol o fewn y Tîm Anabledd Iechyd Plant, gan weithio ledled Ceredigion.
Gwybodaeth Ychwanegol
Gwybodaeth Ychwanegol
Ganwyd Betty yn Aberystwyth a bu'n byw yng Ngheredigion drwy gydol ei phlentyndod nes iddi symud i Dde Cymru i ddechrau ei hyfforddiant nyrsio.
Cymraeg yw iaith gyntaf Betty, ac felly bydd yn gallu cefnogi'r myfyrwyr yn academaidd ac yn glinigol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Ar hyn o bryd mae Betty yn ymgymryd â'i chwrs TUAAU ym Mhrifysgol Aberystwyth i'w chefnogi yn ei rôl fel Darlithydd Cymunedol ac yn ddiweddar mae wedi ennill statws Cymrawd Cyswllt.
Cyflwynodd Betty yn ddiweddar yng Nghynhadledd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru 2024 ar 'Cyfleoedd/lleoliadau dysgu newydd i nyrsys dan hyfforddiant sy'n gweithio mewn lleoliadau ymarfer cyffredinol yng Nghymru Wledig'.
Dysgu
Module Coordinator
Lecturer
- NU20120 - Introduction to Field Specific Nursing - Adult
- NU10020 - Introduction to Nursing Practice
- NU10120 - Introduction to Professional Practice
- NU10220 - Developing Professional Practice
- NU10960 - Demonstrating Nursing Practice (Part B)
- NY33860 - Arwain Ymarfer Proffesiynol (Rhan B3)
- NU10720 - Developing knowledge of the human body
- NU20220 - Introduction to Field Specific Nursing (Mental Health)
- NU30220 - Innovating Practice
- NU33860 - Leading Professional Practice (Part B3)
- NU20320 - Complex Field Specific Nursing (Adult)
- NU20420 - Complex Field Specific Nursing (Mental Health)
- NU30620 - Compassionate Leadership and Management
- NU10520 - Developing Nursing Practice
Moderator
Coordinator
Dysgu
Bydd Betty yn dysgu ar draws holl fodiwlau’r Rhaglenni Nyrsio BSc ar gyfer nyrsio Oedolion ac Iechyd Meddwl, yn ogystal â’r rhaglen lefel 4 a'r rhaglen dychwelyd i ymarfer.
Mae gan Betty brofiad a diddordeb penodol mewn Nyrsio ym maes Iechyd Cymunedol/Cyhoeddus a hefyd mewn plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol ac anableddau, ac mae’n awyddus i weithio’n neilltuol er mwyn atal a rhoi gofal cyfannol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae’r meysydd sy’n bwysig i Betty yn cynnwys materion sy’n ymwneud â’r bledren a’r coluddion mewn plant, rheoli ymddygiad, ADHD ac awtistiaeth, ac asesiadau datblygiadol a thrwy ei diddordeb yn y meysydd hyn mae Betty wedi cefnogi cydweithwyr a theuluoedd, disgyblaethau eraill ac asiantaethau a hefyd wedi dysgu ar y pynciau.
Cyfrifoldebau
Cyfrifoldebau
Mae cyfrifoldebau Betty yn cynnwys:
Tiwtor Personol/Asesydd Academaidd
Darlithydd Cyswllt Cymunedol
Cydlynydd Modiwlau
Dirpwy Gydlynydd Cynllun ar gyfer y Dystysgrif Lefel 4 mewn Addysg Gofal Iechyd
Tiwtor cyswllt addysgol ar gyfer lleoliadau gofal sylfaenol
Uwch Diwtor ar gyfer Amgylchiadau eithriadol
Yn ogystal, bydd Betty yn arwain y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn y meysydd canlynol:
Arweinydd y Gymraeg
learning@Wales (cyrsiau ar-lein ar gyfer myfyrwyr nyrsio)
Addysg ryngbroffesiynol
Diogelu
Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)
- Dydd Llun 08:30-17:00
- Dydd Mawrth 08:30-17:00
- Dydd Mercher 08:30-17:00