Mrs Ellie Jolley-Dawson BN (Anrhydedd), Gallu a Gwneud Penderfyniadau Cymhleth (PGC), MSc Gofal Lliniarol a Diwedd Oes (ar y gweill)

Mrs Ellie Jolley-Dawson

Lecturer in Healthcare Education

Canolfan Addysg Gofal Iechyd

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae Ellie yn Ddarlithydd Nyrsio Maes Oedolion sy'n cyfrannu at bob rhaglen o astudiaeth yn yr Adran Addysg Gofal Iechyd yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Gan symud o’i chartref ym Mhowys, bu Ellie yn astudio nyrsio ym Mhrifysgol Caeredin, gan sicrhau gradd Baglor mewn Nyrsio gydag anrhydedd.

Ellie yw Arweinydd Gofal Lliniarol yr Adran Addysg Gofal Iechyd, gan hyrwyddo’r broses o integreiddio themâu addysg gofal lliniarol hanfodol i’r cwricwlwm, gan sicrhau bod graddedigion nyrsio yn fedrus wrth ddarparu gofal cynhwysfawr a thyner ar bob cam o fywyd.

Gan symud i fyd addysg yn syth o ymarfer clinigol, mae Ellie yn angerddol am addysgu gweithlu GIG Cymru i’r dyfodol, ac ysbrydoli arweinwyr nyrsys y dyfodol.  Bu Ellie yn aelod o fyrddau cenedlaethol a byrddau llywodraeth fel myfyriwr nyrsio ei hunan ac mae'n awyddus i ennyn diddordeb myfyrwyr yn y cyfleoedd niferus sydd ar gael iddynt yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Ymchwil

Ar hyn o bryd mae Ellie yn ymwneud â gwaith ymchwil i effaith dulliau o gyfathrebu ar y rhai sy’n marw a'r rhai mewn profedigaeth, ac mae'n gobeithio cyhoeddi'r gwaith hwn yn ystod y misoedd nesaf. 

Mae Ellie hefyd yn cymryd rhan weithredol mewn ymchwil sy'n ymwneud â chynhwysiant, neu ddiffyg cynnwys unigolion â lliw croen mwy tywyll mewn sgiliau clinigol ac addysg nyrsio ledled y DU. 

Mae Ellie yn croesawu diddordeb mewn cydweithio ar ymchwil.  

Cyfrifoldebau

Tiwtor Personol/Asesydd Academaidd 

Arweinydd HENA

Arweinydd Gofal Lliniarol 

Cydlynydd Modiwl