Mrs Amanda Jones Nyrs Gofrestredig (Plant) , Nyrs Iechyd Cyhoeddus Gymunedol Arbenigol (YI), MSc Iechyd Cyhoeddus, TUUAU, Athro Nyrsio Cofrestredig, Nyrs Gofrestredig Rhagnodi, Cymrawd ar gyfer yr Academi Addysg Uwch

Mrs Amanda Jones

Principal in Healthcare Education

Canolfan Addysg Gofal Iechyd

Manylion Cyswllt

Proffil

Mae Amanda Jones yn Prif Arweinydd a phennaeth  Addysg Gofal Iechyd, ag yn aelod sefydlu gyda chyfrifoldeb  gweithredol dros y rhaglen gradd nyrsio llawn amser a rhan amser Oedolion a Iechyd meddwl, y rhaglen dychwelyd i nyrsio a Thystysgrif Lefel 4 mewn Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth gan arwain y tîm nyrsio. Mae Amanda yn arwain ar ymgysylltu â rhanddeiliaid â Phartneriaid Dysgu Ymarfer ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), sy’n comisiynu’r lleoedd gradd nyrsio yng Nghymru, ynghyd a grwpiau Llywodraeth Cymru. Mae Amanda wedi gweithio ar sawl tendr a bidiau ac wedi llwyddo i gael cyllid ychwanegol i gefnogi Addysg Gofal Iechyd yn ardal Canolbarth Cymru.. Mae Amanda yn brofiadol mewn siarad cyhoeddus trwy gyfrwng y Gymraegg a Saesneg.

 Mae Amanda yn Nyrs Gofrestredig am 30  flynyddoedd ag hefyd yn Nyrs Iechyd Cyhoeddus Gymunedol Arbenigol (Ymwelwyr Iechyd), sydd â phrofiad helaeth o weithio fel ymwelydd iechyd o fewn y rhaglen Dechrau'n Deg. Mae gan Amanda gradd Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus sydd ag arbenigedd ym maes diogelu Plant a Phobl Ifanc. Mae ganddi Dystysgrif Ôl-raddedig mewn addysgu mewn Addysg Uwch (PGCtHE) wedi'i chwblhau drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'n Gymrawd ar gyfer yr Academi Addysg Uwch.

Mae Amanda yn Athro Nyrsio Cofrestredig gyda'r Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth ac yn Nyrs bresgripsiynydd cymunedol cofrestredig

Mae Amanda wedi gweithio fel Uwch Ddarlithydd i Brifysgol Abertawe yng nghynt, a hefyd bu'n Arweinydd yr iaith Gymraeg y Coleg wrth weithredu'r Safonau Iaith Gymraeg ar draws y Coleg cyn dechrau yn ei swydd ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae gan Amanda brofiad helaeth o addysgu mewn addysg uwch ac mae wedi cefnogi myfyrwyr ar lefelau israddedig ac ôl-raddedig yn academaidd ac yn glinigol drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.

Mae Amanda yn siaradwr Cymraeg rhugl, ag yn arholwr allanol cynt i Brifysgol Sunderland ag yn arbenigwr pwnc allanol ar gyfer cymeradwyo rhaglen yr NMC

Enillodd Amanda Wobr Staff yn 2017 am 'Hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant'

Mae cyfrifoldebau Amanda hefyd yn cynnwys:

  • Is-Gynullydd ar gyfer Gyngor Doniaid Iechyd Cymru  
  • Cyfarwyddwr Dysgu ad Addysgu ar gyfer Addysg Gofal Iechyd
  • Grŵp nyrsio Cyn-gofrestru Cymru 
  • Grwp bwrsaiaeth Llywodraeth Cymru
  • Panel y Brifysgol ar gyfer Arfer Academaidd Annerbyniol (AAA)
  • Panel Addasrwydd i Ymarfer (Nyrsio) Prifysgol Aberystwyth

Yn mis Gorffennaf 2023 derbynniodd Amanda achredu gyda ‘Advance HE’ am ‘Pontio i Arweinyddiaeth’

Yn Mai 2024 cafodd Amanda ei phenodi yn Is-Gynullydd ar gyfer Deoniaid Iechyd Cymru

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae Amanda hefyd yn gymwys mewn tylunio babanod datblygiadol.

Mae Amanda yn frwd dros sicrhau ehangu cyfranogiad cyfleoedd addysg ar gyfer addysg gofal iechyd yn ogystal a sicrhau agwedd sy'n ystyriol a deuluoedd a fewn rhaglenni gofal iechyd, i ddiwallu anghenion unigolion sydd a chyfrifoldebau gofalu o fewn canolbarth Cymru

 

Ymchwil

Mae Amanda wedi cyhoeddi dau ddarn o waith trwy gyfrwng y Gymraeg:

Dysgu Am: Rhoi a Derbyn Gofal yn y Gymraeg - Llyfrgell y Coleg - Powered by Planet eStream (porth.ac.uk)

Plant yn gor-ddefnyddio dyfeisiau electronig – oes angen i ni boeni? – Golwg360

Mai 2019: Cyflwyno mewn cynhadledd Y Coleg Nyrsio Brenhinol ym Mryste :Pwisygrwydd yr iaith Gymraeg mewn gofal iechyd yng Nghymru

Tachwedd 2019: Cynhadledd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru : Pwisygrwydd yr iaith Gymraeg mewn gofal iechyd yng Nghymru

Tachwedd 2022: Cynhadledd Iechyd a Gofal Gwledig Cymru : Datblygu cyrsiau Addysg Gofal Iechyd yng Nghanolbarth Cymru

Mawrth 2023: Cofleidio rhith-relaiti o fewn gofal iechyd i fyfyrwyr nyrsio

Gorffennaf 2023: Cyflwyno yn Symposiwm Efelychu ar y Cyd PA: Dulliau newydd ac arloesol o gyflwyno cwrs nyrsio israddedig

Gorffennaf 2024: Gweithredu Hyfforddiant Ymwybyddiaeth Gofalwyr mewn addysg gofal iechyd: Ymddiriedolaeth Gofalwyr, Abertawe

Awst 2024 : Ymgynhorwyr pwnc: Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-Destunau: cbac / City & Guilds: Amanda Jones a Dr Angharad Jones

Cyfrifoldebau

Prif Arweinydd a Phennaeth  Addysg Gofal Iechyd

CyfarwyddwrDysgu ac Addysgu ar gyfer Addysg Gofal Iechyd

Cyfrifoldeb gweithredol am raglenni addysg gofal iechyd gan gynnwys nyrsio, dychwelyd i ymarfer nyrsio a'r cwrs Lefel 4

Cyfrifoldeb gweithredol am lleoliadau ymarfer clinigol

Monitro ac adrodd ar ansawdd y cwricwlwm PA a CNB

Rheolwr tîm ar gyfer staff Canolfan Addysg Gofal Iechyd

Arweinydd Anghenion Ychwanegol/ Cydlynydd cymorth i fyfyrwyr

Arweinydd Addasrwydd i Ymarfer ar gyfer rhaglenni profesiynol y CNB

DBS/ Cydymffurfiaeth Iechyd Galwedigaethol

Tiwtor personol

Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)

  • Dydd Llun 08.00-16.30
  • Dydd Mawrth 08.00-16.30
  • Dydd Mercher 08.00-16.30
  • Dydd Iau 08.00-16.30
  • Dydd Gwener 08.00-16.00