Gofynion Mynediad
Gofynion Mynediad Nodweddiadol
Rhaglen amser llawn:
Mae'r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn hybu meini prawf derbyn sydd yn gynhwysol; fodd bynnag, anogir ymgeiswyr sy'n ansicr o'u cymwysterau i drafod eu cyflawniadau academaidd a'u profiadau â Thiwtor Derbyn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd (nrsstaff@aber.ac.uk).
Tariff UCAS 104 – 96
Mae hyn yn cynnwys cymwysterau Lefel 3 megis:
- 3 Safon Uwch (Lefel A) - BCC/CCC
- Derbynnir Tystysgrif Her Sgiliau Bagloriaeth Cymru yn lle un o’r Safonau Uwch (yn unol â’r graddau a restrir uchod)
- Diploma Estynedig BTEC – DMM-MMM
- Diploma BTEC – D*D-DD
- Mynediad i Ddiploma Addysg Uwch – Teilyngdod yn gyffredinol
- Bagloriaeth Ryngwladol – 26-28
- Bagloriaeth Ewrop – 26% yn gyffredinol
- Neu unrhyw gymwysterau cyfatebol eraill.
Hefyd
- TGAU (neu gymhwyster arall cydnabyddedig) ar isafswm gradd C/4 mewn: Saesneg/Cymraeg Iaith a Mathemateg
Rhaglen rhan amser:
Mae'r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd ym Mhrifysgol Aberystwyth yn hyrwyddo maen prawf mynediad cynhwysol yn unol â’r broses Cydnabod Dysgu Blaenorol (RPL) neu’r broses Achredu Dysgu drwy Brofiad Blaenorol (APEL). Anogir ymgeiswyr i gysylltu â Thiwtoriaid Derbyn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd (nrsstaff@aber.ac.uk) a'u Rheolwr Llinell eu hunain i gael rhagor o wybodaeth.
Mae'r rhaglen ran-amser ar agor i ymgeiswyr sy’n cael eu cyflogi ar hyn o bryd mewn swyddi gofal/gofal iechyd yn y Sector Gofal Iechyd yng Nghanolbarth Cymru. Gall ymgeiswyr ddal cymwysterau academaidd, ond bydd y gofynion mynediad i bawb ar gyfer y rhaglen ran-amser yn cynnwys cyflwyno tystiolaeth a amlinellir yn rhan o’r broses RPL neu’r broses APEL. Rhaid dilyn y llwybr Cais Uniongyrchol er mwyn ymgeisio.
Ceisiadau drwy’r broses Cydnabod Dysgu Blaenorol [RPL]:
- Cymhwyster Lefel 4 – Tystysgrif mewn Gofal Iechyd ar gyfer Addysg Uwch, neu gymhwyster amgen gofal iechyd cydnabyddedig/perthnasol arall ar y lefel hon/credydau hyn (neu uwch).
Rhaid i'r rhaglen hon/cymhwyster hwn gynnwys:
- Cadarnhad bod cynnwys y rhaglen Lefel 4 (neu’r rhaglen amgen gydnabyddedig) yn gydnaws â Rhan 1 o raglen BSc Nyrsio Prifysgol Aberystwyth.
- Cwblhau'r ddogfen Asesu Ymarfer Cymru Gyfan (2018) – Rhan 1
- Cadarnhad o’ch oriau ymarfer (800 awr dros y ddwy flynedd ddiwethaf)
- Cadarnhad o sgriniad Iechyd Galwedigaethol a gynhaliwyd gan gyflogwr yr ymgeisydd, gan ddarparu gwybodaeth berthnasol i'r Tîm Addysg Gofal Iechyd, a allai olygu bod angen ystyried addasiad rhesymol neu banel Addasrwydd i Ymarfer
- Cwblhau prawf manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyda chanlyniadau’n bodloni gofynion proffesiynol (gweler gwybodaeth Addasrwydd i Ymarfer)
- Wedi cwblhau hyfforddiant gorfodol fel y nodir gan gyflogwr yr ymgeisydd sy’n gydnaws â sgiliau’r rhaglen yn Rhan 1
- Cais wedi’i wneud am absenoldeb astudio ac wedi’i gymeradwyo, ac wedi cael sêl bendith y Rheolwr Llinell.
- TGAU (neu gymhwyster arall cydnabyddedig) ar isafswm gradd C/4 mewn:
- Saesneg/Cymraeg Iaith a Mathemateg
NEU
Ceisiadau drwy’r broses Achredu Dysgu drwy Brofiad Blaenorol (APEL):
- Bydd APEL yn cael ei ystyried fesul unigolyn
- Wedi cwblhau hyfforddiant gorfodol fel y nodir gan gyflogwr yr ymgeisydd sy’n gydnaws â sgiliau’r rhaglen yn Rhan 1
- Cais wedi’i wneud am absenoldeb astudio ac wedi’i gymeradwyo, ac wedi cael sêl bendith y Rheolwr Llinell.
- Cadarnhad o sgriniad Iechyd Galwedigaethol a gynhaliwyd gan gyflogwr yr ymgeisydd, gan ddarparu gwybodaeth berthnasol gyda’r Tîm Addysg Gofal Iechyd, a allai olygu bod angen ystyried addasiad rhesymol neu banel Addasrwydd i Ymarfer.
- Cwblhau prawf manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gyda chanlyniadau’n bodloni gofynion proffesiynol (gweler gwybodaeth Addasrwydd i Ymarfer)
- TGAU (neu gymhwyster arall cydnabyddedig) ar isafswm gradd C/4 mewn:
- Saesneg/Cymraeg Iaith a Mathemateg
Yn rhan o geisiadau APEL, codir tâl fel arfer am gymorth academaidd ac asesu. Cytunir ar hyn yn unol â'r nifer o gredydau sy’n rhan o broses APEL.
Gofynion Ychwanegol
Yn ogystal â chyflawniadau academaidd, er mwyn cydymffurfio â gofynion proffesiynol, mae'r meini prawf derbyn yn cynnwys hefyd:
- Asesiad Iechyd Da a Chymeriad Da (gweler gwybodaeth Addasrwydd i Ymarfer isod). Os cewch gynnig lle gyda ni, rhaid i chi gwblhau ffurflen Sgrinio Iechyd Galwedigaethol.
- Gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (gweler gwybodaeth Addasrwydd i Ymarfer isod). Os cewch gynnig lle gyda ni, rhaid i chi gael eich prawf manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Gweler guidance-on-health-and-character-august-2020.pdf (nmc.org.uk) i gael rhagor o wybodaeth.
Ar gyfer myfyrwyr rhyngwladol, derbynnir y System Brofi Ryngwladol ar gyfer yr Iaith Saesneg (IELTS) â sgôr gyffredinol o 7 o leiaf, ac o leiaf 6.5 yn yr adran ysgrifennu ac o leiaf 7 yn yr adrannau darllen, gwrando a siarad. Hefyd, derbynnir tystysgrif OET â gradd C+ o leiaf mewn ysgrifennu ac o leiaf B mewn darllen, gwrando a siarad.
Addasrwydd i Ymarfer
Mae gofynion o ran iechyd da a chymeriad da, fel y nodir yn neddfwriaeth y Cyngor Nyrsio a Bydwreigiaeth, yn golygu y gallwch ymarfer yn ddiogel ac effeithiol, naill ai gydag addasiadau rhesymol neu hebddynt. Nid yw'n golygu nad yw cyflwr iechyd nac anabledd yn bod. Felly, os bydd unrhyw faterion o ran eich iechyd a'ch cymeriad yn dod i’r amlwg drwy ein prosesau sgrinio, bydd y Panel Addasrwydd i Ymarfer yn ystyried pob sefyllfa unigol ac yn gwneud penderfyniad o ran eich cymhwysedd i gael eich derbyn ar y rhaglen. Os oes gennych chi unrhyw bryderon am hyn, mae croeso i chi drafod hyn ymhellach gyda'r Tiwtor Derbyn.
Mae'r Panel Addasrwydd i Ymarfer hefyd yn ystyried iechyd a chymeriad y myfyrwyr drwy gydol y rhaglen hefyd, os bydd unrhyw beth yn digwydd a/neu os cewch eich taro’n wael yn ystod eich hyfforddiant a fydd yn effeithio ar eich dysgu a/neu ar leoliadau clinigol. Gallwch gael gafael ar gymorth a chyngor ynghylch eich iechyd a'ch lles drwy’r Gwasnaethau Cymorth i Fyfyrwyr a’r Gwasanaethau Gyrfaoedd ar unrhyw adeg yn ystod y rhaglen.
Dewis Myfyrwyr
Ar ôl derbyn eich cais, bydd Tiwtoriaid Derbyn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn darllen trwy eich dogfennau er mwyn asesu a ydych yn bodloni meini prawf parhaol ein proses dderbyn. Noder bod y llefydd i astudio ar y rhaglen hon yn gystadleuol dros ben, ac os na chewch eich gwahodd i gam nesaf y broses dderbyn ar yr ymgais hon, byddem yn eich annog yn gryf i wneud cais eto yn y dyfodol.
Bydd y rhestr fer gychwynnol yn seiliedig ar yr wybodaeth a roddwyd yn eich cais, gan gynnwys eich datganiad personol a'ch geirda. Ni fydd ceisiadau nad yw’n cynnwys gwybodaeth allweddol (e.e., manylion y cymwysterau a enillwyd/y cymwysterau rydych ar fin eu hennill, datganiadau personol, geirdaon) yn cael eu hystyried ar gyfer y rhestr fer.
Os yw eich cais yn bodloni cam nesaf y meini prawf derbyn, fe'ch gwahoddir i un o'n Digwyddiadau Dethol Myfyrwyr. Bydd yr holl ymgeiswyr sy'n dod i’r Digwyddiadau Dethol Myfyrwyr yn cael eu hasesu yn unol ag egwyddorion Recriwtio a Dethol Myfyrwyr Cymru gyfan. Ar ôl i’r holl ddigwyddiadau hyn ddod i ben, byddwn yn enwi ac yn cytuno ar ein darpar garfan o fyfyrwyr cyn gynted â phosibl, a byddwn yn ceisio rhoi cynigion amodol yn fuan ar ôl hynny.
Bydd digwyddiadau dethol y Brifysgol yn cael eu cefnogi gan staff Addysg Gofal Iechyd mewnol, Partneriaid Dysgu Ymarfer, defnyddwyr gwasanaeth/gofalwyr/aelodau'r cyhoedd a myfyrwyr. Bydd y digwyddiadau fel arfer yn para oddeutu hanner diwrnod.
Bydd digwyddiad dethol Prifysgol Aberystwyth yn cynnwys:
- Sgwrs a throsolwg rhagarweiniol o'r rhaglen
- Taith o amgylch y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd
- Trafodaeth/dadl mewn grŵp
- Gweithgaredd gwaith tîm nas gwelwyd ymlaen llaw
- Senario unigol
- Cyfweliad un i un
- Cyfle i gwrdd â staff a myfyrwyr presennol, a holi cwestiynau.
Sylwch y bydd ein Digwyddiadau Dethol Myfyrwyr arfaethedig yn cael eu hwyluso yn unol â rheoliadau Covid-19 cyfredol y Brifysgol/Llywodraeth Cymru, ac y gallent efallai fod yn wahanol i'r hyn a amlinellir yma.
Derbyniadau cyd-destunol
Mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithredu polisi derbyniadau cynhwysol sy’n cydnabod natur unigol pob cais a gawn. Rydym wedi ymrwymo i helpu'r agenda ehangu cyfranogiad sy'n cefnogi dilyniant i addysg uwch. Mae’r Ganolfan Addysg Gofal Iechyd yn cefnogi derbyniadau cyd-destunol a bydd ymgeiswyr yn cael eu hasesu ar eu teilyngdod fel unigolion.
Ar gyfer ymgeiswyr sy'n gwneud cais am ein cyrsiau nyrsio israddedig, gall y Brifysgol ystyried cynigion cyd-destunol os bydd unrhyw un o'r meini prawf canlynol yn berthnasol i amgylchiadau personol yr ymgeisydd ei hun:
- Os yw wedi bod mewn gofal neu wedi derbyn gofal am dri mis neu ragor
- Ymgeiswyr sy'n ofalwyr ifanc (Mae gofalwyr sy'n oedolion ifanc yn bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed sy'n gofalu, yn ddi-dâl, am aelod o'r teulu neu ffrind sydd â salwch neu anabledd, cyflwr iechyd meddwl neu ddibyniaeth)
- Ymgeiswyr sy'n byw mewn ardal o amddifadedd uchel (yn perthyn i 20% isaf MALIC)
- Ymgeiswyr nad yw eu rhieni wedi cael addysg i lefel Addysg Uwch ("AU")
- Ymgeiswyr sy'n dal nodwedd warchodedig ac sy'n cael eu tangynrychioli mewn addysg uwch
Cysylltwch â'r Swyddfa Derbyn Graddedigion (derbyn-israddedig@aber.ac.uk) neu un o Diwtoriaid Derbyn y Ganolfan Addysg Gofal Iechyd i gael rhagor o wybodaeth (nrsstaff@aber.ac.uk).