Ein Cyrsiau
Oes gennych chi ddiddordeb mewn gyrfa mewn Nyrsio? Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau sy'n addas ar gyfer pobl o bob cefndir a phob lefel mynediad:
Ymgeisiwch am le yn awr ar gyfer Medi 2024
- BSc Nyrsio (Oedolion) - B740
- BSc Nyrsio (Oedolion) (rhan-amser) - B74P
- BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl) - B760
- BSc Nyrsio (Iechyd Meddwl) (rhan-amser) - B76P
- Tystysgrif Addysg Uwch: Addysg Gofal Iechyd (Iechyd Meddwl neu Oedolion)
Ymgeisiwch am le yn awr ar gyfer Chwefror 2024
Nyrsio Oedolion: Cwrs i ddatblygu ymarferwyr ym maes nyrsio oedolion sy'n gallu gweithio mewn amrywiaeth o leoliadau gofal, gan roi’r pwyslais ar urddas, gofal a thosturi.
Nyrsio Iechyd Meddwl: Cwrs i ddatblygu ymarferwyr ym maes nyrsio iechyd meddwl sy'n gallu gweithio gyda phobl o bob oed i wella lles, cynhwysiant cymdeithasol, ac ansawdd bywyd.
Tystysgrif Addysg Uwch (Cert HE): Addysg Gofal Iechyd: Cwrs astudio sy'n cyfateb i flwyddyn gyntaf ein rhaglen hyfforddiant nyrsio BSc cyn cofrestru, dros gyfnod o ddwy flynedd.
Dychwelyd i Ymarfer (Oedolion): Cwrs sy’n eich galluogi i wneud cais i ailymuno â’r gofrestr broffesiynol fel ymarferydd gofal iechyd cofrestredig annibynnol.
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth: nrsstaff@aber.ac.uk