Lles i Ôl-raddedigion

Gall Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr yn y Brifysgol eich cynorthwyo ar unrhyw adeg yn ystod eich gradd ôl-raddedig yma yn Aberystwyth. Ar gyfer myfyrwyr ymchwil, mae hyn hefyd yn cynnwys y cyfnod ar ôl eich viva pan fyddwch, o bosibl, yn gwneud cywiriadau i'ch traethawd ymchwil. Peidiwch ag oedi os oes angen ichi gysylltu â hwy.

Rydyn ni yma i helpu unrhyw fyfyriwr gydag unrhyw fater lles, boed yn fater sy'n ymwneud â chyfeillgarwch, profedigaeth, gorbryder neu faich gwaith, problemau iechyd meddwl ysgafn i gymedrol neu rai difrifol a pharhaus. - Gwasanaeth Lles y Myfyrwyr

Dyma amseroedd y sesiynau galw heibio lles:

• Dydd Llun: 1-4pm
• Dydd Mawrth: 1-4pm
• Dydd Mercher: Ar gau
• Dydd Iau: 1-4pm
• Dydd Gwener: 1-3.30pm

Lleoliad: Y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr

Amseroedd newydd clinig GCAD yw bob dydd Mawrth o 1pm tan 4.30pm yn y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr, ar yr 2il lawr, ystafell 2.67.

Dyma rai dolenni pwysig: