Gludwch eich llofnod newydd yn Outlook
- Agorwch Outlook yna cliciwch ar File yn y gornel chwith uchaf
- Cliciwch ar Options ar y bar glas i lawr yr ochr chwith
- Cliciwch ar Mail ac yna ar Signatures...
- Cliciwch ar New, rhowch enw i’ch llofnod ac yna cliciwch ar OK
- Cliciwch y tu mewn i’r blwch mawr o dan Email signature a gwasgwch CTRL+V i ludo eich llofnod newydd yn y blwch.
- Agorwch Outlook
- Ar far y ddewislen ar frig y sgrin cliciwch ar Outlook ac yna ar Preferences...
- Cliciwch ar Signatures
- Cliciwch ar y +
- Rhowch enw i’ch llofnod, yna cliciwch y tu mewn i’r blwch mawr islaw a gwasgu Command+V i ludo eich llofnod newydd yn y blwch.
- Mewngofnodwch i’r system gwebost (https://webmail.aber.ac.uk)
- Cliciwch ar eicon yr olwyn ddannedd yn y gornel dde uchaf
- Bydd y panel gosodiadau yn ymddangos ar y dde
- Cliciwch ar View all Outlook Settings ar waelod y panel.
- Cliciwch ar Email, yna clicwch ar Compose and reply yn y golofn nesaf.
- Cliciwch y tu mewn i’r blwch mawr o dan Email signature a gwasgwch CTRL+V i ludo eich llofnod newydd yn y blwch