Rwyf wedi newid fy manylion banc, fy nghyfeiriad neu enw fy nghwmni, pwy ddylwn i ei hysbysu?
E-bostiwch bylstaff@aber.ac.uk gyda'ch manylion newydd, ac fe fyddwn yn diweddaru ein cofnodion yn unol â hynny, ar ôl eu gwirio.
Derbyniais daliad nad oedd i fod i mi. Sut ydw i’n dychwelyd yr arian?
Anfonwch e-bost i paystaff@aber.ac.uk a byddwn yn rhoi manylion banc a chyfarwyddiadau i chi ynghylch beth i'w roi fel cyfeirnod.
Sut mae gwneud ymholiad am daliad anfoneb sy'n dyledus?
Am unrhyw ymholiadau’n ymwneud â thaliadau, anfonwch e-bost i paystaff@aber.ac.uk , gan nodi enw eich cwmni a rhif yr anfoneb. Byddwn yn ymateb i'ch ymholiad drwy e-bost cyn gynted ag y gallwn.
Sut mae anfon anfoneb i’w thalu?
Anfonwch unrhyw anfonebau i paystaff@aber.ac.uk . Sicrhewch bod rhif yr Archeb Brynu berthnasol wedi'i nodi ar bob anfoneb. Bydd methu â nodi rhif archeb brynu yn arwain at oedi wrth dalu’r anfoneb.