Cwestiynau Cyffredin Myfyrwyr

Sut ydw i'n talu fy ffioedd dysgu?

Gallwch dalu eich ffioedd dysgu ar-lein drwy fynd i https://epayments.aber.ac.uk/student/. Gallwch dalu'n llawn neu mewn rhandaliadau; caiff y rhandaliadau eu casglu dros y flwyddyn academaidd; os yw'r dyddiad wedi mynd heibio, gofynnir i chi dalu'r rhandaliadau a fethwyd ar unwaith, a rhoddir cynllun yn ei le ar gyfer unrhyw daliadau sy'n ddyledus yn y dyfodol.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'ch ffioedd dysgu, anfonwch e-bost i fees@aber.ac.uk

Sut ydw i'n talu fy ffioedd llety?

Wrth gwblhau eich pecyn trwydded cyn symud i mewn i neuaddau preswyl, byddwch wedi cyflwyno cynllun talu er mwyn cwblhau'r broses. Bydd y cynllun hwn yn parhau'n weithredol yn ystod y flwyddyn academaidd. Os ydych wedi methu rhandaliad, gallwch wneud y taliad yn https://epayments.aber.ac.uk/student/

Sut ydw i'n talu anfonebau eraill nad ydynt yn gysylltiedig â ffioedd dysgu neu lety?

Gallwch fynd i https://epayments.aber.ac.uk/student/ i dalu eich anfoneb yn llawn.

Sut ydw i'n diweddaru manylion fy ngherdyn ar gyfer fy nghynllun(iau)?

Gallwch ddiweddaru manylion eich cerdyn ar-lein drwy fynd i https://epayments.aber.ac.uk/customer-card-update a dilyn y cyfarwyddiadau ar y sgrin i ddiweddaru eich manylion. Sicrhewch eich bod yn defnyddio'r e-bost a ddefnyddiwyd gennych wrth drefnu’r cynllun.

Dydw i heb dderbyn fy nhaliad bwrsariaeth

E-bostiwch fees@aber.ac.uk a fydd yn ymateb i’ch ymholiad.

Mae ad-daliad yn ddyledus i mi, beth sydd angen i mi ei wneud?

Bydd ad-daliadau yn cael eu prosesu yn ôl i ffynhonnell y taliad gwreiddiol. Os na allwn brosesu’r ad-daliad i'r ffynhonnell wreiddiol, byddwn yn ad-dalu drwy drosglwyddiad banc i'r manylion banc a nodwyd yn eich cofnod myfyriwr. Sicrhewch fod yr holl wybodaeth yn gyfredol.

Rwyf wedi newid fy manc a/neu fy manylion cyswllt, pwy ddylwn i ei hysbysu?

Diweddarwch eich cofnod myfyriwr gyda'ch manylion newydd, cywir.