Mr Llyr Jones

Mr Llyr Jones

Health Safety and Environment Advisor

Manylion Cyswllt

Proffil

Ymunodd Llyr â’r Adran Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd yn Ionawr 2015 fel Ymgynghorydd Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol (Hyfforddiant).

Mae Llyr yn gyn fyfyriwr Prifysgol Aberystwyth, lle bu’n astudio Amaethyddiaeth gyda Rheoli Cefn Gwlad cyn graddio ag anrhydedd yn 2005. Ers graddio, mae Llyr wedi parhau â’i ddatblygiad mewn addysg trwy ennill nifer o gymwysterau sy’n uniongyrchol berthnasol i’r swydd Ymgynghorydd Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol.

Mae Llyr yn aelod Graddedig o’r Sefydliad Diogelwch ac Iechyd Galwedigaethol (IOSH), ac mae’n cyfranogi yn ei ddatblygiad profesiynnol parhaol ei hun drwy fynychu seminarau a hyfforddiant pellach.

Mae Llyr yn Ymgynghorydd Iechyd, Diogelwch ac Amgylcheddol profiadol, ac mae ganddo hanes o lwyddiant yn rheoli safon Amgylcheddol ISO 14001, darparu hyfforddiant IOSH ar Reoli’n Ddiogel ac archwilio yn erbyn safonau megis OHSAS 18001.

Cyn ymuno â’r tîm, bu Llyr yn gweithio i Dunbia fel Rheolwr Iechyd, Diogelwch ac Amwynderau.

Mae Llyr hefyd yn Ddifoddwr Tân Wrh Gefn gyda Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.