Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd Ddesg Gymorth

Rydym yn cefnogi nod y Brifysgol i ddarparu lle deniadol, croesawgar ac eithriadol i weithio, astudio, ymweld ac aros trwy ddarparu gwasanaethau rheoli cyfleusterau rhagorol ar gyfer aelodau staff, myfyrwyr ac ymwelwyr y Brifysgol. Mae desg gymorth Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd yno i chi roi gwybod am unrhyw waith cynnal a chadw/atgyweirio, difrod, peryglon, materion rheoli pla, a mân waith (o £5k hyd at £25k).

Mae yna wahanol ddulliau o roi gwybod am ddiffygion yn dibynnu ar bwy ydych chi. Gweler isod am wybodaeth sy'n berthnasol i chi:

Desg Gymorth YCP

Yn eich gwasanaeth...

Desg Gymorth YCP yw eich siop un stop ar gyfer gwneud cais am waith cynnal a chadw a mân waith (o £5m hyd at £25m).

Rydym yn cefnogi nod y Brifysgol i ddarparu lle deniadol, croesawgar ac eithriadol i weithio, astudio, ymweld ac aros trwy ddarparu gwasanaethau rheoli cyfleusterau rhagorol i aelodau, gwesteion ac ymwelwyr y Brifysgol.

Os oes angen cymorth arnoch, gallwch gysylltu â ni:

  • dros y ffôn ar 01970 622999 (24 awr)
  • trwy e-bost i campushelp@aber.ac.uk (sylwer mai dim ond rhwng 8:30am - 5:00pm dydd Llun - dydd Iau a 8:30am - 4:00pm dydd Gwener yr ymatebir i e-byst)

Os ydych chi'n ddefnyddiwr cofrestredig o'n system rheoli galwadau, gallwch hefyd logio galwad cymorth eich hun trwy ymweld â'n safle mewnrwyd Planet FM Enterprise. Er y gallwch logio galwad ar unrhyw adeg, bydd ceisiadau am gymorth y tu allan i oriau yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl y diwrnod gwaith nesaf. Os nad ydych wedi cofrestru, cysylltwch â gweinyddwr eich adran neu borthor eich adeilad i logio neu i fynd ar ôl yr alwad ar eich rhan.

Myfyrwyr

Gall myfyrwyr roi gwybod am unrhyw faterion yn ymwneud â chynnal a chadw/atgyweirio, difrod, peryglon a rheoli pla drwy ein ffurflen rhoi gwybod am ddiffygion ar-lein. Bydd adroddiadau ar-lein am ddiffygion ond yn cael eu derbyn a’u prosesu rhwng dydd Llun a dydd Gwener (9.00yb – 5.00yp) ac eithrio Gŵyl y Banc a Diwrnodau pan fo’r Brifysgol ar Gau. Os oes arnoch angen gwaith atgyweirio brys gallwch ffonio Llinell Gymorth 24/7 Bywyd y Campws – 01970 622900.
Wrth roi gwybod am ddiffygion, gwnewch yn siŵr eich bod yn cynnwys enw a manylion yr ystafell yn ogystal â manylion am y diffyg. Dywedwch yn union beth yw’r broblem a ble yn union mae hi. Gall peidio â gwneud hyn olygu nad yw’n glir iawn beth yw’r diffyg.

Staff

Gall aelodau o staff roi gwybod am faterion yn ymwneud â chynnal a chadw/atgyweirio, difrod, peryglon a rheoli pla drwy ffonio neu e-bostio’r ddesg gymorth:
Ffôn – 01970 622999. Bydd angen i chi roi disgrifiad llawn o’r broblem, ble mae’r broblem ynghyd â’ch enw, rhif ffôn a’ch cyfeiriad e-bost Aberystwyth.
E-bost – campushelp@aber.ac.uk. Os ydych chi’n e-bostio ynglŷn â’r broblem rhowch gymaint o fanylion â phosibl, gan gynnwys lleoliad penodol y broblem a’ch manylion cyswllt llawn.

Ymwelwyr

Os ydych chi’n ymweld â Phrifysgol Aberystwyth gallwch roi gwybod am unrhyw faterion yn ymwneud â chynnal a chadw/atgyweirio, difrod, peryglon a rheoli pla drwy ffonio 01970 622999. Neu, gallwch ffonio Llinell Gymorth 24/7 Bywyd y Campws – 01970 622900.
Gofynnir i chi roi eich manylion cyswllt llawn ynghyd â lleoliad y broblem a disgrifiad o’r broblem ei hun gan roi cymaint o fanylion â phosibl.

Aelodau o’r cyhoedd

Os ydych chi’n aelod o’r cyhoedd ac yn dod o hyd i unrhyw faterion yn ymwneud â chynnal a chadw/atgyweirio, difrod, peryglon a rheoli pla rhowch wybod amdanynt trwy ffonio prif rif ffôn y Brifysgol, sef 01970 623111 neu rif ffôn y ddesg gymorth, sef 01970 622999.