Siarter Cydraddoldeb Hil
Nod Siarter Cydraddoldeb Hil AdvanceHE yw gwella cynrychiolaeth, cynnydd a llwyddiant staff a myfyrwyr o Leiafrifoedd Ethnig o fewn addysg uwch. Mae Prifysgol Aberystwyth yn aelod o’r Siarter Cydraddoldeb Hil ac mae’n bwriadu cyflwyno cais am Wobr Efydd y Siarter yng nghylch cyflwyno mis Tachwedd 2024.
Fel aelod o’r Siarter Cydraddoldeb Hil, ac wrth ymgeisio am wobr Efydd, mae'r Brifysgol yn ymrwymo i'r egwyddorion arweiniol isod, ac i ystyried y rhwystrau sefydliadol a diwylliannol sy'n wynebu staff a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig - gan fynd ati i lunio cynllun gweithredu a gwelliant.
Mae'r Siarter Cydraddoldeb Hil wedi'i seilio ar bum egwyddor arweiniol sylfaenol.
- Mae anghydraddoldebau hil yn broblem sylweddol o fewn addysg uwch. Nid yw anghydraddoldebau hil o reidrwydd yn achosion unigol ac amlwg. Mae hiliaeth yn agwedd gyffredin yng nghymdeithas y DU ac mae anghydraddoldebau hil yn amlygu eu hunain mewn sefyllfaoedd, prosesau ac ymddygiadau bob dydd.
- Ni all addysg uwch yn y DU gyrraedd ei llawn botensial oni bai ei bod yn gallu elwa o ddoniau'r boblogaeth gyfan a hyd nes y gall unigolion o bob cefndir ethnig gael budd cyfartal o'r cyfleoedd y mae'n eu cynnig.
- Wrth ddatblygu atebion i ddatrys anghydraddoldebau hil, mae'n bwysig fod yr atebion hyn yn ceisio newid hirdymor yn y diwylliant sefydliadol, gan osgoi modelydd diffyg lle newid yr unigolyn yw’r nod.
- Nid grŵp unffurf yw staff a myfyrwyr o Leiafrifoedd Ethnig. Mae gan bobl o wahanol gefndiroedd ethnig brofiadau gwahanol o addysg uwch a'i ganlyniadau, ac mae angen ystyried y cymhlethdod hwn wrth ddadansoddi data a datblygu camau gweithredu.
- Mae gan bob unigolyn sawl hunaniaeth, a dylid ystyried y croestoriad rhwng yr hunaniaethau gwahanol hyn lle bo modd.
Mae'r Siarter Cydraddoldeb Hil yn cynnwys:
- staff proffesiynol a staff cymorth;
- staff academaidd;
- cynnydd myfyrwyr a dyfarnu;
- amrywiaeth y cwricwlwm.