Siarter Cydraddoldeb Hil - Gweithgorau
Cyfrifoldeb y Grŵp Gweithredu ar Hil yw paratoi cais y Brifysgol am wobr Marc Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hil, ac felly y daw yn Dîm Hunanasesu craidd.
Mae'r Brifysgol yn gweithio tuag at gais Gwobr Efydd Siarter Cydraddoldeb Hil erbyn mis Tachwedd 2024.
Sefydlwyd aelodaeth y grŵp ar sail swyddogaethau a chyfrifoldebau o fewn y Brifysgol. Er mwyn bwrw ymlaen i weithio ar feysydd penodol y cais mae'r Grŵp Gweithredu wedi enwi 3 gweithgor, sydd â aelodaeth sy’n gynrychiolaeth o’r Brifysgol.
Gweithgor 1: Newid Diwylliant y Brifysgol
Cadeirydd: Ian Munton
Bydd y gweithgor hwn yn
- adolygu ein diwylliant prifysgol drwy gynnal arolwg a chynnal grwpiau/gweithdai ffocws i gasglu gwybodaeth am brofiadau staff a myfyrwyr yn y Brifysgol ynghylch cydraddoldeb hil.
- llunio’r cynnig cyntaf a gytunwyd o ‘Ganllawiau Iaith a Thermau Hil Prifysgol Aberystwyth i fyfyrwyr a staff’.
- cynghori'r Tîm Hunanasesu a'r Brifysgol yn ehangach ar y materion a nodwyd ac awgrymu meysydd eraill ar gyfer datblygu a hyfforddi
- ymchwilio i densiynau hil yn y Brifysgol ac yn y gymuned leol
- meithrin cyswllt â staff a myfyrwyr o leiafrifoedd ethnig
Gweithgor 2: Proffil a Data Staff, Denu Myfyrwyr, Cynnydd a Datblygu
Cadeirydd: Ankita Trivedi
Bydd y gweithgor hwn yn casglu ac yn dadansoddi data ac adrodd ar y canlynol:
- Proffil a denu staff (staff academaidd, proffesiynol a chynorthwyol)
- Cwynion a phrosesau disgyblu
- Cynnydd a dyrchafiad staff
- Hyfforddiant a datblygu staff
- Adolygu arfarnu/datblygu staff
- Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil (FfRhY)
Gweithgor 3 Llwybr myfyrwyr, derbyn myfyrwyr a chyrhaeddiad, dysgu ac addysgu
Cyd-Cadeiryddion: Bayanda Vundamina, Lucy Taylor a Alan Macmillan
Bydd y gweithgor hwn yn edrych, yn casglu, yn dadansoddi ac adrodd ar y canlynol:
- Proffiliau myfyrwyr, denu a derbyn myfyrwyr
- Llwybr myfyrwyr uwchraddedig a Chyflogaeth
- Dilyniant a chyrhaeddiad cwrs
- Cynnwys cyrsiau/y maes llafur gan gynnwys dull y Brifysgol o greu cwricwlwm mwy amrywiol i gyrsiau newydd a rhai sydd eisoes yn bod
- Dulliau addysgu ac asesu, amgylchedd dysgu a chyfranogiad myfyrwyr
- Hyder academaidd, gan gynnwys hyfforddiant a chefnogaeth i ddatblygu cydraddoldeb hil
Bydd pob Gweithgor yn penderfynu pa mor aml i gwrdd a’u dull o gyfarfod (o leiaf bob mis) a byddant yn adrodd ar eu cynnydd (trwy'r Cadeirydd) yng nghyfarfodydd misol y Grŵp Gweithredu ar Hil.