Grŵp Gweithredu ar Hil
Mae’r camau gweithredu a argymhellwyd gan Gynllun Gweithredu ar Hil y Brifysgol yn cael eu rhoi ar waith gan y Grŵp Gweithredu ar Hil. Y grŵp hwn hefyd yw'r tîm Hunanasesu craidd sy'n gweithio i adolygu a llunio cynllun gweithredu ar gyfer y dyfodol fel rhan o'r camau sydd eu hangen i wneud cais llwyddiannus am wobr Marc Efydd y Siarter Cydraddoldeb Hil erbyn mis Tachwedd 2024.
Bydd y Grŵp Gweithredu ar Hil yn darparu goruchwyliaeth ac yn gweithredu’r camau i ddod yn Brifysgol Wrth-Hiliol ac i gael effaith hirdymor a chadarnhaol ar gydraddoldeb hil a newid diwylliannol.
Grŵp Gweithredu ar Hil - Cylch Gorchwyl (dolen i PDF)
Mae'r Grŵp Gweithredu ar Hil yn cyfarfod yn fisol a dyma’r aelodau:
Enw | Rôl ac Adran |
---|---|
Neil Glasser | Dirprwy Is-Ganghellor; Cyfadran Gwyddorau Daear a Bywyd â chyfrifoldeb Gweithredol am Gydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant |
Robin Halley | Cyfarwyddwr; Marchnata a Denu Myfyrwyr |
John Harrington | Dirprwy Bennaeth; Cymorth i Fyfyrwyr a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd |
Elinor Howells | Swyddog Cyfathrebu, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus |
Sheree Jonas | Swyddog Cydraddoldeb Hil, Adnoddau Dynol |
Dylan Jones | Rheolwr Amrywiaeth a Chynhwysiant, Adnoddau Dynol |
Trish McGrath | Prif Swyddog Gweithredol; Undeb y Myfyrwyr |
Colin McInnes (Chair) | Dirprwy Is-Ganghellor; â chyfrifoldeb am Ethnigrwydd fel rhan o’r Portffolio Cydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant |
Ian Munton | Cyfarwyddwr; Gwasanaethau Myfyrwyr a'r Gwasanaeth Gyrfaoedd |
Egwuagha Victor Okoro | Cynorthwyydd Cynllunio-Dadansoddi a Gwybodaeth Fusnes, Cynllunio |
Suzy Shipman | Rheolwr Trawsnewid Digidol, Gwasanaethau Gwybodaeth |
Aisleen Sturrock | Cydlynydd Ymgyrchoedd a Democratiaeth, Undeb y Myfyrwyr |
Sarah Taylor | Pennaeth Datblygu Strategol, Cynllunio |
Ankita Trivedi | Swyddog Darparu Adnoddau AD, Adnoddau Dynol |
Bayanda Vundamina | Llywydd y Myfyrwyr, Undeb y Myfyrwyr |
1x Cadeirydd neu Gynrychiolydd o’r rhwydwaith staff Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol | |
1x Cynrychiolydd o’r adran Farchnata a Denu Myfyrwyr | |
Cynrychiolydd Academaidd | |
Cynrychiolydd Academaidd |
Yn ystod y gwaith ar y Siarter Cydraddoldeb Hil, bydd y Grŵp Gweithredu ar Hil hefyd yn cael cefnogaeth y Gweithgorau canlynol.