Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd Ddesg Gymorth
Rydym yn cefnogi nod y Brifysgol i ddarparu lle deniadol, croesawgar ac eithriadol i weithio, astudio, ymweld ac aros trwy ddarparu gwasanaethau rheoli cyfleusterau rhagorol ar gyfer aelodau staff, myfyrwyr ac ymwelwyr y Brifysgol. Mae desg gymorth Ystadau, Cyfleusterau a Phreswylfeydd yno i chi roi gwybod am unrhyw waith cynnal a chadw/atgyweirio, difrod, peryglon, materion rheoli pla, a mân waith (o £5k hyd at £25k).
Mae yna wahanol ddulliau o roi gwybod am ddiffygion yn dibynnu ar bwy ydych chi. Gweler isod am wybodaeth sy'n berthnasol i chi:
Desg Gymorth YCP
Yn eich gwasanaeth...
Desg Gymorth YCP yw eich siop un stop ar gyfer gwneud cais am waith cynnal a chadw a mân waith (o £5m hyd at £25m).
Rydym yn cefnogi nod y Brifysgol i ddarparu lle deniadol, croesawgar ac eithriadol i weithio, astudio, ymweld ac aros trwy ddarparu gwasanaethau rheoli cyfleusterau rhagorol i aelodau, gwesteion ac ymwelwyr y Brifysgol.
Os oes angen cymorth arnoch, gallwch gysylltu â ni:
- dros y ffôn ar 01970 622999 (24 awr)
- trwy e-bost i campushelp@aber.ac.uk (sylwer mai dim ond rhwng 8:30am - 5:00pm dydd Llun - dydd Iau a 8:30am - 4:00pm dydd Gwener yr ymatebir i e-byst)
Os ydych chi'n ddefnyddiwr cofrestredig o'n system rheoli galwadau, gallwch hefyd logio galwad cymorth eich hun trwy ymweld â'n safle mewnrwyd Planet FM Enterprise. Er y gallwch logio galwad ar unrhyw adeg, bydd ceisiadau am gymorth y tu allan i oriau yn cael eu gweithredu cyn gynted â phosibl y diwrnod gwaith nesaf. Os nad ydych wedi cofrestru, cysylltwch â gweinyddwr eich adran neu borthor eich adeilad i logio neu i fynd ar ôl yr alwad ar eich rhan.