Cynllun Mentoriaid Addysg
“... rhwyd diogelwch”
“... cymorth ychwanegol wrth i chi geisio ymgartrefu”
"..Roeddwn i’n falch o gael rhywun i sgwrsio gyda mi, neu fe fyddwn wedi bod ar chwâl yn llwyr”
“... profiad cadarnhaol a oedd (gobeithio) o fudd i’r rhai a gafodd eu mentora, ond sydd wedi fy helpu i fyfyrio ar fy nghyfnod yma. Rydw i wedi defnyddio fy sgiliau cyfathrebu, cynllunio ac esbonio a bydd hyn rwy’n credu o gymorth mawr i mi yn fy ngyrfa fel athro yn y dyfodol.”
“..Roeddwn i’n gallu gofyn cwestiynau i rywun oedd wedi cael yr un profiad â mi ac a oedd felly yn gallu rhoi cyngor i mi.”
“.. Teimlwn fy mod yn cael cymorth yn arbennig gan fy mod yn fyfyriwr hŷn sydd heb wneud gwaith academaidd ers cryn amser.”
Beth yw’r cynllun?
Cynhaliwyd y Cynllun Mentora Addysg fel cynllun peilot i gynorthwyo Myfyrwyr Hŷn ar y cwrs gradd Astudiaethau Plentyndod. Oherwydd ei lwyddiant, newidiwyd y cynllun i gynnwys holl fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn astudio naill ai am radd Addysg neu Astudiaethau Plentyndod. Mae’n gynllun mentora grŵp lle mae myfyriwr o’r ail neu’r drydedd flwyddyn yn cynorthwyo grŵp o fyfyrwyr y flwyddyn gyntaf yn ystod eu semester cyntaf yn y Brifysgol. Y mae’r cynllun yn cynnig lefel ychwanegol o gynhaliaeth gan fyfyriwr sydd eisoes wedi bod drwy’r un profiad a bydd hyn o gymorth i wneud i chi deimlo’n fwy hyderus yn eich astudiaethau. Mae mentoriaid yno i gynnig cymorth ar amryw faterion, yn amrywio o’r academaidd – Ble mae’r ddarlith? Sut ddylwn i gyflwyno aseiniadau? Sut ydw i’n ysgrifennu nodiadau darlith? i’r an-academaidd – Ble mae’r cyri gorau? Pa un yw’r dafarn orau yn y dref? Ac yn y blaen.
Beth yw amcanion y cynllun?
Os ydych chi’n cael eich mentora, mae’r cynllun yn anelu i gynorthwyo gyda’ch astudiaethau a chyda’r trosglwyddo o’r ysgol neu o fyd gwaith i fywyd prifysgol:
“... heb y cynllun, roeddwn i’n dychryn wrth feddwl dod i’r brifysgol oherwydd y bwlch mawr o ran amser rhwng gadael yr ysgol a dod yma. Mae’r cynllun wedi fy helpu i beidio teimlo ar goll a nawr rydw i’n fwy cyfforddus gyda’r cwrs.”
"...mae setlo i lawr i fywyd prifysgol yn anodd, felly mae cael rhywun sydd wedi bod drwy’r un profiad i siarad gyda chi yn wych.”
".. Fe’m helpodd i ymlacio mwy yn achos aseiniadau gan fy mod yn gwybod bod rhywun ar gael i siarad am y peth.”
“..mae’n helpu gan ei fod yn rhoi i chi ffordd i gyfarwyddo â’ch amgylchoedd yn ogystal ag i wneud yn siwr eich bod wedi deall cwestiynau aseiniad”
Fel mentor, mae’r cynllun yn anelu i’ch gwneud yn fwy cyflogadwy ac ar yr un pryd i feithrin golwg newydd arnoch chi eich hun.
“... y mae wedi fy annog i fyfyrio o ddifrif ar fy mhrofiadau fy hun o fywyd myfyriwr yn Aberystwyth; mewn ffyrdd na fyddwn yn wreiddiol wedi meddwl a fyddai o gymorth i mi.”
"... Mae bod yn fentor yn werth chweil ac mae’n gyfle gwych.”
“.. Mae bod yn fentor wedi fy helpu i ystyried fy sgiliau a’m gwybodaeth fy hun wrth i mi helpu pobl eraill i weithio ar eu rhai hwy. Roedd gallu helpu rhywun arall i setlo i lawr i’r cwrs yn deimlad gwirioneddol dda ac roedd helpu i ateb eu cwestiynau yn hwb i’m hyder.”
“.. Mae wedi rhoi hyder personol i mi yn fy ngallu i fentora rhywun a rhoi i mi ragor o ffocws ar yr hyn yr hoffwn ei wneud yn y dyfodol... roedd bod yn fentor yn fy ngwneud i’n hynod o falch wrth weld hyder pobl eraill yn cynyddu o ganlyniad i ychydig o eiriau dethol neu gyfarfod am hanner awr.”
“.. Wedi cael fy mentora y llynedd, roeddwn yn teimlo fod dod yn fentor a finnau wedi profi’r un pryderon fy hun y llynedd yn ei gwneud yn haws i mi adeiladu perthynas dda.”
Fel adran, rydym yn gobeithio y bydd y cynllun yn caniatáu i fyfyrwyr sy’n mentora ac yn cael eu mentora ddatblygu yn bersonol ohono. Bydd y myfyrwyr newydd yn cael cymorth ychwanegol anffurfiol i wneud y trosglwyddo i fywyd a gwaith prifysgol mor ddi-ffwdan â phosibl, a bydd y myfyrwyr sy’n mentora yn ennill sgiliau a phrofiadau gwerthfawr o ran trin pobl a fydd yn eu gwneud yn fwyfwy cyflogadwy. Mae myfyrwyr ar y ddwy ochr yn y gorffennol wedi gwerthfawrogi’r ddarpariaeth yn fawr ac wedi elwa’n sylweddol ohono.
“Trwy ddod yn fentor cewch sgiliau allweddol a fydd yn edrych yn rhagorol ar eich CV ac yn eich gwneud yn fwy cyflogadwy ar ôl graddio. Fe gewch y profiad hanfodol o gynorthwyo myfyrwyr ac mae hyn yn agwedd y mae cyflogwyr yn y sector addysg a’r sector gwasanaethau plant yn edrych amdano wrth recriwtio.” (Cydgysylltydd Cyflogadwyedd Ysgolion)
Sut alla i gymryd rhan?
I gael eich mentora:
Caiff gwybodaeth am y cynllun ei ddarparu yn eich pecyn croeso i’r Ysgol, sy’n cael ei anfon allan cyn i chi ddechrau ar y cwrs. Gall unrhyw fyfyriwr blwyddyn gyntaf sy’n astudio yn yr adran gael ei fentora, os ydych chi’n dod yn syth o’r ysgol, yn fyfyriwr hŷn neu’n fyfyriwr tramor. Wrth gyrraedd y brifysgol cewch wybod a gawsoch le ar y cynllun. Y mae nifer y lleoedd ar y cynllun yn dibynnu’n union ar nifer y mentoriaid. Byddwch yn cyfarfod â’ch mentor a myfyrwyr eraill eich grŵp yn y Sesiwn Groeso yn ystod yr wythnos gofrestru (cewch fanylion am hyn cyn i chi ddod). Bryd hynny fe gewch lawlyfr a fydd yn rhoi rhagor o fanylion am y cynllun.
Fel mentor:
Fel arfer mae galwad am fentoriaid yn cael ei anfon allan ar ddechrau’r ail semester. Gwneir hyn drwy e-bost i holl fyfyrwyr yr ail a’r drydedd flwyddyn a thrwy bosteri ar hysbysfyrddau’r israddedigion. Gwahoddir myfyrwyr i ddod i gyflwyniad ar gyfer dethol myfyrwyr, ac ar ôl bod yno cânt eu hannog i lenwi ffurflen gais. Bydd y Cydgysylltydd Mentoriaid, Cyfarwyddwr yr Israddedigion a’r Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu wedyn yn dethol myfyrwyr. Os cewch eich cymeradwyo i fod yn fentor ᶧ, cynhelir hyfforddiant ôl y Pasg fel arfer. Yn y sesiwn hyfforddi fe gewch lawlyfr a fydd yn rhoi rhagor o fanylion am y cynllun, yn tynnu sylw at rai o’r pynciau a godir yn yr hyfforddiant, ac yn rhoi manylion am reolau adrannol a rhestr o fanylion cyswllt. Cewch hefyd hawl i ddefnyddio fforwm trafod y Cynllun Mentoriaid Addysg ar Blackboard lle gellir drafod agweddau cadarnhaol a negyddol gyda’r Mentoriaid eraill yn ogystal â Chydgysylltydd y Mentoriaid.
(Mewn rhai achosion, efallai y cewch eich rhoi ar restr wrth gefn i fod yn fentor. Os bydd hyn yn digwydd, gofynnir i chi fynd i’r sesiynau hyfforddi ond efallai na chewch eich defnyddio yn fentor oni bai bod y galw am y cynllun yn uchel neu os yw mentor arall yn penderfynu peidio â chymryd rhan yn y cynllun).
Cyn dechrau’r tymor cewch eich rhoi gyda grŵp o fyfyrwyr i’w mentora, a byddwch yn cyfarfod â hwy yn y sesiwn groeso yn ystod wythnos y cofrestru. Byddwch yn mentora grŵp o tua 4-6 o fyfyrwyr (gan ddibynnu ar nifer y ceisiadau a dderbynnir).
Manylion cyswllt: Cyd-gysylltyddion Mentoriaid yw Laura McSweeney (lam30@aber.ac.uk) a Megan Harnett (meh19@aber.ac.uk).