MA Addysg (Cymru)
Mae'r MA Addysg (Cymru) cenedlaethol yn rhaglen wirioneddol drawsnewidiol ac arloesol ar gyfer gweithwyr addysgol proffesiynol yng Nghymru, o athrawon ar ddechrau gyrfa i uwch arweinwyr.
Mae'r byd addysg yng Nghymru yn newid yn gyflym. Mae addysgu nid yn unig yn gofyn am feistrolaeth ar set gymhleth o sgiliau i arwain, ysgogi, a hwyluso dysgu myfyrwyr, ond hefyd y gallu i ymholi i ymarfer proffesiynol er mwyn ei wella. Bydd yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru), sydd wedi'i datblygu ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru, drwy gydweithio'n uniongyrchol ag amrywiaeth o ran ddeiliaid allweddol gan gynnwys Llywodraeth Cymru-yn sicrhau bod pob gweithiwr addysg proffesiynol yng Nghymru yn cael yr un cyfle o ansawdd uchel i wella ei wybodaeth broffesiynol, ymwneud ag ymchwil, a gwella eu hymarfer proffesiynol. Anogir darpar fyfyrwyr i gysylltu â Dr Megan Hicks (meh19@aber.ac.uk) neu Dr Andrew Davies (ajd2@aber.ac.uk) am fwy o wybodaeth.
Ar gael hefyd:
- MA Education (Wales): Additional Learning Needs (X3PG2)
- MA Education (Wales): Leadership (X3PG3)
- MA Education (Wales): Curriculum (X3PG4)
- MA Education (Wales): Equity in Education (X3PG5)
Manylion cyswllt a gwybodaeth am wneud cais:
Rydym yn annog darpar fyfyrwyr i gysylltu â Dr Megan Hicks, Cyfarwyddwr Rhaglen y cwrs MA (meh19@aber.ac.uk) i gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau ac i gofrestru i ddod i un o'n nosweithiau agored ar-lein (cynhelir y rhain ym misoedd Mai, Ebrill, Mehefin, Gorffennaf).
Mae ceisiadau’n cael eu derbyn ar hyn o bryd. Byddant yn cael eu hystyried gan banel adrannol a phanel cyllido cenedlaethol. Cynhelir y paneli rhwng mis Mai a mis Medi. Mae’r panel fydd yn ystyried eich cais chi yn dibynnu pryd y bydd y cais yn ein cyrraedd.
Bydd ceisiadau'n cael eu derbyn tan 31ain Awst, ond anogir ymgeiswyr i’w cyflwyno cyn gynted â phosibl.
Mae manylion ynglŷn â dechrau'r broses ymgeisio i’w gweld ar un o broffiliau’r cwrs (dolenni uchod)
Ffurflennau
Manyleb Rhaglen
MA Addysg (Cymru) Cydnabod polisi dysgu blaenorol
Cymhwysedd Ariannu, proses dyrannu a thelerau ac amodau MA Addysg (Cymru) cenedlaethol
Cwestiynau Cyffredin