Astudio am EdD Doethuriaeth mewn Addysg (Cymru) ym Mhrifysgol Aberystwyth

Mae'r Ddoethuriaeth Addysg Genedlaethol ddwyieithog (EdD) (Cymru) wedi'i datblygu fel rhan o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i sefydlu proffesiwn sydd a'i gwaith yn seiliedig ar dystiolaeth ac er mwyn gwella cyfleoedd i addysgwyr yng Nghymru, gan adeiladu ar lwyddiant yr MA Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) a'r bartneriaeth gref bresennol rhwng prifysgolion yng Nghymru.

Mae'r radd Doethur Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) yn rhaglen ran-amser sydd ar gael i fyfyrwyr sydd eisoes wedi cwblhau'r radd Meistr Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) neu gwrs Meistr cyfatebol. Mae'r radd ddoethuriaeth broffesiynol hon yn cynnig llwybr dilyniant clir i'r rhai sy'n dymuno adeiladu ar y profiad dysgu ac ymchwil a gafwyd yn ystod eu gradd Meistr, drwy weithio gydag academyddion ac arbenigwyr ymchwil ar draws y Prifysgolion Cymru sy'n cymryd rhan, a gydag arbenigwyr yn rhyngwladol.

Gallwch gael mwy o wybodaeth yma

Neu cysylltwch a ni i drafod ymhellach: nat-edu@aber.ac.uk