Cyrsiau Uwchraddedig
MPhil a PhD
Rydyn ni'n falch o'n gwaith ymchwil ac yn croesawu myfyrwyr ymchwil uwchraddedig, o'r adran yn Aberystwyth ac o'r tu hwnt. Cwrs gradd ymchwil blwyddyn o hyd yw'r MPhil. Byddwch yn ysgrifennu traethawd hir 60,000 o eiriau ar unrhyw bwnc ym maes Addysg a/neu Astudiaethau Plentyndod, o dan oruchwyliaeth arbenigydd yn eich dewis bwnc. Cwrs gradd ymchwil tair blynedd o hyd yw'r PhD. Byddwch yn ysgrifennu traethawd estynedig 80,000-100,000 o eiriau ar unrhyw bwnc ym maes Addysg a/neu Astudiaethau Plentyndod, o dan oruchwyliaeth arbenigydd yn eich dewis bwnc.
DProf
Nod y Ddoethuriaeth Broffesiynol neu 'DProf' yw caniatáu i unigolion proffesiynol cymwysedig astudio tuag at ddoethuriaeth tra'n cynnal swydd. Gyda chefnogaeth gan Ysgol Graddedigion Aberystwyth, dyfernir DProf i'r sawl sy'n cwblhau rhaglen astudio a ddysgir yn llwyddiannus, ochr yn ochr ag astudio neu wneud gwaith ymchwil pellach. Er mwyn sicrhau perthnasedd, cysylltiad â'r byd go iawn a gwneud newidiadau ar sail polisi, gall yr ymchwil gysylltu'n uniongyrchol â'ch gweithle neu sefydliad.
MA Addysg (Cymru)
Mae ein gradd MA Addysg (Cymru) yn fenter a ddatblygwyd ar y cyd gan saith prifysgol yng Nghymru ac sy'n arwain y maes. Mae'r rhaglen hon ar gael i athrawon sydd â Statws Athro Cymwysedig, o athrawon cymharol newydd i arweinwyr profiadol sy'n gweithio yn y sector addysg orfodol yn y DU ar hyn o bryd. Mae cyllid ar gael i athrawon sy'n byw yng Nghymru.
EdD - Doethuriaeth mewn Addysg (Cymru)
Mae'r radd Doethur Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) yn rhaglen ran-amser sydd ar gael i fyfyrwyr sydd eisoes wedi cwblhau'r radd Meistr Cenedlaethol mewn Addysg (Cymru) neu gwrs Meistr cyfatebol. Mae'r radd ddoethuriaeth broffesiynol hon yn cynnig llwybr dilyniant clir i'r rhai sy'n dymuno adeiladu ar y profiad dysgu ac ymchwil a gafwyd yn ystod eu gradd Meistr, drwy weithio gydag academyddion ac arbenigwyr ymchwil ar draws y Prifysgolion Cymru sy'n cymryd rhan, a gydag arbenigwyr yn rhyngwladol.
Am ragor o wybodaeth:
Byddem yn falch iawn o ymateb i ymholiadau gan fyfyrwyr sydd â diddordeb yn y llwybrau gradd hyn. E-bostiwch nat-edu@aber.ac.uk i gael rhagor o wybodaeth am y rhaglenni Meistr ac EdD Cenedlaethol neu add-ed@aber.ac.uk ar gyfer unrhyw un o'r cynlluniau eraill.