Dr Rhodri Evans BScEcon (Aberystwyth), MA (Aberystwyth), PhD (Aberystwyth), AFHEA
Darlithydd Addysg
Manylion Cyswllt
- Ebost: rhe26@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0002-2382-6409
- Swyddfa: 2.15, Adeilad Penbryn 5
- Ffôn: +44 (0) 1970 621929
- Google Scholar: https://scholar.google.co.uk/citations?user=gVunutoAAAAJ
- Proffil Porth Ymchwil
Proffil
Rhodri Aled Evans ydw i, ac rydw i'n ddaearyddwr dynol hanesyddol sydd wedi darganfod cartref o fewn i'r Ysgol Addysg. Rwy'n ymddiddori mewn materion sydd ynghlwm ag hunaniaeth, gwleidyddiaeth genedlaetholgar, radicaliaeth myfyrwyr, hanes Cymru a'r gwledig. Graddiais gyda BScEcon mewn Hanes a Gwleidyddiaeth Ryngwladol o Brifysgol Aberystwyth yn 2015, cyn ymgymryd ag MA mewn Hanes Cymru yn Aberystwyth a ganolbwyntiodd ar brotestiadau 'Rhyfel y Degwm' yn ystod yr 1890au. Yna ymchwiliais i gymdeithas myfyrwyr Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a'i rôl wrth ddatblygu ymlyniad wrth hunaniaeth genedlaethol Gymreig yn ystod y 1960au. Ar ôl cwblhau fy PhD, symudais i'r Ysgol Addysg yn 2021.
Dysgu
Ymchwil
Yn gyntaf, mae gen i ddiddordeb mewn materion yn ymwneud â ffurfiant hunaniaeth genedlaethol o fewn cymdeithas, a'r modd y mae gwahanol ffurf ar hunaniaeth yn cael eu mynegi a'u meithrin. Yn ail, rwy'n ymddiddori mewn cyfranogiad ymylol mewn cymdeithas sifil, gan gynnwys gweithredoedd y gellir eu hystyried yn 'radical'. Yn ogystal, mae materion ynglwm a'r gwledig, a'u heffaith ar ddarpariaeth addysgol, a chyfleoedd, yn cynrychioli diddordeb sy'n datblygu.
Cyfrifoldebau
Rwyf yn gyfrifol am gydlynu cyfleoedd ein myfyrwyr adrannol i astudio dramor.
Oriau Swydda (Amseroedd Cyswllt Myfyrwyr)
- Dydd Iau 9:00-17:00