Mrs Bethan Bleddyn B.A. Dyniaethau (Prifysgol Cymru); MPhil (Prifysgol Caerdydd); TAR (Prifysgol Aberystwyth)

Mrs Bethan Bleddyn

Darlithydd Addysg

Ysgol Addysg

Manylion Cyswllt

Proffil

Yn dilyn cwblhau cwrs Gradd Dyniaethau yng Ngholeg y Drindod, cwblhaodd Bethan Radd Meistr mewn Athroniaeth, ac yna dilyn cwrs TAR ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Bu’n athrawes ac yn Bennaeth mewn ysgolion cynradd ym Mhowys am dros ugain mlynedd cyn ymuno â’r Cwrs TAR yma yn Aberystwyth fel Tiwtor Cyswllt Cynradd, ynghyd â  darlithio ar fodiwlau Israddedig yr Ysgol Addysg.  Mae ganddi ddiddordeb mewn Addysg Gynradd, ac ymchwilio i’r defnydd o strategaethau ac addysgeg y Cyfnod Sylfaen mewn dosbarthiadau Cyfnod Allweddol 2.