Partneriaeth CysylltiAD - Cyflwyniad

Sut gall eich sefydliad weithio gyda'r Ysgol Addysg?

Fel prifysgol flaengar yng Nghymru, rydym am ddatblygu perthynas waith agosach gyda'r sefydliadau a'r cwmnïau gorau i hyrwyddo'r ffordd y mae plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi, eu diogelu, eu datblygu a'u haddysgu yn ymarferol.

Os yw eich cwmni neu'ch sefydliad yn chwilio am gyfleoedd ymchwil ac ymholi mawr neu fach, cydweithio ar brosiectau, datblygu a hyfforddi staff a recriwtio myfyrwyr a graddedigion, yna mae'n siwr y gallwn eich helpu.

Pa opsiynau sydd ar gael?

Cyfleoedd Ymchwil ac Ymholi

Cael cyngor arbenigol i'ch sefydliad - mae gan ein staff yr arbenigedd ymchwil i gyfrannu at ddatblygiad eich busnes craidd.

Gallwn:

  • Ddarparu arbenigedd ymchwil ar gyfer prosiectau yr hoffech eu datblygu
  • Arwain neu gydweithio ar brosiectau a ariennir
  • Gynnig cyngor neu ymgynghoriaeth ar feysydd arbenigedd

Defnyddiwch ein prosiectau myfyrwyr i'ch helpu i ddatrys heriau dosbarth neu sefydliadol. Cewch bersbectif newydd ar broblemau wrth helpu gweithwyr y dyfodol i ddatblygu eu sgiliau trwy fewnwelediadau ymchwilio ar raddfa fach.

Gall ein myfyrwyr:

  • Gymryd rhan mewn casglu data
  • Ddarparu dadansoddiad ac archwilio
  • Adrodd ar ddamcaniaethau a chanfyddiadau cyfredol
  • Awgrymu canlyniadau arloesol

Hyfforddiant a Datblygiad Staff

Beth am gael mynediad i'r arbenigedd yn yr Ysgol Addysg i gael hyfforddiant arloesol ac effeithiol i staff yn eich sefydliad. 

Gellir trefnu hyfforddiant pwrpasol, wedi'i addasu mewn amrywiaeth o agweddau addysgol a phlentyn-ganolog (er enghraifft: rhifedd; llythrennedd; datblygu iaith; addysgeg; mentora; arweinyddiaeth; dulliau ymchwil; pynciau cwricwlaidd; hawliau plant) yn ogystal â mynediad mwy ffurfiol at gymwysterau academaidd ac achrededig (er enghraifft: Meistr a PhD).

Gellir trefnu cyfleoedd hyfforddi hyblyg i fodloni lleoliad daearyddol.

Recriwtio Myfyrwyr a Graddedigion

Ychwanegwch syniadau, egni a sgiliau newydd i'ch sefydliad drwy leoliad myfyrwyr, cynnig cyfleoedd gwirfoddoli, elwa o interniaeth neu drwy recriwtio ein graddedigion o ansawdd uchel.

  • Cynhaliwch leoliad tymor byr
  • Cynigiwch interniaeth neu gyfle Blwyddyn mewn Diwydiant
  • Manteisiwch ar fynediad i wirfoddolwyr brwdfrydig ac ymroddedig ar gyfer prosiectau penodol neu gyfranogiad eang
  • Byddwch y cyntaf i gydnabod a recriwtio ein graddedigion gorau i'ch sefydliad.

Cefnogi’r Genhedlaeth Nesaf

Gallai eich sefydliad gyfrannu at ddatblygiad a chefnogaeth y genhedlaeth nesaf tra'n elwa o'r cyfraniad hwnnw:

  • Cyflwyno darlith wadd
  • Trefnu gweithdy am eich sefydliad a'i amcanion
  • Trefnu ymweliad â'ch sefydliad
  • Gofyn am neu adnabod prosiect ymchwiliad
  • Darparu lleoliad