Teithio i Aberystwyth

 

Ein Gwasanaeth i Gludo Myfyrwyr o’r Maes Awyr

Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig gwasanaeth i gludo myfyrwyr rhyngwladol o Faes Awyr Rhyngwladol Birmingham ar ddyddiadau prysur penodol trwy gydol y flwyddyn - rhagor o wybodaeth.

Teithio Mewn Car

Mae'n hawdd cyrraedd Aberystwyth mewn car. Mae golygfeydd hardd i'w gweld o ba gyfeiriad bynnag y byddwch yn teithio.

Cyngor i Bobl Sy'n Defnyddio Llywiwr Lloeren

Os ydych yn bwriadu defnyddio Llywiwr Lloeren i deithio i Aberystwyth, bydd y wybodaeth ganlynol yn ddefnyddiol i chi:

LLEOLIAD CÔD POST
Campws Penglais SY23 3BY
Campws Llanbadarn SY23 3AS
Campws Gogerddan SY23 3EB
Yr Hen Coleg SY23 2BH

Os ydych yn teithio i Gampws Penglais (prif gampws y Brifysgol) rydym yn argymell eich bod yn defnyddio'r arwyddion cyfeiriadol pan fyddwch chi'n agosáu at Aberystwyth.

Os ydych yn teithio i leoliad arall ym Mhrifysgol Aberystwyth rydym yn argymell eich bod yn osgoi defnyddio isffyrdd, hyd yn oed os yw eich Llywiwr Lloeren yn dweud wrthych am eu defnyddio.

Gwefru Cerbydau Trydan

Er mwyn cefnogi’r defnydd cynyddol o gerbydau trydan, mae Prifysgol Aberystwyth wedi gosod gwefryddion cerbydau trydan mewn sawl man ar ystâd y Brifysgol. Mae arwyddion wrth ymyl pob gwefrydd yn dangos sut i’w defnyddio. Dargafanddwych mwy am ein gwerfru cerbydau trydan ar y campws

Parcio i Ymwelwyr

Yn ystod digwyddiadau arbennig megis Diwrnodau Agored, Diwrnodau Ymweld neu’r Seremonïau Graddio, bydd arwyddion a/neu staff y brifysgol ar gael i gyfeirio ymwelwyr i’r mannau parcio.

Os ydych yn ymweld â’r brifysgol ar fusnes arall, ewch i Swyddfa’r Porthorion ar Gampws Penglais i ofyn am drwydded barcio i ymwelydd.

Os ydych yn ymweld â Champws Penglais i ddefnyddio cyfleusterau eraill, gan gynnwys Canolfan y Celfyddydau, defnyddiwch y maesydd parcio Talu ac Arddangos.

Rhagor o wybodaeth am Parcio

Cyrraedd y Deyrnas Unedig mewn Awyren

Maes Awyr Birmingham yw'r maes awyr mwyaf cyfleus yn y DU os ydych yn dod i Aberystwyth. Gallwch brynu tocyn trên i Aberystwyth o'r orsaf drenau yn y maes awyr neu gallwch brynu tocyn ymlaen llaw ar-lein. Mae’r gwasanaeth trên uniongyrchol o Faes Awyr Rhyngwladol Birmingham i Aberystwyth yn cymryd 3 awr a 15 munud.

Os byddwch yn dewis hedfan i Heathrow, Gatwick neu Stanstead, gallwch deithio i Aberystwyth naill ai ar y trên neu ar y bws. I deithio ar y trên o Lundain, bydd angen i chi ymadael o Orsaf Drenau Euston, Llundain. I deithio ar y bws o Lundain, bydd angen i chi ymadael o Orsaf Fysiau Victoria, Llundain.

Os byddwch yn dewis hedfan i Luton, bydd angen i chi ymadael o Orsaf Drenau Milton Keynes i gael gwasanaethau trên i Aberystwyth.

Os byddwch yn dewis hedfan i Faes Awyr Manceinion, gallwch brynu tocyn i Aberystwyth o'r orsaf drenau yn y maes awyr neu gallwch brynu tocyn ymlaen llaw ar-lein. Sylwch nad oes gwasanaeth trenau uniongyrchol i Aberystwyth o Fanceinion. Bydd yn rhaid i chi newid trên, felly cynlluniwch eich taith ymlaen llaw i sicrhau y cewch daith ddidrafferth ar y diwrnod. Ni ddylai fod angen i chi newid trenau fwy na ddwywaith, ac mae’r daith yn cymryd rhyw bedair awr a hanner i gyd.

Teithio ar y Trên

O Orsaf Drenau Euston, Llundain neu Orsaf Drenau Milton Keynes, bydd angen i chi ddal gwasanaeth sy'n teithio i Orsaf Drenau Ryngwladol Birmingham neu Birmingham New Street.

Yng ngorsaf Drenau Ryngwladol Birmingham neu Birmingham New Street, bydd angen i chi newid trên ar gyfer y gwasanaeth i Aberystwyth. Mae’r daith o Lundain, gan gynnwys y newid, yn cymryd rhyw 5 awr.

Teithio ar y Bws

Mae'r gorsafoedd bysiau ar gyfer gwasanaeth i Aberystwyth wedi'u lleoli yng ngorsaf Victoria, Llundain. Ewch ar y bws National Express rhif 409 i Aberystwyth. I gael rhagor o wybodaeth gweler gwefan y National Express.

Os ydych chi'n teithio ar fws o fewn Cymru, mae Traws Cymru yn gweithredu sawl llwybr ledled Gogledd a De Cymru sy'n gwasanaethu Aberystwyth. Gwiriwch wefan Traws Cymru am ragor o wybodaeth.