Gwasanaethau ac Adnoddau i Fyfyrwyr
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig ystod o wasanaethau ac adnoddau’n benodol i fyfyrwyr. Rydym yn darparu’r gwasanaethau a’r adnoddau hyn i gynorthwyo myfyrwyr yn gymdeithasol, i gynorthwyo eu lles a’u bywydau i’r dyfodol.
Cymorth Dysgu ac Anabledd
Mae’r Brifysgol yn cynnig cymorth dysgu ac anabledd i fyfyrwyr sydd â chyflyrau iechyd meddwl/corfforol hirsefydlog neu wahaniaeth dysgu penodol. Rydym yn anelu at greu cwricwlwm cynhwysol sy’n hygyrch i bawb, llety wedi’i addasu, a mynediad i ardaloedd dysgu sydd â chyfrifiaduron, caledwedd arbennig, meddalwedd ychwanegol a gliniaduron. Gallwn gynnig cyngor i chi am drefniadau arholiadau unigol a thechnoleg galluogi er mwyn i chi gyflawni eich potensial llawn a chael y canlyniadau yr ydych yn eu haeddu. I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch yma.
Gwasanaethau Gyrfaoedd
Pa un ai eich bod yn fyfyriwr newydd, yn fyfyriwr presennol neu’n fyfyriwr uwchraddedig, mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd yn cynnig cyngor hanfodol gan aelodau o staff proffesiynol a phrofiadol i’ch helpu â chyflogaeth neu efallai i wella eich CV. Mae’r Gwasanaeth Gyrfaoedd wedi’i leoli ar lawr gwaelod y Ganolfan Croesawu Myfyrwyr. Gellir trefnu cyfarfodydd drwy apwyntiad neu alw heibio.
Hugh Owen
Llyfrgell Hugh Owen yw prif lyfrgell y Brifysgol ac mae wedi’i lleoli yng nghanol campws Penglais. Mae’n cynnig y nifer fwyaf o adnoddau astudio megis:
- Pedair ystafell astudio i grwpiau (uchafswm o 8 o bobl)
- Chwech o guddyglau gwydrog (uchafswm o 4 o bobl)
- Ystafell Hermann Ethé (uchafswm o 18 o bobl)
- Ystafell Joy Welch (uchafswm o 8 o bobl)
- Dros 100 o gyfrifiaduron
- Argraffu, llungopïo a sganio
- Wi-Fi
- Peiriannau dŵr a bwyd
Llyfrgell Genedlaethol Cymru
Mae Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi’i lleoli o dan gampws Penglais gyda golygfa dros Fae Ceredigion. Datganiad cenhadaeth y Llyfrgell Genedlaethol yw sicrhau bod ein diwylliant a’n treftadaeth ar gael i bawb i ddysgu, ymchwilio a mwynhau.
Llyfyrgell y Gwyddorau Ffisegol
Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol
Mae Llyfrgell y Gwyddorau Ffisegol yn llyfrgell hardd sydd wedi’i lleoli ar lawr uchaf adeilad y Gwyddorau Ffisegol. Mae’n cynnig adnoddau megis:
- Cyfrifiaduron
- Gofod i dros 100 o ddarllenwyr
- Argraffu, llungopïo a sganio
- Wi-Fi
- Peiriannau dŵr a bwyd
- Loceri
- Chwyddaduron
- Troshaenau lliw
Lolfa Pentre Jane Morgan (PJM)
Mae Lolfa Pentre-Jane Morgan (PJM) yn ardal astudio yn ardal preswylfeydd PJM ac mae’n cynnig cyfleusterau megis:
- Cyfrifiaduron
- Llungopïo, argraffu a sganio
- Wi-Fi
- Byrddau gweithio i grwpiau mawr
- Peiriannau dŵr a bwyd
Lolfa Rosser
Mae Lolfa Rosser yn ardal astudio yn ardal preswylfeydd Rosser sy’n cynnig cyfleusterau megis:
- Cyfrifiaduron
- Llungopïo, argraffu a sganio
- Wi-Fi
- Byrddau gweithio i grwpiau mawr
- Peiriannau dŵr a bwyd
Melin Dradof
Mae’r Felin Drafod yn ardal astudio yn adeilad Llandinam. Mae’n cynnig cyfleusterau megis:
- Dwy ardal astudio i 5 person
- Dwy ardal astudio i 6 person
- 4 cyfrifiadur
- Wi-Fi
- Llungopïwr
- Peiriannau bwyd a diod
- Ffynnon ddŵr
- Lle i 27 o bobl eraill eistedd
Undeb y Myfyrwyr
Mae Undeb Myfyrwyr Aberystwyth yn trefnu digwyddiadau cymdeithasol, chwaraeon a chymdeithasau ar gyfer amrywiaeth eang o wahanol ddiddordebau a hobïau. Mae’r adeilad hefyd yn cynnig cyfleusterau megis bar, byrddau pŵl, ystafell ddigwyddiadau fawr, Nosh Da (bwyd), teledu, sgriniau taflunio ar gyfer chwaraeon byw, siop a’r Gwasanaeth Gyrfaoedd.