Ein Tiroedd
Wedi’i leoli bellter cerdded o dref Aberystwyth, Campws Penglais yw prif gampws addysgu’r Brifysgol. Mae gan y campws nifer o drysorau cudd gan gynnwys llwybrau natur, bywyd gwyllt, ac ystod eang o blanhigion. Cewch ragor o wybodaeth isod.
Gerddi Botaneg
Mae tai gwydr y gerddi botaneg yn y Brifysgol wedi’u lleoli ar draws y ffordd i brif Gampws Penglais. Prynwyd y gerddi gan y Brifysgol ym 1946 ac o fewn dwy flynedd roedd y tŷ wedi cael ei adnewyddu’n helaeth a’i ehangu, a bu staff y gerddi’n taclo’r anialwch o’i gwmpas, er mwyn creu gardd hyfryd gyda lawntiau’n arwain i lawr at y nant fach a gwelyau o lwyni a phlanhigion lluosflwydd. Hefyd, adeiladwyd tŷ gwydr mawr gyda ffrâm bren, ynghyd ag adeilad o frics sydd nawr yn gweithredu fel ein siediau potio a storio.
Undeb y Myfyrwyr
Mae Undeb y Myfyrwyr (UM) yn ardal gymunedol i fyfyrwyr ble gallant gymdeithasu, bwyta bwyd, prynu diodydd, chwarae pŵl a gwylio chwaraeon yn fyw. Mae Undeb y Myfyrwyr yn cynnig cyfleusterau a gwasanaethau megis coffi Starbucks, bwyd Nosh Da, diodydd meddal a diodydd alcoholig ym mar UM, siop UM a gwasanaethau cymorth i fyfyrwyr.
Teithiau Cerdded ar y Campus
Mae tair taith gerdded ar ein prif gampws ym Mhenglais y byddem yn eu hargymell. Ar y teithiau hyn cewch gyfle i weld rhai o’r coed prin a blannwyd gan Brifysgol Aberystwyth. Mae’r holl deithiau cerdded yn dechrau ger y Ganolfan Chwaraeon ac maent yn para rhwng 20 a 40 munud.