Y Celfyddydau a Diwylliant

Cyfeirir yn aml at Aberystwyth fel ‘prif ddinas ddiwylliannol’ Cymru o ganlyniad i’w heffaith gref ar y celfyddydau a diwylliant yn y gymuned. Mae Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth wedi’i lleoli yng nghanol Campws Penglais ac mae’n cynnwys theatr, sinema, neuadd gyngherddau a stiwdios, yn ogystal â chwe oriel, caffis, barau  a siopau.

Sinema Canolfan y Celfyddydau

Sinema

Mae gan y ganolfan sinema sy’n dal 112 o bobl ac sy’n defnyddio technoleg megis sgrinio 3D, taflunio HD digidol a Systemau Stereo Dolby. Mae’r sinema’n dangos o leiaf ddwy ffilm y dydd gan gynnwys ffilmiau Hollywood, rhyngwladol, clasurol ac annibynnol. Yn ogystal â sgrinio ffilmiau’n ddyddiol, mae’r sinema hefyd yn cynnal nifer o wyliau megis Gŵyl Abertoir a Gŵyl Ffilm Cymru a’r Byd yn Un.

Theatr Canolfan y Celfyddydau

Theatr

Mae gan y ganolfan theatr sy’n dal 312 o bobl sy’n arddangos amrywiaeth o adloniant megis theatr, dawns, opera, comedi, sioeau cerdd a llawer mwy yn rheolaidd.

Stiwdios Creadigol

Stiwdios Creadigol

Diben y prosiect Stiwdios Creadigol, a oedd yn werth £1.4 miliwn, oedd datblygu busnesau o fewn y celfyddydau, asiantaethau datblygu’r celfyddydau, artistiaid a gweithwyr crefft gan Ganolfan Celfyddydau Aberystwyth. Mae’r Stiwdios Creadigol yn cynnwys wyth adeilad ac mae gan bob adeilad ddwy uned sy’n cynnig gofodau swyddfa a gweithdai i fentrau yn y celfyddydau ac artistiaid lleol.

Cafodd y stiwdios eu dylunio gan Heatherwick Studio, un o gwmnïau dylunio pennaf gwledydd Prydain, ac mae ei phrosiectau gorffenedig yn cynnwys siop fyd-enwog y cwmni brand moethus Longchamp yn Efrog Newydd, Rolling Bridge yn Llundain a chaffi gwobrwyol East Beach yn Littlehampton. 

Canolfan Gerdd

Ganolfan Gerdd

Mae’r Ganolfan Gerdd wedi’i lleoli ar lawr gwaelod yr Hen Goleg ar lan y môr. Wrth i chi ddod i mewn drwy’r brif fynedfa, trowch i’r chwith ar gyfer Swyddfa’r Ganolfan Gerdd, yr Ystafelloedd Ymarfer, y Llyfrgell a’r Stiwdio, a throwch i’r dde ar gyfer y Neuadd. Mae Canolfan Gerdd y Brifysgol yn cynnwys nifer o bianos, dwy organ law electronig, telyn, harpsicord ac organ siambr, yn ogystal ag offerynnau taro ac offerynnau eraill.