Dr Sarah Clarke
IBERS Research Development Officer
IER Invigilator
Specialist Study Skills Teacher
IER Reader
Manylion Cyswllt
- Ebost: sjc@aber.ac.uk
- ORCID: 0009-0007-3493-1822
- Swyddfa: 2.00, Adeilad Stapledon
- Ffôn: +44 (0) 1970 622759
- Proffil Porth Ymchwil
Proffil
Swyddog Datblygu Ymchwil yn IBERS, a gweinyddwr yr Hwb Dyfodol Gwledig rhyngddisgyblaethol.
Cefndir mewn Gwyddorau Biolegol, gan gynnwys BSc (Anrh) mewn Bioleg Amgylcheddol, TAR mewn Gwyddorau Cytbwys, a dyfarnwyd PhD o'r enw "Monitro biobrosesau microbaidd ar gyfer crynodiadau metabolaidd gan ddefnyddio sbectrosgopeg Raman" o Brifysgol Aberystwyth.
Rwyf wedi gweithio ar nifer o brosiectau ymchwil gan gynnwys fel rheolwr prosiect ar gyfer prosiect Interreg a ariannwyd gan yr UE, CUPHAT, a oedd yn brosiect rhyngddisgyblaethol wedi'i leoli yn yr adran Ddaeareg. Rwyf hefyd wedi gweithio fel cynorthwy-ydd ymchwil ar nifer o brosiectau yn yr adran Busnes, gan gynnwys yr Asesiad Effaith Economaidd ar y prosiect Sbectrwm Radio ac Effaith Covid ar aelwydydd a busnesau yng Ngheredigion.
Rwyf hefyd wedi cefnogi myfyrwyr israddedig a meistr, fel tiwtor cymorth sgiliau astudio, yn Adran Cefnogi Myfyrwyr y brifysgol dros gyfnod o 15 mlynedd.