Dr Sioned Llywelyn BSc, MSc, PhD, FHEA
Digital Skills Lead
Manylion Cyswllt
- Ebost: sil12@aber.ac.uk
- Swyddfa: E7, Llyfrgell Hugh Owen
- Ffôn: +44 (0) 1970 622511
- Gwefan Personol: https://www.linkedin.com/in/sionedllywelyn/
- Proffil Porth Ymchwil
- Rhagenwau personol: Hi/ei
Proffil
Ar ôl derbyn gradd dosbarth cyntaf mewn Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2014, treuliodd Sioned flwyddyn yn astudio gradd MSc ar Newid, Effaith ac Addasu Amgylcheddol eto o'r Adran Ddaearyddiaeth a Gwyddor Dear (ADGD).
Ar ôl derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, cwblhaodd ei thesis PhD yn 2019 yn ADGD. Archwiliodd ei hymchwil ffyrdd gwahanol o hyrwyddo ymwybyddiaeth geomorffolegol mewn ardaloedd yng Nghymru, gan edrych ar le’r ardaloedd hynny mewn diwylliant Cymraeg ar hyd y canrifoedd. Wrth gwblhau ei PhD, dysgodd Sioned ar nifer o fodiwlau cyfrwng Cymraeg a Saesneg yn ADGD a daeth yn Gymrawd o'r Academi Addysg Uwch yn 2019.
Yn 2019 gweithiodd Sioned ym Menter a Busnes, yn y lle cyntaf i wneud gwaith ymchwil ar fesur allyriadau nwyon tŷ gwydr ar ffermydd Cymru, ac yna fel Rheolwr Datblygu a Mentora. Dychwelodd Sioned i Brifysgol Aberystwyth ym mis Medi 2020 fel Arbenigwr Dysgu Ar-lein gyda'r Uned Datblygu Dysgu ac Addysgu lle bu'n cefnogi aelodau staff i ddarparu addysg o’r ansawdd uchaf ar-lein i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth, ac fe ddatblygodd hi ddarpariaeth o gyrsiau hyfforddi ac adnoddau cyfrwng Cymraeg yr uned i staff y brifysgol.
Ym mis Awst 2021, penodwyd Sioned yn Arweinydd Sgiliau Digidol o fewn Gwasanaethau Gwybodaeth. Roedd hi'n rheoli'r Prosiect Sgiliau Digidol, gan greu amryw o gyfleoedd ac adnoddau i gynorthwyo myfyrwyr a staff i asesu, cynllunio a gwella eu hyder gyda thechnoleg, gan hybu llythrennedd digidol ar draws y brifysgol. Ers Awst 2024, mae Sioned yn gweithio fel Rheolwr Prosiect Dysgu Ar-lein o fewn y Brifysgol.
Ymchwil
PhD (DGES, Prifysgol Aberystwyth, Ionawr 2020): "Archwilio’r posibiliadau ar gyfer mewnblannu dealltwriaeth geomorffolegol o fewn cadwraeth treftadaeth ddaearyddol Cymru"
Cyfrifoldebau
Rheolwr Prosiect Dysgu Ar-lein