Prof Rhys Jones

Proffil

Mae Rhys Jones FLSW yn Athro Daearyddiaeth Ddynol ac yn gyn Bennaeth Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ystod o themâu cydberthynol sy'n gysylltiedig â daearyddiaeth wleidyddol:

1. daearyddiaeth hunaniaethau grŵp sy'n canolbwyntio'n benodol ar ddaearyddiaeth cenedlaetholdeb Cymreig a'r ffordd y mae hyn yn cael ei lunio gan arferion gofodol a chymunedol, iaith, yn ogystal ag arferion pobl ifanc;

2. daearyddiaeth y wladwriaeth, lle mae'n arbenigo ar natur tiriogaethol y wladwriaeth, ynghyd â dealltwriaethau anthropolegol ohoni. Mae hefyd yn arbenigwr ar ddatganoli yn y DU, yn enwedig mewn perthynas â Chymru;

3. y defnydd a wneir o fewnwelediadau ymddygiadol mewn polisi cyhoeddus mewn ystod o wahanol wledydd. Mae ei waith yn y maes hwn wedi archwilio'r heriau ymarferol sy'n gysylltiedig â datblygu ymyriadau sy'n seiliedig ar ymddygiad, yn ogystal â'r materion mwy moesegol sy'n codi o'u defnyddio.

Mae wedi cyhoeddi’n eang ar y themâu hyn, gan gynnwys un ar ddeg o lyfrau a dros wyth deg o erthyglau a phenodau llyfrau. Cefnogwyd ei waith gan grantiau ymchwil gan yr ESRC, yr AHRC, Ymddiriedolaeth Leverhulme, Horizon 2020, INTERREG a Llywodraeth Cymru.

Mae ei brosiectau ymchwil cyfredol yn canolbwyntio ar: syniadau o gydlyniant tiriogaethol a chyfiawnder gofodol yn yr UE (Horizon 2020); daearyddiaethau mudiadau rhanbarthol yn yr UE (ESRC); twristiaeth treftadaeth, hunaniaeth a symudedd rhwng Iwerddon a Chymru (INTERREG).

Mae'n Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru ac yn Gymrawd Academi'r Gwyddorau Cymdeithasol. Mae hefyd yn Aelod o Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Cyhoeddiadau

Royles, E, Jones, R & Lewis, H 2024, Adroddiad ar ddulliau asesu hyfywedd iaith | Methods of Assessing Linguistic Vitality Report. Prifysgol Aberystwyth | Aberystwyth University. 10.20391/605eb48c-05e5-44bc-96c5-83394bce046c
Whitehead, M & Jones, R 2024, Nudging. The Economy Key Ideas, Agenda Publishing.
Jones, R & Moisio, S 2024, 'Regions and the search for spatial justice: a question of capacity?', Regional Studies. 10.1080/00343404.2024.2390505
Hughes, B, Jones, K, Jones, R & Lewis, H 2023, Adolygiad o Gynllun Grantiau Llywodraeth Cymru i Hyrwyddo a Hwyluso’r Defnydd o’r Gymraeg. Llywodraeth Cymru | Welsh Government.
Mahon, M, Woods, M, Farrell, M, Jones, R & Goodwin‐Hawkins, B 2023, 'A spatial justice perspective on EU rural sustainability as territorial cohesion', Sociologia Ruralis, vol. 63, no. 3, pp. 683-702. 10.1111/soru.12444
Mwy o gyhoeddiadau ar y Porth Ymchwil