Prof Neil Glasser
Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Daear a Bywyd
Manylion Cyswllt
- Ebost: nfg@aber.ac.uk
- ORCID: 0000-0002-8245-2670
- Swyddfa: K9, Adeilad Llandinam
- Ffôn: +44 (0) 1970 622785
- Twitter: @neilnfg
- Google Scholar: https://scholar.google.co.uk/citations?user=EtOvTPoAAAAJ
- Proffil Porth Ymchwil
Noder: Mae gwybodaeth ychwanegol neu manylach ar y fersiwn Saesneg o'r proffil hwn.
Proffil
Yr Athro Neil Glasser
Dirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Daear a Bywyd
Ymunodd Neil Glasser â Phrifysgol Aberystwyth ym mis Ebrill 1999, fel Darlithydd mewn Daearyddiaeth Ffisegol, a chafodd ei ddyrchafu'n Uwchddarlithydd yn 2002, Darllenydd yn 2004 ac Athro yn 2006. Yn 2006-2007 roedd yn Ysgolhaig Nodedig Fulbright yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Data Eira ac Iâ yn Boulder, Colorado. Mae wedi bod yn aelod o Goleg Adolygiadau Cyd-academyddion Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol (NERC) ddwywaith (2005-2008 a 2011 hyd heddiw) ac roedd yn aelod o Bwyllgor Llywio Cyfleuster Dadansoddi Isotopau Cosmogenig y Cyngor Ymchwil (2007-2013). Mae Neil hefyd yn olygydd ar y Journal of Glaciology ac ef yw Golygydd Sefydlol Quaternary Sciences Advances.
Mae ei grantiau a’i bapurau ymchwil diweddaraf yn cynnwys cyfraniadau ar ddefnyddio tirffurfiau erydol rhewlifol i ail-greu cyn lenni iâ, sut mae rhewlifeg strwythurol yn cyfrannu at gludo a dyddodi gweddillion a datblygu tirffurfiau, ymateb rhewlifoedd sydd wedi'u gorchuddio â gweddillion i newid yn yr hinsawdd, a hanes rhewlifol hirdymor Antarctica. Mae'n gweithio ar hyn o bryd ar setiau data mawr sy'n ymwneud ag ymateb Llen Iâ'r Antarctig i newid yn yr hinsawdd, llifogydd yn sgil rhewlifeiriannau yn yr Himalaya ac argaeledd dŵr yn y dyfodol, a microbioleg masau iâ'r Arctig.
Ar hyn o bryd mae'n Ddirprwy Is-Ganghellor Cyfadran y Gwyddorau Daear a Bywyd, sy'n cynnwys tair Adran Academaidd fawr (Gwyddorau Bywyd, Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear, a Seicoleg) yn ogystal â Sefydliad Ymchwil mawr (IBERS). Mae'n gyfrifol ar lefel Gweithrediaeth y Brifysgol am Gydraddoldeb, Amrywioldeb a Chynhwysiant, a'r Amgylchedd a Chynaliadwyedd.