Grŵp Ymchwil Daearyddiaeth Ddiwylliannol a Hanesyddol
Mae Aberystwyth yn ganolfan flaenllaw i ymchwil ym maes daearyddiaeth ddiwylliannol a hanesyddol. Mae aelodau'r grŵp wedi ymchwilio'n helaeth mewn nifer o feysydd, ac rydyn ni'n croesawu ymholiadau gan ddarpar fyfyrwyr sydd â diddordeb mewn astudio yn Aberystwyth.
Aelodau: Peter Merriman (Pennaeth), Robert Dodgshon (Emeritus), Elizabeth Gagen, Gareth Hoskins, Rhys A Jones, Mitch Rose, Rita Singer
Aelodau uwchraddedig: Rhodri Evans, Elinor Gwynn, Silvia Hassouna, Flossie Kingsbury, Eleri Phillips, Lowri Ponsford.
Aelodau cyswllt: Jesse Heley, Rhys Dafydd Jones, Cerys Jones, Hywel Griffiths, Sarah Davies, Mark Whitehead, Michael Woods.
Prif Themâu Ymchwil:
Tirwedd ac Amgylchedd
Datblygu agweddau damcaniaethol tuag at dirwedd, archwilio'r berthynas rhwng tirwedd, diwylliant a hunaniaeth (Rose), symudedd (Merriman), cof (Hoskins, Rose), ac amser (Dodgshon, Hoskins). Gwnaed ymchwil empeiraidd ar dirweddau llwyfandir Giza yng Nghairo (Rose), tirweddau mwyngloddio Califfornia, De Affrica, a Chymru (Hoskins), tirweddau gyrru ym Mhrydain (Merriman), amgyffred tirweddau Califfornia trwy gyfrwng dawns gan Anna a Lawrence Halprin (Merriman), ffermydd trefol yn Detroit (Rose), a thirweddau gwledig ucheldiroedd ac ynysoedd yr Alban (Dodgshon).
Gwnaed ymchwil cynhwysfawr hefyd ar ddaearyddiaeth ddiwylliannol a hanesyddol amrywiaeth mawr o amgylcheddau, yn aml mewn cydweithrediad ag aelodau'r grŵp ymchwil Daearyddiaeth Wleidyddol Newydd. Mae hyn yn cynnwys ymchwil ar hanes amgylcheddol cloddio glo, aur a diemwntau (Hoskins, Whitehead), gwerthoedd amgylcheddol (Hoskins), daearyddiaeth hanesyddol rheoli atmosfferig (Whitehead), atgofion am ddigwyddiadau tywydd eithafol yn y Deyrnas Gyfunol (Cerys Jones, Sarah Davies), effaith amgylcheddol cymunedau alpaidd a’u defnydd o adnoddau (Dodgshon).
Symudedd
Mae Aberystwyth yn ganolfan flaenllaw i ymchwil ym maes daearyddiaeth symudedd, a gwneir ymchwil ar ontoleg symudol a symudedd-gofod (Merriman), ymfudo (Hoskins, Rhys Dafydd Jones, O'Connor), a daearyddiaeth diwylliant moduro. Mae prosiectau ymchwil wedi canolbwyntio ar ddaearyddiaeth y draffordd M1 yn Lloegr, canolfannau mewnfudo yr Unol Daleithiau (Hoskins), a hanes cynnar gyrru ym Mhrydain (Merriman).
Mae aelodau'r grŵp yn cydweithio'n agos ag ysgolheigion o bob rhan o'r byd, yn ogystal â chwarae rhan bwysig yn y Ganolfan Astudio Symudedd Pobl.
Materoldeb, Cof a Threftadaeth
Mae'r ymchwil yn canolbwyntio ar y man cyfarfod rhwng themâu materoldeb, amser, cof, treftadaeth, gwleidyddiaeth, a lle.
Mae tri aelod o'r grŵp yn rheoli rhan Aberystwyth mewn prosiect mawr aml-bartner pedair blynedd 'Porthladdoedd Ddoe a Heddiw’ (2019-2023), a gyllidir gan raglen Iwerddon-Cymru Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop (ERDF), sy'n astudio hanes a threftadaeth pump o borthladdoedd pwysig yn Iwerddon a'r teithiau rhyngddynt (Merriman, Rhys Jones, Singer).
Mae prosiectau eraill yn archwilio safleoedd treftadaeth ddiwydiannol a chreu atgofion mwyngloddio (Hoskins), agweddau damcaniaethol ynglŷn ag agweddau amseroldeb (Dodgshon), a’r rhan mae safleoedd treftadaeth yn ei chwarae wrth greu hunaniaeth genedlaethol Eifftaidd (Rose) a hunaniaeth genedlaethol yr Unol Daleithiau (Hoskins). Mae'r ymchwil wedi defnyddio dulliau amrywiol, o ddulliau ethnograffig a chyfranogol i ymchwil archifol a chyfweliadau.
Seicoleg, ymddygiad a lle
Astudio sut mae awdurdodau wedi ceisio mowldio a llywodraethu dinasyddion trwy dechnegau seicolegol ac ymddygiadol, o ddechrau'r ugeinfed ganrif i'r cyfnod cyfoes. Mae hyn yn cynnwys gwaith ar y rhan sydd i seicoleg datblygiad wrth ystyried cyrff plant yn y cyfnod blaengar yn yr Unol Daleithiau (Gagen), rhan rhaglenni addysg emosiynol wrth ad-drefnu dinasyddiaeth a rhywedd ymhlith ieuenctid cyfoes Prydain (Gagen), ac ymchwil ar ofodau-amser tadofalaeth ysgafn, niwro-ryddfrydiaeth, ymwybyddiaeth ofalgar, a mabwysiadu technegau ymddygiad yn y Brydain gyfoes (Rhys Jones, Whitehead).
Daearyddiaeth ddiwylliannol a hanesyddol Cymru
Aberystwyth yw'r brif ganolfan i ymchwil ar ddaearyddiaeth ddiwylliannol a hanesyddol Cymru, a'i phwyslais cryf ar ymchwil ar genedlaetholdeb a hunaniaeth genedlaethol (Rhys Jones, Merriman), gwleidyddiaeth iaith (Rhys Jones, Merriman), symudedd (Merriman), y cof (Hoskins, Griffiths, Cerys Jones), crefydd (Rhys Dafydd Jones), ieuenctid (Rhys Jones), hanes a threftadaeth porthladdoedd (Merriman, Rhys Jones) a Chymru wledig (Rhys Dafydd Jones, Heley, Woods).
Mae prosiectau penodol wedi canolbwyntio ar: treftadaeth ddiwylliannol porthladdoedd Caergybi, Abergwaun a Doc Penfro yng Nghymru, a chysylltiadau hanesyddol ag Iwerddon (Merriman, Rhys Jones, Singer), mwyngloddio, treftadaeth a chof yng Nghymru (Hoskins), Aberystwyth ac ail-greu diwylliant a gwleidyddiaeth Cymru (Rhys Jones), ymgyrch Cymdeithas yr Iaith am arwyddion ffordd dwyieithog (Merriman, Rhys Jones), crefydd a hunaniaeth yn y Gymru wledig (Rhys Dafydd Jones), daearyddiaeth hanesyddol byd-ehangu yng nghanolbarth Cymru (Woods, Heley), atgofion am lifogydd ym Mhatagonia (Hywel Griffiths, Stephen Tooth), daearyddiaeth hanesyddol Urdd Gobaith Cymru (Rhys Jones, Merriman), symudedd a chysylltedd yng Nghymru (Merriman, Rhys Jones), daearyddiaeth ddiwylliannol-hanesyddol afonydd Cymru (Griffiths), ac atgofion am ddigwyddiadau tywydd eithafol yng Nghymru yn y 19eg a'r 20fed ganrif (Sarah Davies, Cerys Jones). Cyhoeddwyd peth o'r ymchwil yn y Gymraeg yn ogystal â Saesneg.
Mae aelodau'r grŵp yn cydweithio'n agos â'r grŵp ymchwil Daearyddiaeth Wleidyddol Newydd.