Cyrsiau Maes Daearyddiaeth
Caiff Aberystwyth ei hamgylchynu gan dirlun hynod ddiddorol ac arfordir gwirioneddol ddifyr. Drwy gydol ein cynlluniau gradd israddedig bydd myfyrwyr yn cael y cyfle i archwilio’r ardal leol trwy gyfrwng ystod o dripiau maes sy’n rhan greiddiol o’r modiwlau a gynigir.
Dros y Pasg yn ystod ail flwyddyn y cwrs, bydd myfyrwyr Daearyddiaeth, Daearyddiaeth Ddynol a Daearyddiaeth Ffisegol, yn teithio i bob rhan o’r byd ar gwrs maes preswyl rhyngwladol. Ceir gwybodaeth isod am y cyrsiau maes sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd.
Seland Newydd
Mae tirluniau daearegol ifanc Ynys y De yn cynnig labordai naturiol rhyfeddol ar gyfer daearyddwyr ffisegol er mwyn archwilio ystod o brosesau geomorffolegol a pheryglon naturiol a chymhwyso amrywiaeth o dechnegau synhwyro o bell i adnabod yr amgylchedd. Mae’r darlithwyr yn rhai sy’n ymchwilio yn Seland Newydd, a phrif fwriad y daith yw arfogi myfyrwyr a’r sgiliau gwaith maes ymarferol sydd eu hangen er mwyn cwblhau eu traethodau hir daearyddiaeth.
Dechreua’r daith ar lannau Llyn Wakatipu, gyda’r gwaith maes yn canolbwyntio ar fesur ffurf a phrosesau afonydd deinamig, yn mesur y carbon a gedwir mewn hen fforestydd ffawydd a deall effaith rhaeadrau gwaddod cyfoes ar risg llifogydd. Mae ail hanner y daith wedi’i lleoli ar Fynydd Cook. Yma, bydd myfyrwyr yn dysgu dehongli ffotograffiaeth lloeren er mwyn mapio geomorffoleg, profi gwaddod a ffurfiwyd gan ystod o brosesau daearol, ac ymchwilio i newid rhewlifol cyfoes. Bydd nifer o fyfyrwyr yn teithio’n annibynnol cyn neu wedi’r daith maes, gyda rhai yn mynd i Ynys y Gogledd i gerdded y Tongariro; bydd eraill yn ymweld â Christchurch er mwyn gweld canlyniadau difrod y daeargryn diweddar.
Efrog Newydd
Mae’r daith maes wythnos o hyd i Manhattan, Efrog Newydd, yn caniatau i fyfyrwyr ymwneud â nifer o agweddau creiddiol daearyddiaeth ddynol. Bydd staff yn arwain grwpiau i wahanol ardaloedd a lleoliadau o gwmpas y ddinas, gan drafod themâu megis cynllunio trefol, hunaniaeth ddiwylliannol, daearyddiaeth economaidd, geowleidyddiaeth, gweithredu cymunedol, a phensaernïaeth dirweddol. Byddant ar gael wedyn i arwain ymchwil annibynnol y myfyrwyr eu hunain sydd yn digwydd ar wahanol adegau yn ystod yr wythnos.
Dros y blynyddoedd, mae myfyrwyr wedi cwblhau ystod o brosiectau, gyda chyfraniadau gan awdurdodau’r ddinas, mentrau masnachol, cwmnïau eiddo, curaduron amgueddfeydd a phersonél diogelwch. Mae prosiectau wedi edrych ar bynciau megis yr arfer o goffau yn Ground Zero, gwrthdaro defnydd tir yn y Meat Packing District, cynllunio ar gyfer argyfwng corwynt yn Battery Park, preifateiddio gofod cyhoeddus yn Times Square, yn ogystal â meysydd megis hil a hiliaeth yn Chinatown, Greenwhich Village a Harlem.
Creta
Creta yw’r mwyaf o ynysoedd Groeg, i’w gweld tua hanner ffordd rhwng tir mawr Groeg ac arfordir gogledd yr Affrig. Bu pobl yn byw yno ers c. 6000CC ond yn ystod y cyfnod Minoaidd (c. 3000 BC - 1100 CC) y cafodd yr ynys y mwyaf o ddylanwad diwylliannol yn ardal Môr y Canoldir. Mae’r ynys tua 200 km o hyd, ac mae arni dair cadwyn o fynyddoedd, gyda'r copaon uchaf yn ymestyn dros 2400m uwchben y môr. Mae ei hinsawdd lled-gras, ei hanes tectonig (ar y glandiroedd Arifaidd ac Ewrasaidd), ei thirwedd uchel a’i daeareg amrywiol yn golygu fod Creta yn ‘labordy naturiol’ i astudio effaith newid hinsawdd ar ddatblygiad y tirlun a phrosesau geomorffolegol. Mae gan y staff sy’n arwain y daith brofiad ymchwil helaeth o weithio ar yr ynys a/neu mewn amgylcheddau lled-gras. Deillia nifer o brosiectau’r myfyrwyr o brosiectau ymchwil a gyhoeddwyd gan staff Aberystwyth dros yr ugain mlynedd ddiwethaf.
Mae’r daith yn dechrau yn Chora Sfakia, a thros y tri diwrnod cyntaf, caiff y myfyrwyr gyfle i fod yn rhan o brosiectau’r staff – prosiectau megis mapio geomorffolegol Ceunant Aradena, astudio effaith llifogydd hanesyddol yng Ngheunant Illingas, ac ail-lunio dilyniant datblygiad bwa llifwaddodol. Ar Ddiwrnod 4 y daith, bydd y myfyrwyr fel arfer yn mynd ar gwch i Palaeochora ar begwn de orllewinol yr ynys, gyda chyfle i ymweld â’r enwog Geunant Samaria. Yna, ar ddeuddydd olaf y daith, bydd myfyrwyr yn datblygu eu prosiectau eu hunain yn seiliedig ar un o dair thema: Tsunami, gweithgarwch cwymp cerrig, ac ymatebion yr afonydd i ymgodiad tectonig. Daw’r daith i ben gyda chyflwyniadau’r myfyrwyr ar ganlyniadau’r prosiectau grŵp a phryd mewn tafarn Roegaidd leol. Ac wrth gwrs, ceir cyfle bob blwyddyn i brofi dyfroedd Môr y Canoldir!
Dulyn a Mynyddoedd Wicklow
Mae prif ddinas Gweriniaeth Iwerddon yn ddinas fywiog a modern, gyda hanes diwylliannol, gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd hynod ddifyr. Mae hefyd yn ddigon agos at Ddyffryn Glendalough ym Mharc Cenedlaethol Mynyddoedd Wicklow, lle gwelir y croestoriad rhwng prosesau ffisegol sy’n ffurfio’r tirlun â’r defnydd cyfoes a hanesyddol a wneir o’r ardal (twristiaeth, amaethyddiaeth, cadwraeth a chloddio metal).
Canolir y daith hon yn Nulyn, ac mae’n archwilio’r themâu sy’n berthnasol i ddaearyddiaeth ddynol a ffisegol, gan gynnwys daearyddiaeth ardaloedd trefol ar ôl diwydiannu, rheolaeth tir gwledig a lle natur yn y ddinas.
Bydd myfyrwyr hefyd yn ymarfer defnyddio dulliau gwyddonol geomorffolegol, ecolegol a Chwaternaidd, ac yn archwilio themâu megis daearyddiaethau cenedlaetholdeb a hunaniaeth Wyddelig. Bydd cyfle hefyd i ymweld â ffatri Guinness, er mwyn archwilio daearyddiaethau diwylliannol un o allforion enwocaf Dulyn!
Killarney, De Orllewin Iwerddon
Mae’r daith i Killarney yn cynnig cyfle i fyfyrwyr ennill sgiliau cynllunio, cymhwyso a chyflwyno ymchwil amgylcheddol a hynny yn nhirlun nodedig Parc Cenedlaethol Killarney yn Ne Orllewin Iwerddon.
Ar y diwrnod cyntaf, bydd taith ar gwch drwy’r llynnoedd a thaith gerdded 15km cyn ymlacio mewn sesiwn gwis gyda’r nos. Cyflwynir technegau dadansoddi a mapio nodweddion geomorffeg rhewlifol ym Mwlch Dunloe. Ar y trydydd diwrnod, bydd y dosbarth yn defnyddio amrywiaeth o fethodolegau i fesur llif yr afon a safon y dŵr, cyn archwilio’r mwyngloddiau copr o’r Oes Efydd ar gwr y Llyn Isaf.
Bioamrywiaeth ac atafaeliad carbon yw themâu’r ymarferion olaf, lle defnyddir dulliau arolwg fforestydd a thyfiant i amcangyfrif cynnwys carbon y coed derw ac yw brodorol. Bydd myfyrwyr wedyn yn cynllunio a chwblhau eu prosiectau eu hunain, cyn cyflwyno’r canlyniadau ar noson olaf y daith.