Cyrsiau Maes Gwyddor Daear Amgylcheddol
Mae myfyrwyr Gwyddor Daear Amgylcheddol yn ymgymryd â gwaith maes yn ystod pob blwyddyn o'u gradd, a bydd y rhaglen gwaith maes yn dysgu sgiliau pwysig y gellir eu trosglwyddo'n uniongyrchol i'r gweithle.
Plygiadau trawiadol mewn creigiau Cyn-Gambriaidd Ynys Cybi, Ynys Môn.
Yn y flwyddyn gyntaf, mae cwrs maes preswyl yn cyflwyno technegau daearegol a geomorffolegol sylfaenol, megis datblygu sgiliau arsylwi, dulliau llyfr nodiadau a chofnodi ar gyfer data gwyddor Daear, ac yn gwneud defnydd o ddaeareg a geomorffoleg clasurol Gogledd Cymru i’ch cyflwyno i waith maes gwyddor Daear. Mae'r cynnwys yn dod â chi i gysylltiad ag ystod eang o ddeunydd, o ddisgrifio creigiau igneaidd neu wneud brasluniau maes cywir o clogwyni Cwaternaidd i ymchwilio i halogi dyfroedd mwyngloddfeydd. Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys ymweliadau â safleoedd diwydiannol megis gorsafoedd pŵer a gwaith trin nwy naturiol.
Diwrnod caled o fapio daearegol yn yr haul yn Rinsey Cove yng Nghernyw.
Ar ddechrau'r ail flwyddyn, mae myfyrwyr yn ymgymryd ag wythnos o hyfforddiant technegol dwys, lle maent yn cael eu cyflwyno i'r ystod o dechnegau samplu, tirfesur, a mapio daearegol a geomorffolegol. Mae hyn yn darparu technegau sydd eu hangen ar gyfer eu prosiectau traethawd hir, ond hefyd yn rhoi’r ystod o sgiliau allweddol sydd eu hangen arnynt i ymgymryd â'r gwaith maes nodweddiadol y byddant, o bosibl, yn dod ar eu traws mewn gyrfaoedd ymgynghori amgylcheddol.
Astudio dŵr mwyngloddfeydd wedi ei halogi gan gloddio metel hanesyddol.
Yn ystod gwyliau Pasg yn yr ail flwyddyn, bydd cwrs maes preswyl i Gernyw yn adeiladu ar y profiad o'r cwrs y flwyddyn gyntaf a bydd yn datblygu sgiliau daearegol ac amgylcheddol. Mae myfyrwyr yn ymchwilio i halogiad dŵr o weithgarwch mwyngloddio hanesyddol, yn astudio esblygiad daearegol yr ardal a'r mwynau economaidd cysylltiedig ac agweddau ar newid hinsoddol ac amgylcheddol Cwaternaidd yn ystod y cwrs wythnos o hyd.
Cyflwyno i brosesu mwynau yn y felin ym mwynglawdd tun Geevor, Cernyw.
Yn mlwyddyn olaf y radd, mae yna gwrs maes wythnos o hyd i dde Iwerddon pryd mae myfyrwyr yn aml yn gweithio mewn grwpiau bach. Maent yn astudio ystod o bynciau, ac yn cynnal ymarferion wedi'u targedu i ymchwilio i agweddau ar adfer amgylcheddol ac effaith cyfredol a hanesyddol mwyngloddio, neu ymarferion mapio byr ac asesiadau daearegol, arolygon maes ac astudiaethau eraill sy'n gysylltiedig â echdynnu deunydd fel mwynau ar raddfa fawr. Mae'r rhain i gyd yn adeiladu ymhellach ar y sgiliau a ddatblygwyd yn y cyrsiau maes cynharach, yn ogystal â gwella dealltwriaeth o ddeunydd darlithoedd a chyrsiau labordy.
Cofnodi gwaddod o esmwythder clogfeini ysblennydd wedi eu hindreulio o waddodion traeth Cwaternaidd wedi eu cyfodi.
Mae rhaglen maes GDA wedi ei gynllunio i fynd â myfyrwyr dibrofiad a’u helpu i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen i ymgymryd â gwaith maes mewn amgylchedd masnachol, gan gydymffurfio â safonau'r diwydiant ac arfer da, ond mae'r un mor berthnasol i fyfyrwyr sy'n dilyn astudiaeth bellach ar ôl eu BSc.